Cymru i Bawb – A Wales for all

Yn ddiweddar fe wnes i gwrdd â grŵp o ffoaduriaid ifanc yn ne Cymru. Roedden nhw wedi ffoi o’r gwledydd oedd yn gartrefi iddynt, ar eu pennau eu hunain, i chwilio am noddfa yma. Arddegwyr rhwng 15 ac 18 oed oedden nhw, ac roedd gan bawb ohonyn nhw obeithion, breuddwydion, uchelgais a photensial, yn ogystal â thrawma a thorcalon amlwg oherwydd eu profiadau a’r hyn roedden nhw wedi’i adael ar ôl. Dyma rai o’r miliynau o blant a phobl ifanc sydd wedi ffoi o ardaloedd lle mae rhyfel yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae miloedd lawer ohonyn nhw wedi dod i Gymru.

Yn ddiweddarach, mewn ysgol gynradd, fe wnes i gwrdd â phedwar plentyn oedd yn ffoaduriaid, yn cael eu trochi mewn ysgol fywiog, gyfoethog lle roedd mwy na 40 o ieithoedd yn cael eu siarad, ac yn addasu i newidiadau â gwydnwch plant ifanc. Roedden nhw wedi symud i Gymru gyda’u teuluoedd, oedd hefyd yn ffoi rhag rhyfel.

Mae fy rôl innau fel Comisiynydd wedi’i chyfyngu i’r materion sydd wedi’u datganoli i Lywodraeth Cymru. Mae materion a neilltuwyd fel lloches a mewnfudo yn rhan o gylch gorchwyl Comisiynydd Plant Lloegr Rachel de Souza, ond mae’n hanfodol bwysig bod ein swyddfeydd yn cydweithio’n agos arnyn nhw.

Ymhlith y pryderon a gododd pobl ifanc gyda fi roedd yr amserau aros i dderbyn cardiau adnabod wedi’u cywiro, gan fod hynny’n gallu cymryd misoedd ac arwain at oedi hir cyn iddyn nhw fedru cael mynediad at addysg. Sonion nhw hefyd am gostau uchel bwyd da a thrafnidiaeth, a phrofiadau o bobl yn eu poeni oherwydd eu hil neu eu crefydd.

Mae gan bob plentyn sy’n byw yng Nghymru yr un hawliau, ac mae hynny’n cynnwys plant sydd wedi dod i Gymru yn ceisio statws ffoadur. Mae’r rhain yn cynnwys hawliau i fod yn ddiogel, i gael addysg, ac i gyflawni hyd eithaf eu potensial. Mae Cymru’n Genedl Noddfa, ac mae ganddi hanes hir o groesawu pobl a phlant o wledydd eraill, gan gynnwys y rhai oedd yn ffoi rhag erledigaeth y Natsïaid yn yr Ail Ryfel Byd, ac yn fwy diweddar plant a theuluoedd o Syria, Affganistan ac Wcráin. Des innau i Gymru yn faban oedd yn ffoi o Tsile, felly mae gen i brofiad personol o’r croeso a’r noddfa sydd yma.

Gall normalrwydd a chynhesrwydd bywyd ysgol ddarparu maeth y mae mawr angen amdano i blant a phobl ifanc sydd wedi profi’r fath drawma. Roedd yn amlwg sut roedd yr ysgol wedi darparu’r maeth hwnnw, a hefyd sut roedd wedi helpu i ddysgu plant eraill am bwysigrwydd y croeso cynnes Cymreig. Roedd yn wych darllen am lawer mwy o enghreifftiau yn adroddiad blynyddol diweddar Estyn, oedd yn sôn am sut mae ysgolion, colegau ac awdurdodau lleol wedi gweithio’n galed i roi mynediad i’w hawliau i blant sy’n ffoaduriaid a’u teuluoedd. Roedd hynny’n cynnwys clwb ar ôl ysgol sy’n dod â theuluoedd ac asiantaethau at ei gilydd i sicrhau mynediad hwylus at gymorth a chyngor, ac ysgol yn defnyddio llenyddiaeth benodol i gefnogi integreiddiad ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Yng Nghaerdydd, anogir pob ysgol i ddod yn ‘Ysgolion Noddfa’ – mae hynny’n galw am gwblhau hyfforddiant penodol sy’n cyflwyno’r canllawiau gwrthfwlio cyfredol a pheth hyfforddiant ar wrth-hiliaeth, gyda ffocws penodol ar groesawu ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Yr wythnos ddiwethaf, fe fues i’n siarad mewn digwyddiad rhanbarthol ar gyfer arweinwyr ysgol cynradd ac uwchradd, oedd i gyd yn bresennol er mwyn ystyried ym mha ffyrdd gallan nhw ddefnyddio cwricwlwm yr ysgol i gefnogi diwylliant sy’n dathlu ac yn hyrwyddo amrywiaeth.

Er gwaethaf y pethau cadarnhaol hyn, mae yna agweddau negyddol hyll ar lefel cymdeithas. Mae’n destun pryder ein bod yn gweld cynnydd mewn gwrthwynebiad i ffoaduriaid a rhethreg hiliol. Mae’r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus yn aml yn cael ei gysylltu’n gamarweiniol â ffigurau mewnfudwyr, ac rydyn ni’n ymwybodol o beryglon ‘gwleidyddiaeth chwibanu ar y cŵn’.  Bu cynnydd aruthrol mewn digwyddiadau hiliol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a chan fod mewnfudo’n debygol o fod yn faes trafod allweddol ar draws y Deyrnas Unedig yn ystod blwyddyn etholiad, rwy’n pryderu y bydd hyn yn parhau.

Amlygodd fy adroddiad ar hiliaeth mewn ysgolion brofiadau pobl ifanc yng Nghymru sy’n wynebu camdriniaeth hiliol, ac mae’n dangos bod llawer i’w wneud er gwaethaf cynnydd sylweddol mewn perthynas ag amrywiaeth yn y cwricwlwm, ac ymrwymiad i greu Cymru Wrth-hiliol.

Gwaetha’r modd, rydyn ni’n byw mewn byd sy’n fwyfwy ansefydlog, ac felly mae’n hanfodol bod pob plentyn yn cael eu haddysgu am faterion ffoaduriaid, lloches a mudo. Mae llawer o fythau a syniadau camarweiniol yn bodoli, a gall hynny fod yn beryglus, i ni fel cymdeithas ac i unigolion, gan gynnwys plant, a allai ddod yn dargedau neu’n ddioddefwyr yn sgîl agweddau gelyniaethus. Mae hwn yn wir yn fater cymdeithasol amlweddog sy’n galw am newid ar sawl lefel. Ond wrth gwrs, mae ysgolion mewn sefyllfa unigryw i fedru helpu i ddylanwadu ar sut mae plant yn gweld y byd a’r bobl sy’n ei rannu gyda nhw.

O dan yr amgylchiadau hyn, sy’n gallu bod yn anodd weithiau, rwyf am ddiolch i bob ysgol sydd wedi gweithio i’r eithaf, nid yn unig i roi’r croeso cynhesaf i blant sy’n ffoaduriaid, ond hefyd i sicrhau bod pob plentyn yn deall pwysigrwydd y croeso cynnes Cymreig mae cynifer wedi’i deimlo dros y blynyddoedd, gan gynnwys fi fy hun.