Y flwyddyn o’n blaenau: Chwe thasg i’r llywodraeth newydd

Bydd y flwyddyn nesaf yn un dyngedfennol i blant a phobl ifanc Cymru. Mae rhywfaint o obaith yn y golwg oherwydd rydyn ni fel petaen ni’n dod trwy waethaf y pandemig, ond mae tensiwn yn yr aer yn bendant, gan fod llawer yn dal i bryderu am donnau pellach.

Mae’r pandemig wedi cael effaith ddwys ar blant a phobl ifanc, fel mae’r ddau arolwg mawr y buon ni’n eu cynnal wedi dangos, a hynny er gwaethaf ymdrechion aruthrol gan deuluoedd a’n holl wasanaethau cyhoeddus i’w cadw nhw’n ddiogel, yn iach, ac yn derbyn addysg. Bydd gan y llywodraeth newydd dasg hanfodol i’w gwneud ar frys i sicrhau ein cenhedlaeth iau ei bod yn gefn iddyn nhw, ac y bydd yn gwneud popeth posibl i’w helpu i ffynnu yn y tymor byr a’r tymor hir. Pa ffordd well o ddangos hynny mewn ffordd ymarferol na thrwy gynnal gweinidog penodol ar gyfer iechyd meddwl, a sefydlu pwyllgor is-gabinet plant o Weinidogion, er mwyn sicrhau bod materion plant yng nghanol ac ar flaen rhaglen y llywodraeth newydd, a bod penderfyniadau’n cael eu gwneud mewn modd cydlynus?

Bydd blwyddyn gyntaf y llywodraeth hon hefyd yn flwyddyn olaf fy nghyfnod penodedig innau o saith mlynedd fel Comisiynydd Plant, ac mae hynny’n fy ngwneud yn fwy penderfynol fyth o weld y newidiadau cynnar sy’n angenrheidiol i sicrhau hawliau plant a phobl ifanc i dyfu i fyny mewn amgylchedd lle gallan nhw fod yn hapus, yn iach ac yn ddiogel.

Ar sail fy maniffesto fy hun, a gyhoeddwyd nôl yn yr hydref, dyma 6 thasg allweddol ar gyfer misoedd cyntaf y llywodraeth:

  1. Dod â chymorth iechyd meddwl a chymorth i deuluoedd ynghyd: Gosod disgwyliadau uchel o ran sicrhau bod dull gweithredu ‘dim drws anghywir’ ar waith ym mhob man yng Nghymru pan fydd ar blant a’u teuluoedd angen help ychwanegol gyda iechyd meddwl, anabledd, cyflyrau niwro-amrywiol neu unrhyw heriau cymdeithasol eraill sy’n effeithio ar eu llesiant. Yn lle cael eu hanfon ymlaen o un man i’r nesaf, neu deimlo bod drysau’n cael eu cau yn eu hwynebau, dylen nhw dderbyn y cymorth cydlynus mae arnyn nhw ei angen cyn gynted â phosib. Bydd angen i’r Llywodraeth newydd sicrhau bod ein gwasanaethau iechyd a’n hawdurdodau lleol, sydd o dan gymaint o bwysau, yn cyfuno adnoddau lle bo angen heb ddadlau ynghylch pwy sy’n talu am beth. Mae yna rai datblygiadau newydd cyffrous i gyflawni hyn mewn sawl rhan o Gymru, ond mae’n rhaid i’r Llywodraeth ddangos yn glir mai dyma fydd profiadau plant, pobl ifanc a theuluoedd ym mhob man.

 

  1. Cwblhau camau diwygio addysg: Rhoi cefnogaeth briodol i ysgolion a cholegau yn wyneb y disgwyliadau statudol newydd uchelgeisiol a phwysig sy’n dod i rym eleni a’r flwyddyn nesaf. Mae hyn yn cynnwys y cwricwlwm newydd, deddfwriaeth anghenion dysgu ychwanegol a’r canllawiau statudol ar y Dull Ysgol Gyfan o ymdrin â Llesiant Emosiynol a Meddyliol. Mae’r proffesiwn addysgu wedi cael ei estyn i’r eithaf yn ystod yr 14 mis diwethaf, a bydd angen darparu cyllid sylweddol, yn ogystal â chydnabod y straen a fu ar leoliadau addysg, i sicrhau bod y mesurau diwygio pwysig hyn yn cael eu cyflawni’n llwyddiannus.

 

  1. Canolbwyntio ar dlodi plant: Yn ystod y pandemig dangoswyd bod modd ailddosbarthu lefelau o gymorth ariannol na welwyd mo’u tebyg o’r blaen i gefnogi pobl oedd mewn angen ariannol. Bydd angen i’r llywodraeth newydd daclo tlodi plant â syniadau mentrus wedi’r pandemig, er mwyn rhoi hwb i’r arian sydd ym mhocedi teuluoedd a gwella mynediad at y gefnogaeth sydd eisoes yn bodoli. Byddwn hefyd yn hoffi eu gweld yn cyflwyno achos cryf i Lywodraeth y Deyrnas Unedig dros ddileu’r terfyn 2-blentyn ar gyfer Credyd Cynhwysol, sy’n achos amlwg o dorri hawliau plant.

 

  1. Dysgu o’r pandemig – y da yn ogystal â’r drwg. Mae cymaint i’w ddysgu o’r pandemig, a bydd peth ohono’n destun ymchwiliad cyhoeddus, fel y dylai fod. Amlygodd y pandemig yr anghydraddoldeb y mae plant yn ei wynebu bob dydd o ran tlodi, hiliaeth a rhwystrau i blant anabl, gofalwyr ifanc a’r rhai sy’n byw mewn gofal maeth a phreswyl. Fe ddysgon ni hefyd ffaith a wnaeth ein synnu, sef bod rhai plant yn hapusach yn ystod cyfnodau clo oherwydd eu bod yn hoffi treulio mwy o amser gyda’u rhieni, neu oherwydd eu bod nhw’n cael yr ysgol yn lle brawychus, llawn anhrefn, neu oherwydd bod dim rhaid iddyn nhw fynychu gweithgareddau strwythuredig niferus, a’u bod yn gallu hunangyfeirio mwy ar eu hamser. Gallwn ni ddysgu o hynny i gyd. Ar lefel ymarferol iawn, rydyn ni nawr yn gwybod ei fod yn anodd iawn llwyddo’n addysgol heb ddyfeisiau digidol a data digonol, a bydd angen i’r llywodraeth gymryd camau pendant pellach i roi sylw i hynny. Codwyd cwestiynau sylfaenol ynghylch sut mae cyflawniadau addysgol pobl ifanc yn cael eu harholi yn ystod y pandemig. Eleni bu cyfuniad o brofion bychain a dulliau eraill o gasglu tystiolaeth. Ochr yn ochr â chydnabod yr effaith sylweddol mae hynny wedi’i chael ar ysgolion a cholegau, rhaid rhoi sylw hefyd i’r hyn rydyn ni wedi’i ddysgu eleni er mwyn datblygu system decach i’r dyfodol, a hynny i bawb.

 

  1. Peidio ag anghofio’r ‘pethau llai’ – wrth i lywodraethau gyrraedd, maen nhw am gyflawni pethau mawr. Mae hynny’n golygu bod bylchau pwysig sy’n effeithio ar niferoedd llai o blant yn gallu cael eu gwthio o’r neilltu o hyd, nes ei bod hi’n rhy hwyr i newid pethau cyn yr etholiad nesaf. Fe ddangosodd fy adolygiad ffurfiol o’r llywodraeth sut mae hynny wedi digwydd gyda rheoliadau ynghylch addysgu gartref a diogelu mewn ysgolion annibynnol. Mae angen taclo’r materion hyn yn gynnar, ynghyd ag atal gwneud elw mewn cartrefi plant, datblygu dewisiadau amgen yn lle carcharau ieuenctid yng Nghymru, a llawer o syniadau eraill sydd i’w gweld yn fy maniffesto a gyhoeddwyd yn ôl yn yr hydref.

 

  1. Rhoi gobaith: Yn olaf, mae angen llawer iawn o obaith ac optimistiaeth i bob cyfeiriad. Dyw hynny ddim yn golygu gwneud yn fach o’r aberth, y colledion a’r straen mae llawer wedi’u hwynebu yn ystod y 12 mis diwethaf, ond yn hytrach newid ffocws i’r dyfodol, a chyflawni addewidion. Mae rhaid i’r llywodraeth newydd ddangos i bobl ifanc ein bod ni’n gefn iddyn nhw wedi’r pandemig. Yn ogystal â’r amrywiol warantau swyddi a hyfforddiant sydd wedi cael eu cynnig mewn maniffestos, byddai cael teithio am ddim ar y bws yn gam mawr at ddangos eu bod yn cael eu cydnabod, ac at sicrhau mynediad mwy cyfartal at addysg, swyddi a chyfleoedd hamdden. Byddai estyn gwasanaethau ieuenctid a chwarae yn helaeth yn gwneud cymaint i wella llesiant. Byddai gwrando ar bobl ifanc a’u cynnwys er mwyn cael hyd i atebion i faterion mawr fel y newid yn yr hinsawdd yn ffordd arall o roi gobaith ar gyfer dyfodol gwell. Rydw i hefyd wedi galw am ‘Haf o Hwyl’, fel bod chwarae, chwaraeon a chelfyddydau ychwanegol eleni, a gallai’r llywodraeth newydd roi hwb ariannol i hynny fel un o’u gweithredoedd cyntaf wrth lywodraethu. Dyna ddechrau gwych fyddai hynny!