‘Fy enw i yw Joel a fi yw’r Prif Weinidog’

Plant ysgol gynradd yn eistedd o amgylch bwrdd crwn

Dyna sut ces i fy nghyfarch gan Joel, sy’n 11 oed, pan gyrhaeddais i Ysgol Gynradd Gatholig St Joseph ym Mhenarth yn ddiweddar.

Mae Cymru wedi bod yn hyrwyddo democratiaeth mewn ysgolion ers blynyddoedd lawer, gan wneud cynghorau ysgol yn orfodol ym mhob un o ysgolion y wladwriaeth o fis Rhagfyr 2005.

Mae cynghorau ysgol yn gweithredu Erthygl 12 CCUHP – sef yr hawl i blant gael clywed eu llais a chwarae rhan mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw. Serch hynny, mae ansawdd cynghorau ysgol yn amrywio.

Rydw i wedi cwrdd â phlant sy’n gallu rhestru newidiadau pwysig yng ngweithrediad yr ysgol sydd wedi digwydd trwy’r cyngor ysgol, ac eraill sy’n ei weld fel rhywbeth digon amherthnasol.

Mae Ysgol Gynradd Gatholig St Joseph ym Mhenarth wedi mabwysiadu model sy’n golygu bod pob disgybl yn ymwneud â rhedeg yr ysgol ac yn cael profiad gwirioneddol o greu newid.

Mae cabinet yn cael ei ethol gan senedd yr ysgol, ac mae’n cynnwys aelodau o bob rhan o gymuned yr ysgol. Mae’r Prif Weinidog a’r Dirprwy Brif Weinidog hefyd yn Llysgenhadon Gwych i mi yn yr ysgol, felly nhw sy’n gyfrifol am ddweud wrth bawb yn yr ysgol am hawliau plant a rhoi gwybod i mi beth yw barn a phrofiadau eu cyd-ddisgyblion.

Mae’r cabinet yn arwain cyfres o ddeg grŵp llai, neu weithgorau, sy’n trafod popeth o’r cwricwlwm i iechyd i fasnach deg. Mae’r grwpiau’n cwrdd bob wythnos i baratoi cynlluniau a chyflawni gweithgareddau, cyn cyflwyno adroddiad arnyn nhw i’r cabinet ac ateb cwestiynau manwl gan y grŵp.

Fe ges i gopi o’u cynlluniau fis Tachwedd diwethaf, ac er i lefel fanwl y cynllunio greu argraff arna i (rhestru nodau, camau gweithredu, cyfrifoldeb pwy ac amserlen), rhaid i mi gyfaddef mod i braidd yn amheus a fydden nhw’n llwyddo i gyflawni’r holl bethau uchelgeisiol oedd yn eu cynlluniau.

Ac eto, pan es i ar ymweliad â’r cabinet yn gynnar ym mis Mai, fe ges i wybod bod bron yr holl gynlluniau ar waith, bod rhai wedi’u cwblhau’n gynnar, a bod cynlluniau pellach ar y gweill.

Ymhlith y cynlluniau a gafodd eu creu a’u cyflawni gan y plant roedd cynnig am grant i ailaddurno’r neuadd, dylunio ac adeiladu ardal weddi/dawel y tu allan, a dylunio a darparu cynllun cymhelliant ar gyfer defnyddio’r Gymraeg ym mywyd pob dydd yr ysgol.

Dyma rai o’r agweddau trawiadol am y model yma:

  • Mae’r gweithgorau’n cwrdd yn amser cwricwlwm yr ysgol, gan ddangos bod llais y myfyrwyr yn ganolog i’r ysgol a sicrhau nad yw’r plant yn colli amser chwarae yn yr awyr agored.
  • Mae’r holl staff yn cefnogi nodau’r cabinet a’r gweithgorau, sy’n golygu bod yr ysgol gyfan yn gefnogol. Gwahoddwyd rhieni, neiniau a theidiau ac aelodau etholedig o’r cyngor i ddiwrnod Senedd er mwyn sicrhau eu cefnogaeth a’u dealltwriaeth hwythau.
  • Mae’r holl weithgareddau’n gysylltiedig â gwahanol rannau o Gonfensiwn y CU ar Hawliau’r Plentyn, gan roi fframwaith cydlynus i’r amrywiaeth eang o weithgareddau.
  • Mae plant o bob oed yn cael eu galluogi i gyflawni rolau arwain – mae gan y grŵp digidol ysgrifennydd o flwyddyn dau, ac mae’r grŵp cenhadaeth yn cael ei arwain gan ddisgybl o flwyddyn 3. Bydd hyn yn helpu i sicrhau cynaliadwyedd a dilyniant y gwaith.
  • Mae cyfarfodydd rheolaidd y cabinet yn rhoi ffocws canolog, ac yn cynnal momentwm y gwaith. Mae aelodaeth y Pennaeth yn rhoi statws iddo (ond o’r hyn welais i, y disgyblion oedd yn arwain cyfarfod y cabinet, nid y Pennaeth).

Y newyddion da yw bod yr ysgol wedi gwneud ffilm am eu gwaith yn ddiweddar, a bydd honno ar gael ar ein gwefan ni, yn ogystal ag ar wefan yr ysgol ei hun, fel bod ysgolion eraill yn gallu dysgu am y model. Mae hefyd yn dda gwybod bod wyth ysgol arall yn y rhanbarth yn mabwysiadu’r un model.