Cylchlythyr Tachwedd

Hiliaeth mewn Ysgolion

Yr wythnos yma gyhoeddom ein hadroddiad newydd ‘Cymerwch y peth o ddifrif’: profiadau plant o hiliaeth mewn ysgolion uwchradd. Mae’r adroddiad yma’n edrych ar brofiadau plant a phobl ifanc yng Nghymru, gwaetha’r modd, bod llawer iawn o blant a phobl ifanc yn profi hiliaeth a digwyddiadau hiliol yn yr ysgol uwchradd, ac ychydig sydd â hyder yn y dull o ddelio â hyn. Yn ogystal, dangosa’r adroddiad bod athrawon a rhanddeiliaid yn teimlo’r un peth, gan bwysleisio’r mater o ddiffyg hyder ac eglurder am sut i ymateb i’r digwyddiadau yma.

Gwrandawodd ein swyddfa ar dros 170 o blant a phobl ifanc o ar draws Cymru. Hefyd siaradom gyda 17 gwahanol ysgol a rhanddeiliad bwysig eraill wrth greu’r adroddiad. Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn a fersiwn ar gyfer plant ar ein gwefan.

Adroddiad Addysg mewn lleoliadau iechyd

Y mis hwn cyhoeddom ein hadroddiad ar addysg mewn lleoliadau gofal iechyd. Edrychodd yr adroddiad hwn ar y ddarpariaeth addysg i blant a phobl ifanc sydd yn treulio amser mewn ysbyty neu leoliad gofal iechyd arall. Ymchwiliodd y swyddfa i’r ddarpariaeth ar ôl derbyn gwybodaeth a oedd yn awgrymu nad oedd pob plentyn yn cael yr un profiadau i ddysgu wrth dderbyn gofal iechyd fel cleifion mewnol. Bu staff o ar draws y sefydliad yn rhan o’r gwaith a wnaeth wrando ar safbwyntiau plant, gweithwyr gofal iechyd a rhieni/ gofalwyr o ar draws Cymru. Mae’r adroddiad yn tynnu sylw bod plant yng Nghymru yn derbyn darpariaeth anghyson. Gallwch ddarllen yr adroddiad yma.

Rhannodd y Comisiynydd Plant y sylwad yma wrth gyhoeddi’r adroddiad:
“Yr hyn a welwn o’n hymchwil yw gwerth dysgu i blant a phobl ifanc sy’n derbyn triniaeth. Nid mater o gadw i fyny â gwaith ysgol yn unig yw hyn; mae hefyd yn ymwneud â llawenydd dysgu, ymdeimlad o normalrwydd, a chysylltu ag eraill. Mae gan blant a phobl ifanc hawl i addysg o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, ond mewn gwirionedd, gallwn weld o’r ymchwil hwn nad yw pob plentyn yn cael yr hawl honno pan fyddant yn cael triniaeth.

“Mae yna amrywiaeth enfawr yn yr oriau y mae awdurdodau lleol yn dweud y byddan nhw’n eu hariannu, a gwahaniaethau ar draws Cymru yn y trefniadau ariannu rhwng awdurdodau a darparwyr. Beth mae hyn yn ei olygu yw y gallai fod gennych chi un plentyn sy’n cael yr addysg sydd ei hangen arnyn nhw, a phlentyn mewn amgylchiadau tebyg mewn rhan wahanol o Gymru sydd ddim yn derbyn yr addysg.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru adolygu dyletswyddau awdurdodau lleol yn y maes hwn i wneud yn siŵr bod gan bob plentyn sy’n derbyn addysg mewn lleoliad iechyd yn cael cynnig addysgol llawn amser, a bod trefniadau ariannu yn gyson ledled Cymru ac yn gweithio’n effeithiol i blant.

Cynhadledd Tlodi Plant

Cynhaliom ein Cynhadledd Tlodi Plant cyntaf y mis hwn yn Abertawe mewn partneriaeth gyda Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant a Phlant yng Nghymru. Agorwyd y digwyddiad gyda neges gan Ddirprwy Gweinidog Jane Hunt, a daeth y digwyddiad ag unigolion a sefydliadau ynghyd i drafod y mater pwysig sydd yn effeithio bywydau plant a phobl ifanc yn ddyddiol ar draws Cymru. Rhannodd Rocio profiadau pwerus a rhannodd aelod o’n panel ymgynghorol pobl ifanc straeon wrth osod her i’r rhai oedd yn bresennol i osod plant yng nghanol y trafodaethau. Diolch i bawb wnaeth fod yn rhan o’r diwrnod.

Diwrnod Plant y Byd

Tachwedd yr 20 fed yw Diwrnod Plant y Byd a dathlodd Rocio y diwrnod yng nghwmni plant a phobl ifanc yn Wrecsam. Thema’r diwrnod eleni oedd “i bob plentyn, i bob hawl”, ac amcan hyn oedd tynnu sylw at y gwaith o  gynnal rhyddid bob plentyn ar draws y byd. Siaradodd y Comisiynydd yn y digwyddiad a chyflwyno tystysgrifau i wirfoddolwyr gyda Maer Wrecsam , Andy Williams.

Ymweliadau Ysgolion

Mae ymweliadau ag ysgolion yn ffordd wych o hyrwyddo hawliau plant. Y mis hwn aethom i ysgol St Mary’s yng Nghasnewydd. Arweiniodd ein tîm gweithdy a oedd yn ffocysu ar rôl Rocio fel y Comisynydd gan ddefnyddio adnoddau megis ein poster Deall Eich Hawliau.

Gwaith Ymgysylltu Gwasanaeth Cyngor ac Ymchwiliadau

Y mis hwn mae ein Gwasanaeth Cyngor ac Ymchwiliadau wedi bod yn brysur yn gwneud gwaith ymgysylltu er mwyn hyrwyddo ein gwasanaeth. Gwnaethon nhw ymweld ag Ysgol Heronsbridge fel rhan o ddigwyddiad i gefnogi plant a phobl ifanc. Rôl ein swyddogion yn y digwyddiad hwn oedd rhannu gwybodaeth am ein gwasanaeth Cyngor a Gwybodaeth sydd am ddim ac yn gyfrinachol. Gallwch ddarganfod mwy am ein gwasanaeth yma.

Cynhadledd Colegau Cymru

Yn ddiweddar aeth Rocio i Gynhadledd flynyddol Colegau Cymru. Roedd nifer o rhanddeiliad bwysig yn bresennol ac fe wnaeth y digwyddiad adlewyrchu ar yr heriau wynebwyd gan addysg bellach dros y blynyddoedd diwethaf ac edrych i’r dyfodol. Siaradodd nifer o siaradwyr ar y diwrnod, gan gynnwys Comisiynydd Plant Cymru.

Rights fest

Yn y mis hwn aeth dau aelod o’n tîm i ddigwyddiad Rightsfest sef gŵyl hawliau yng Nghaerdydd. Yma gwnaethon nhw gynnal gweithdy ar gyfer menywod ifanc i gysylltu’r CCUHP gyda ble maent yn byw. Gwnaeth y bobl ifanc mapio lleoliadau maent yn cael neu dim yn derbyn eu hawliau, er enghraifft Erthygl 28 yr hawl i addysg. Trwy gydol y gweithdy trafodwyd lle nad oeddent yn derbyn eu hawliau fel eu hawl i ddiogelwch.