Amddiffyniad Cyfartal

Diwrnod Byd-eang y Plant: Mae’n amser rhoi Amddiffyniad Cyfartal i blant

Mae Diwrnod Byd-eang y Plant yn ddyddiad pwysig yng nghalendr unrhyw Gomisiynydd Plant. Cafodd ei sefydlu gan y Cenhedloedd Unedig ym 1954 i hybu dealltwriaeth rhwng plant ac i hyrwyddo lles plant o gwmpas y byd. Caiff ei gynnal ar 20 Tachwedd, yr un diwrnod ag y mabwysiadodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig y Datganiad ar Hawliau’r Plentyn ym 1959 a’r dyddiad y cafodd y Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn ei lofnodi ym 1989.

Mae Diwrnod Byd-eang y Plant yn ddiwrnod da i ni aros a meddwl am yr hyn rydyn ni wedi’i gyflawni o ran hawliau’r plentyn bob blwyddyn a beth sydd angen ei newid o hyd. Yng Nghymru, ers mis Tachwedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld hawliau newydd i blant sy’n derbyn gofal gael aros yn eu cartrefi maeth ar ôl iddynt gyrraedd 18 oed, nes eu bod yn barod i adael. Rydyn ni wedi gweld y llywodraeth yn derbyn holl argymhellion arolwg Donaldson o addysg, ‘Dyfodol Llwyddiannus’ sy’n gosod lles plant yn ganolog o fewn addysg. Felly rhai camau cadarnhaol ymlaen.

Ond mae’n rhwystredig ein bod wedi cadw hawliau rhieni a rhai gofalwyr eraill i hawlio bod taro eu plant yn ‘gosb rhesymol’. Does dim amddiffyniad tebyg yn y gyfraith pan fydd oedolyn yn dioddef ymosodiad cyffredin. Fel arfer pan fyddwn ni’n gwneud deddfau sy’n wahanol ar gyfer plant, rydyn ni’n gwneud hynny i roi mwy o amddiffyniad iddyn nhw. Dyna pam mae terfynau amser yn bodoli mewn perthynas ag ysmygu, yfed alcohol, gyrru a chydsyniad rhywiol. Y gyfraith ar ymosod cyffredin – neu daro – yw’r unig yn y gallaf feddwl amdani lle rydyn ni’n rhoi llai o amddiffyniad rhag niwed i blant o gymharu ag oedolion.

Rwy’n amau y byddwn yn ei chael hi’n anodd credu ymhen 30 mlynedd ein bod hyd yn oed yn cael y drafodaeth hon yng Nghymru. Does neb bellach yn ei chael hi’n dderbyniol bod athro’n cosbi plentyn drwy ei daro, ac eto roedd hynny’n gwbl normal yn y 1970au. Nid yw trais domestig yn dderbyniol yn gymdeithasol bellach. Felly gall ein diwylliannau newid ac fel y cawn ni hi’n anodd cofio sut brofiad oedd eistedd mewn tafarn neu gaffi llawn mwg, felly dwi’n credu y byddwn yn syfrdanu ein hwyrion a’n hwyresau gyda hanesion am sut yr oedd hi’n arfer bod yn gyfreithlon i rieni daro plant.

Nid yn unig ei bod hi’n annheg rhoi llai o amddiffyniad i blant nag i oedolion, mae hi hefyd yn ddrwg i blant. Bob tro y caiff plentyn ei daro, pa mor ysgafn bynnag, rydyn ni’n rhoi’r neges bod taro yn ffordd dderbyniol o ddatrys problemau, a’u bod yn haeddu cael eu taro. Gwyddwn yn sgil astudiaethau ymchwil dirifedi fod plant sy’n cael eu taro yn fwy tebygol o ddatblygu problemau ymddygiad ac iechyd emosiynol. Mae rhianta sy’n gosod ffiniau clir heb fod yn rhy llym nac yn rhy wan yn helpu plant i gael y deilliannau gorau o ran eu hapusrwydd, eu hymddygiad a’u llwyddiant addysgol.

Rwy’n falch dros ben fod Llywodraeth Cymru’n hybu rhianta cadarnhaol drwy ymgyrchoedd ac mewn cynlluniau fel Dechrau’n Deg. Fodd bynnag, mae tystiolaeth o wledydd eraill yn dangos mai’r ffordd orau i newid ymddygiad rhieni yn gyflym yw newid y gyfraith yn ogystal â hyrwyddo rhianta cadarnhaol.

Mae gan Gymru record arbennig o dda ym maes hawliau plant. Ni oedd y wlad gyntaf yn y DU i gael Comisiynydd Plant a’r cyntaf i ddod â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn i mewn i’n cyfreithiau. Mae’r rhan fwyaf o Aelodau Cynulliad rydw i wedi siarad â nhw’n dweud eu bod o blaid newid yn y gyfraith. Fy nyhead yw mai Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i roi amddiffyniad cyfartal i blant yn erbyn ymosodiad corfforol, yr un amddiffyniad ag sydd gan oedolion, gan ddilyn esiampl Iwerddon yn gynharach yn y mis.

Ymlaen â ni Gymru!