‘Wrth fethu yn achos ein plant, rydym ni’n methu ein hunain ac yn methu fel cymdeithas’: Hillary Clinton yn siarad am hawliau plant yn Abertawe

Roedd y ffaith bod rhywun mor uchel ei phroffil yn rhyngwladol â Hillary Clinton yn Abertawe i dderbyn doethuriaeth er anrhydedd gan y brifysgol a gweld ysgol y gyfraith yn cael ei hailenwi i’w hanrhydeddu yn achlysur pwysig ynddo’i hun, ond i mi trawsffurfiwyd yr achlysur hwnnw gan y ffaith bod y diwrnod cyfan yn troi o gwmpas hawliau dynol plant.

Fel comisiynydd annibynnol Cymru dros hawliau plant, sydd â swyddfa i Gymru gyfan yn digwydd bod yn Abertawe, roeddwn i’n croesawu’r ffocws hwn yn fawr iawn.

I mi, roedd dau uchafbwynt i’r diwrnod llawn seremoni, sef anerchiad Mrs Clinton yn ystod y seremoni wobrwyo, a’r ffaith bod plant wedi’u cynnwys ac yn rhan o’r diwrnod.

Cyflwynwyd yr anerchiad yn afaelgar gan rywun sy’n gyfarwydd ag ennyn diddordeb cynulleidfaoedd ar draws y byd. Soniodd Mrs Clinton am ei gwaith cychwynnol yng nghyswllt hawliau plant, fel intern ac yna’n gweithio i Gynghrair Amddiffyn y Plant fel cyfreithiwr hawliau plant ym mlynyddoedd cynnar ei gyrfa. Soniodd am frwydro i dynnu plant allan o garcharau oedolion a sicrhau mynediad i addysg ar gyfer plant anabl. Aeth ymlaen i sôn am yr heriau aruthrol sy’n wynebu hawliau plant ar lefel fyd-eang ar hyn o bryd, gan gynnwys yr her sy’n ein hwynebu ninnau yng Nghymru.

Anogodd y gynulleidfa, oedd yn cynnwys Prif Weinidog Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a sawl Aelod Cynulliad ac AS, i ofalu bod dileu tlodi plant yn parhau’n flaenoriaeth uchel. Ni cheisiodd Mrs Clinton osgoi cydnabod mai UDA yw’r unig wlad sydd heb lofnodi Confensiwn y CU ar Hawliau’r Plentyn, diffyg yr oedd yn cyfeirio ato fel rhywbeth ‘y tu hwnt i esboniad’.

Siaradodd Hillary Clinton ag angerdd ynghylch rhan plant a phobl ifanc yn y gymdeithas a’r llywodraeth, gan nodi bod yr anghytgord presennol yn UDA yn golygu bod clywed lleisiau plant yn amhosibl ‘uwchben y cacoffoni’. Nododd fod Comisiynwyr Plant pedair gwlad y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon wedi mynegi pryderon ynghylch effaith Brexit ar blant, a mynegodd ei phryderon ei hun ynghylch ansicrwydd hawliau preswyliaeth hanner miliwn o blant yn y Deyrnas Unedig, ac effaith bosibl hynny.

Amlygwyd diddordeb yr ymwelydd yng nghyfranogiad plant a phobl ifanc gan ei chynhesrwydd wrth ymgysylltu â phlant ar hyd y prynhawn. Mae ysgol y gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe yn ganolfan arweiniol ar gyfer hawliau dynol plant ac mae’n cyflawni hynny trwy nifer o brosiectau sy’n cynnwys plant yn uniongyrchol wrth ddatblygu dealltwriaeth newydd o hawliau. Roedd prosiect Lleisiau Bach, rhan o’r Arsyllfa Hawliau Dynol Plant yn Ysgol y Gyfraith Abertawe, wedi trefnu bod plant o dair ysgol, Ysgol Gyfun Pentrehafod, Ysgol Gynradd Arberth ac Ysgol Gynradd Blaenymaes yn arddangos eu gwaith ar hawliau a democratiaeth. Bu’r plant yn sôn yn angerddol am eu hymroddiad i hawliau plant a sut maen nhw’n cael eu rhoi ar waith yn eu hysgol. Roeddwn i’n falch bod cynifer o ysgolion yng Nghymru wedi llwyddo cystal i wreiddio hawliau plant ym mhob agwedd ar fywyd yr ysgol, a sut mae hynny’n gwneud gwahaniaeth i’w gwerthoedd a’u hymdeimlad o gymuned.

Roedd yn anrhydedd cael cyfle am air byr gyda Mrs Clinton ynghylch fy rôl ac ambell beth rwy’n teimlo’n gryf iawn yn eu cylch – y Senedd Ieuenctid sydd i ddod a’r ymrwymiad diweddar rwy’n ei groesawu gan y Llywodraeth i sicrhau bod plant yn cael amddiffyniad cyfartal o dan y gyfraith rhag cosb gorfforol.

Fel Comisiynydd Plant Cymru, roedd gweld llond ystafell o bobl fwyaf dylanwadol Cymru, Hillary Clinton, y wasg a phlant gyda’i gilydd, i gyd yn canolbwyntio ar hawliau plant am ddiwrnod llawn yn brofiad cadarnhaol iawn, ac i’w groesawu’n fawr. Rwy’n gobeithio y bydd yn sicrhau ein bod ni i gyd yn canolbwyntio ar ofalu mai plant sydd yng nghanol ein blaenoriaethau.