Senedd Ieuenctid i Gymru: ychwanegiad i’w groesawu i’n democratiaeth

Roeddwn wrth fy modd yn gweld y Llywydd Elin Jones AC yn cyhoeddi bwriad Comisiwn y Cynulliad i sefydlu Senedd Ieuenctid i Gymru.

Bydd ei chefnogaeth yn cael effaith fawr.

Yn gyntaf, mae’n anfon neges glir at blant a phobl ifanc Cymru eu bod nhw’n ddinasyddion pwysig sydd â rhan i’w chwarae yn y gwaith o lywodraethu ein cenedl.

Yn ail, mae’n golygu y bydd gwleidyddion, y cyfryngau a’r cyhoedd yn gyffredinol yn cael clywed mewn ffordd rymus am yr holl bryderon a’r atebion posibl y mae pobl ifanc am eu gweld yn cael eu datblygu.

Yn fy mhrofiad i mae gwell penderfyniadau’n cael eu gwneud pan fydd sefydliad (neu genedl yn yr achos hwn) yn cynnwys ei holl aelodau wrth gael hyd i atebion.

Yn drydydd, mae’n haen ychwanegol resymegol i’r cynghorau a’r fforymau ieuenctid lleol sy’n ffynnu ledled Cymru, ond sy’n methu symud materion cenedlaethol ymlaen ar hyn o bryd.

Er enghraifft, yn gynharach eleni, fe fues i yng nghynhadledd flynyddol Fforwm Ieuenctid ragorol Caerffili.

Mae fforwm yr awdurdod lleol yma’n ffynnu oherwydd bod ganddi sylfaen leol gref yn y gwahanol ardaloedd sy’n rhan o’r sir ac oherwydd bod y cyngor ei hun yn gwneud cynnwys y fforwm yn flaenoriaeth.

Roedd sawl aelod o Gabinet y Cyngor yn bresennol yn y gynhadledd, gan gynnwys yr Arweinydd, a bydd rhai o gasgliadau’r gynhadledd yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet.

Bob blwyddyn mae’r cyngor yn gweithredu rhai o’r cynigion, ond yn aml mae angen rhoi sylw ar lefel genedlaethol i’r materion sy’n peri pryder i bobl ifanc yn y sir.

Er enghraifft, roedd gan y bobl ifanc yr wythnos hon farn gref am y cwricwlwm cenedlaethol newydd a beth ddylai fod ynddo. Dyna’r math o drafodaeth fydd yn gallu digwydd mewn Senedd Ieuenctid.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae’r haen genedlaethol honno o ddemocratiaeth ieuenctid wedi bod ar goll yng Nghymru.

Yn y ddau Adroddiad Blynyddol rwyf wedi’u cyhoeddi ers dod yn Gomisiynydd rwyf wedi galw am gyfle democrataidd cenedlaethol i bobl ifanc ar ffurf cynulliad ieuenctid, ac rwyf wedi trafod hyn gyda Phrif Weinidog Cymru a’r Llywydd yn fuan wedi iddi gael ei hethol a’i phenodi ym mis Mai.

Mae’r bobl ifanc sydd wedi bod yn ymgyrchu dros gynulliad ieuenctid wedi creu argraff arna i, a hynny fyth oddi ar i’r fersiwn gynharach, y Ddraig Ffynci, golli cefnogaeth ariannol y llywodraeth.

Mae eu hymgyrch wedi gwneud gwahaniaeth go iawn drwy gadw’r mater ar frig yr agenda.

Fel pencampwr annibynnol hawliau plant yng Nghymru, mae angen i mi fod yn atebol i blant a phobl ifanc Cymru am yr hyn rwy’n ei wneud.

Rwy’n edrych ymlaen at y craffu cadarn ar fy rôl a fydd yn digwydd yn sgîl Senedd Ieuenctid, ac rwy’n edrych ymlaen at gefnogi’r Llywydd a’r Cynulliad Cenedlaethol wrth iddyn nhw symud ymlaen gyda’r cam nesaf hwn, sy’n un cadarnhaol iawn, ar gyfer democratiaeth yng Nghymru.