Mae fy Llysgenhadon nôl!

Mae mis Medi yn fis cyffrous yn y swyddfa gan ein bod ni’n cofrestru ysgolion cynradd ar ein cynllun Llysgenhadon Gwych.

Mae llawer yn ailgofrestru, fel sy’n digwydd bob blwyddyn, tra bod eraill yn ymuno â’r cynllun am y tro cyntaf erioed.

Mae fy Llysgenhadon Gwych yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o sicrhau fy mod i’n clywed gan blant o bob rhan o Gymru, ac maen nhw hefyd yn sicrhau bod plant yn dysgu am eu hawliau dynol yn yr ysgol.

Y cynllun

Ar ôl i’r ysgol ymuno, bydd yn derbyn pecyn adnoddau o’r swyddfa gyda phosteri hawliau ar gyfer yr ysgol a gwybodaeth ar gyfer yr athrawon.

Bydd y pecyn hefyd yn cynnwys bathodynnau, llyfrynnau a deunydd ysgrifennu ar gyfer y Llysgenhadon Gwych.

Y cam nesa yw bod y disgyblion yn ethol dau o’u cyfoedion i fod yn Llysgenhadon Gwych yn yr ysgol. Mae pob ysgol yn gwneud hyn mewn ffordd wahanol. Rwyf wedi clywed am etholiadau llawn gyda manifestos, areithiau a phleidleisio, sy’n cynnwys yr holl ddisgyblion, yr holl staff a’r holl rieni, neu broses symlach o ddewis dau aelod o gyngor yr ysgol.

Mae pob ysgol sy’n ymuno â’r cynllun hefyd yn cael gwahoddiad i fynychu un o’n diwrnodau hyfforddi rhanbarthol ym mis Hydref, lle maen nhw ac un athro o’r ysgol yn dysgu am hawliau plant ac am fy rôl innau fel pencampwr annibynnol. Gwaith y llysgenhadon yn ystod y flwyddyn yw:

  • Gwneud yn siŵr bod plant yn eu hysgol yn gwybod bod ganddyn nhw hawliau o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP)
  • Dweud wrth bawb yn yr ysgol bod ganddyn nhw gomisiynydd plant, ac mai ei gwaith hi yw gwrando a chodi llais ar ran pob plentyn yng Nghymru
  • Dweud wrthyf fi am y pethau sy’n bwysig i blant yn eu hysgol a’u cymuned nhw. Byddan nhw’n gwneud hynny yn y diwrnodau hyfforddi, a thrwy ein tasgau arbennig

Rydyn ni’n cynnal ein Tasgau Arbennig bob tymor, ac mae’r tasgau diweddar wedi cynnwys:

  • Sicrhau bod plant yn yr ysgol yn ymateb i’m hymgynghoriad Beth Nesa’ | What Next, a fu’n helpu i lywio fy ngwaith ar gyfer y tair blynedd nesaf – ‘Cynllun ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc 2016 – 2019
  • Darganfod sut mae plant yn teithio i’r ysgol a pha mor hawdd yw beicio yno, mynd yno ar sgwter neu gerdded yno.
  • Rhoi cynnig ar ffordd newydd o ddysgu eraill am hawliau: posteri, byrddau arddangos, arwain gwasanaethau boreol ac ati.

Mae fy Llysgenhadon Gwych yn aml yn ysgrifennu ata i er mwyn dweud wrtha i beth maen nhw wedi bod yn ei wneud yn eu hysgol, a bydda innau’n ceisio rhannu cynifer o syniadau da ag y galla i gydag eraill.

Rydw i wrth fy modd gyda ffyrdd creadigol plant o feddwl am hawliau yn eu hysgolion, er enghraifft dyfeisio mascot hawliau, creu fideo, a chynnal digwyddiadau er mwyn i rieni ddysgu am hawliau.

Mae rhai ysgolion yn trefnu llawer o’u gwaith o amgylch CCUHP, ac mae hynny’n wir am yr ysgol rwy’n cyfeirio ati yn y post yma.

Mae dros 200 o ysgolion yn chwarae rhan weithredol yn y cynllun bob blwyddyn, sy’n golygu bod miloedd o blant ysgol yng Nghymru yn dysgu am CCUHP gan eu Llysgenhadon Gwych.

Rwyf wedi cael fy nghalonogi bod yr Archesgob Barry Morgan, o’r Eglwys yng Nghymru, wedi ysgrifennu at yr holl ysgolion eglwysig y tymor yma, yn eu hannog nhw i ymuno â’r cynllun.

Ar gyfer ein tasg arbennig nesaf byddwn ni’n gofyn i’n Llysgenhadon Gwych ein helpu ni i ddeall mwy am eu profiadau o fwlio ac effeithiau hynny ar eu llesiant.

Byddwn ni hefyd yn casglu gwybodaeth am eu syniadau ynghylch y ffyrdd gorau o fynd i’r afael â bwlio a’i atal yn eu hysgolion a’u cymunedau.

Os ydych chi wedi cael eich ethol yn Llysgennad Gwych eleni, llongyfarchiadau! Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda chi!