Iechyd meddwl i bawb

Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru, CCUHP, Hawliau plantYn ystod fy misoedd cyntaf yn swydd Comisiynydd Plant Cymru, rydw i wedi bod yn gofyn y cwestiwn ‘Beth Nesa?’ i gannoedd o blant a phobl ifanc ac i rieni, athrawon a phobl eraill sy’n gweithio gyda phlant. Wrth ofyn ‘Beth Nesa?’, beth rwy’n ei olygu yw, ‘beth ddylwn i, y comisiynydd plant newydd, ei wneud?’, ond rwy hefyd yn golygu, ‘Beth yw’r pethau pwysicaf mae angen i Gymru fynd i’r afael â nhw i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn derbyn eu hawliau i fod yn ddiogel, yn cael y pethau mae arnyn nhw eu hangen, ac yn cael cyfle i gyfranogi yn y gymdeithas?’.

Does dim syndod bod llu o wahanol bynciau’n codi. Ond un thema gyson iawn yw’r angen am deimlo’n iach yn feddyliol ac yn hapus. Felly, mae rhai plant ysgol gynradd yn ogystal â rhai oed uwchradd wedi sôn am deimlo o dan straen oherwydd profion ac arholiadau. Mae eraill wedi sôn am bryderon ynghylch cyfeillgarwch, bwlio, pwysau i addasu sut maen nhw’n edrych, rhywioldeb a pherthnasoedd. Mae rhai wedi wynebu trallod yn sgîl profiadau anodd iawn fel marwolaeth, cam-drin, cael eu derbyn i ofal a digartrefedd. Mae ambell un wedi siarad â fi am salwch meddwl fel iselder ac ymddygiad hunan-niweidiol. Rydw i wedi cwrdd â phlant oedd angen peth cwnsela neu help arall yn y gymuned, a hefyd rai oedd angen cyfnod yn yr ysbyty oherwydd bod eu salwch meddwl mor ddifrifol.

Mae’r mwyafrif o bobl yn cytuno bod angen edrych o’r newydd ar ein gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru (a gweddill y Deyrnas Unedig). All ein gwasanaethau iechyd meddwl clinigol ddim ymdopi â’r galw sydd amdanyn nhw, ac mae gormod o blant sydd angen eu gwasanaeth yn gorfod aros yn llawer rhy hir am apwyntiad. Yr hyn rydyn ni ei angen yw dull gweithredu wedi’i gynllunio’n dda, sy’n gyfrifoldeb nid yn unig i’r gwasanaeth iechyd, ond hefyd i addysg, gwasanaethau ieuenctid, gwasanaethau cymdeithasol a’r gymdeithas ehangach, gan gynnwys rhieni.

Rydyn ni wedi gweld camau cadarnhaol yng Nghymru wrth i gwnsela yn yr ysgol gael ei estyn i bob disgybl ysgol uwchradd, un o argymhellion ymchwiliad Comisiynydd Plant cyntaf Cymru. Yn fwy diweddar deddfwyd ar gyfer hyn yng Nghymru, ond yn amlwg mae rhagor o waith i’w wneud o ran darparu’r gwasanaethau hyn, ac yn bwysig mae angen trafod rôl ysgolion yn fwy cyffredinol wrth hyrwyddo llesiant o ran iechyd meddwl.

Gallai edrych ar addysg mewn ffordd ehangach geisio helpu plant a phobl ifanc i fynd i’r afael â’r meysydd eang maen nhw’n dod i gysylltiad â nhw yn ystod eu bywyd. Mae angen eu rhoi o dan lai o bwysau i edrych a chyflawni mewn ffyrdd sy’n gallu bod yn afrealistig. Mae angen lle a chaniatâd arnynt i archwilio teimladau ac ansicrwydd, a goddef gwahaniaethau pobl eraill. (Mae angen i oedolion ddysgu goddef gwahaniaethau hefyd.) Mae angen help arnyn nhw i ddysgu sut mae rheoli perthnasoedd. Mae angen teuluoedd cefnogol, cariadus arnyn nhw. Mae angen clust i wrando arnyn nhw. Os bydd person ifanc yn dechrau teimlo’n drallodus neu’n bryderus, dylai triniaeth gynnar fod ar gael yn y gymuned, gan gynnwys sesiynau gwaith grŵp a therapïau seicolegol, a dylai’r mathau o gymorth sy’n cael eu defnyddio fod yn rhai mae ymchwil wedi dangos eu bod yn helpu (seiliedig ar dystiolaeth). Yna, yn achos y niferoedd llai sydd angen triniaeth glinigol, dylai’r driniaeth honno fod ar gael yn hwylus, yn amserol, a heb stigma.

Mae hyn i gyd yn llawer i’w ofyn gan gymdeithas, yn enwedig wrth i wasanaethau cyhoeddus wynebu toriadau ariannol. Rwy’n cael fy nghalonogi gan y ffaith bod Gyda’n Gilydd dros Blant a Phobl Ifanc, rhaglen gwella gwasanaeth amlasiantaeth, dan arweiniad Llywodraeth Cymru, yn ceisio edrych ar y materion dan sylw yn y ffyrdd eang hyn. Yr her fydd symud tu hwnt i strategaethau a rhaglenni i wneud gwahaniaethau gwirioneddol i iechyd meddwl a llesiant emosiynol pobl ifanc. Mor ddiweddar â diwedd 2014 bu un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn amlinellu’r dasg anferthol hon. Byddaf innau’n monitro cynnydd yn fanwl yn ystod y misoedd nesaf.