Ble nesa i wasanaethau iechyd meddwl plant yng Nghymru?

Yn y blog yma rwy’n crynhoi ble mae Cymru wedi cyrraedd yn y gwaith i ddiwygio gwasanaethau iechyd meddwl plant, ac yn cyflwyno fy ngweledigaeth ar gyfer y rhan nesaf o’r daith.

Darllenwch ein papur safbwynt – Gorffennaf 2018

Mae Cymru bellach ym mhedwaredd flwyddyn, y flwyddyn olaf, o’i rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc (T4CYP), oedd yn ceisio gwella mynediad i wasanaethau clinigol a chymunedol, yn ogystal ag ataliaeth a chymorth cynnar.

Mae’r Rhaglen wedi arwain at rai gwelliannau, fel amser aros byrrach ar gyfer asesiadau cychwynnol, ond rydyn ni’n dal heb wybod a yw plant yn cael y gwasanaethau angenrheidiol ar ôl yr asesiad, neu a yw plant yn cael eu hanfon ar hyd llwybr clinigol yn ddiangen, yn absenoldeb rhywbeth mwy addas.

Yn ystod y cyfnod hwnnw bu cryn dipyn o ymgyrchu o blaid dulliau gweithredu mwy radical, dan fy arweiniad innau, y pwyllgor trawsbleidiol o Aelodau Cynulliad sy’n craffu ar waith y Llywodraeth yng nghyswllt plant (ac yn arbennig cadeirydd y pwyllgor hwnnw, Lynne Neagle AC, sydd wedi dyfalbarhau’n rhyfeddol), pobl ifanc mewn fforymau ysgol a ieuenctid ar draws y wlad, rhieni ac ymarferwyr arloesol o amrywiol gefndiroedd, gan gynnwys y ddigymar Liz Gregory, sy’n seicolegydd clinigol.

Dyma rai o’r ymatebion ‘delfrydol’ i anghenion ein plant, y mae llawer ohonom wedi’u cydnabod fel y ffyrdd gorau ymlaen, ynghyd â’m dadansoddiad innau o ba mor debygol yw hi y byddan nhw’n digwydd yng Nghymru.

  • Mae plant yn cael eu cefnogi i ddatblygu ffyrdd o atal salwch meddwl ac anawsterau emosiynol, ac yn cael cymorth cynnar ar yr adeg ac yn y lle bydd angen

Pa mor debygol yw hyn?

Yn dilyn cryn bwysau gennyf finnau a Phwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad, trwy eu hadroddiad Cadernid Meddwl, mae’r Llywodraeth wedi cytuno i gefnogi ‘Dull Gweithredu Ysgol Gyfan’ o ymdrin â iechyd meddwl a llesiant. Mae wedi bod yn braf gweld ein Gweinidogion Iechyd ac Addysg yn bersonol yn cadeirio’r gweithgor hwn. Rwy’n disgwyl i waith y grŵp gyflwyno ‘dewislen’ o ddarpariaeth seiliedig ar dystiolaeth y bydden ni’n disgwyl i bob plentyn neu berson ifanc yng Nghymru ei derbyn, gan gynnwys dysgu am iechyd meddwl, amgylcheddau ysgol sy’n cefnogi llesiant, a chymorth cynnar sydd ar gael mewn ysgolion ac yn y gymuned, pan fydd angen. Y newyddion da yw bod nifer o ysgolion yng Nghymru eisoes wedi cymryd sawl cam tuag at sefydlu’r math yma o amgylchedd, ond bydd angen mwy o gefnogaeth ar ysgolion eraill, gyda’r Llywodraeth ac Estyn yn cyflwyno disgwyliadau uchel, ac yn darparu adnoddau hefyd.

  • ‘Dim drws anghywir’ wrth geisio help. Mae plant sydd angen cymorth arbenigol yn cael eu cefnogi trwy wasanaeth amlddisgyblaeth sy’n gallu helpu gydag anghenion cymdeithasol yn ogystal â rhai iechyd meddwl

Pa mor debygol yw hyn?

Roedd hyn yn un o’r argymhellion yn fy adroddiad blynyddol diweddaraf. Rwyf wedi syrffedu ar glywed gan deuluoedd i ba raddau maen nhw’n gallu mynd ar goll yn llwyr yn y system, a cholli eu holl egni, a hefyd gan staff sy’n rhwystredig oherwydd eu bod nhw’n methu cael ymateb addas gan wasanaethau eraill. Mae’r Llywodraeth wedi ymateb gyda pheth cyllid newydd i ranbarthau ddatblygu gwasanaethau iechyd meddwl plant ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, ac mae’n dda gweld hynny, ond maen nhw’n dweud na fyddan nhw’n mynnu dull gweithredu integredig. Mae hyn yn gwneud i mi bryderu y bydd plant yn wynebu loteri côd post o wasanaethau. Er fy mod wedi gweld tystiolaeth o ddull gweithredu newydd, ‘dim drws anghywir’ yn cychwyn yng Ngwent, ac ar waith yng Nghaerdydd a’r Fro, dwy ddim wedi cael fy argyhoeddi bod y dull gweithredu mwy cydlynus hwn yn cael ei gynllunio ym mhob man.

Dangosodd fy ymgynghoriad diweddar gyda mwy nag 11,000 o blant ac oedolion yn eglur fod mynd i’r afael â iechyd meddwl yn flaenoriaeth bwysig yn fy ngwaith fel pencampwr plant annibynnol Cymru. Bydda i’n ymweld â phob rhanbarth yng Nghymru eleni i’w herio ar eu cynlluniau ar gyfer hyn, ac yn chwilio am sicrwydd na fydd unrhyw ranbarth yn cael ei adael ar ôl. Rwy’n dal i siarad â gweinidogion y Llywodraeth am yr angen iddyn nhw sbarduno dull gweithredu mwy integredig yn ogystal.

  • Mae gennym ni lety therapiwtig addas yng Nghymru ar gyfer y lleiafrif bach o blant sydd angen rhywle diogel i fyw wrth ymadfer wedi trawma

Pa mor debygol yw hyn?

Mae hon yn broblem wirioneddol i ni yng Nghymru (a gweddill y Deyrnas Unedig). Mae gennym ni niferoedd bach o bobl ifanc sydd ag anghenion aruthrol o ran gofal arbenigol, diogel oherwydd bod ganddyn nhw amrywiaeth o anawsterau iechyd meddwl ac ymddygiad, yn aml o ganlyniad i drawma maen nhw wedi’i wynebu. Fyddan nhw ddim o reidrwydd yn bodloni’r meini prawf cul ar gyfer uned iechyd meddwl, ond mae angen help arbenigol arnyn nhw. Byddwn i’n hoffi gweld goreuon ein darparwyr gwaith cymdeithasol, addysg a iechyd meddwl yn dod at ei gilydd i ddatblygu mannau diogel ardderchog ar gyfer y bobl ifanc hyn, fel bod dim rhaid iddyn nhw deithio gannoedd o filltiroedd o’u cartrefi i gyrraedd gwasanaethau arbenigol, sy’n aml yn Lloegr.

Mae’r Llywodraeth wedi darparu peth arian newydd i’r rhanbarthau ar gyfer hyn, ond hyd yma dwy ddim wedi gweld unrhyw gynlluniau pendant ar gyfer gwasanaethau newydd fel y rhain. Bydda i’n gofyn i’r llywodraeth wneud mwy i helpu i’w datblygu.

  • Mae gan blant leoedd diogel i fynd iddynt pan fydd argyfwng yn codi

Pa mor debygol yw hyn?

Pan fydda i’n gofyn i bobl ifanc am yr ysgol ddelfrydol sy’n cefnogi eu hiechyd meddwl, maen nhw bron bob amser yn sôn am le diogel yn yr ysgol fel un peth pwysig, rhyw fath o ganolfan gefnogi, ‘cwtsh’ neu hafan lle gallan nhw fynd os bydd angen help arnyn nhw. Rydw i wedi gweld mwy a mwy o’r rhain yn datblygu mewn ysgolion, ochr yn ochr â staff sydd ar gael i wrando. Gobeithio bydd hyn yn dod yn rhywbeth mwy cyffredin sydd ar gael yn sgîl y Dull Gweithredu Ysgol Gyfan.

Ond beth am blant a phobl ifanc sydd ddim yn yr ysgol, neu sydd mewn argyfwng sydd y tu hwnt i’r hyn lle gall yr ysgol eu helpu? Byddwn i wrth fy modd yn gweld gwasanaethau galw heibio ar gyfer plant a’u teuluoedd sydd angen cyngor neu sicrwydd ar unwaith ynghylch iechyd meddwl. Fyddai hynny ddim o reidrwydd yn golygu gweld seiciatrydd ar unwaith, ond bod rhywun ar gael oedd wedi cael hyfforddiant i wrando’n dda, rhoi cyngor cychwynnol, a threfnu asesiad iechyd meddwl mwy arbenigol yn ôl y galw, neu help arall fel cymorth i deuluoedd neu wasanaethau ieuenctid. Efallai bod hon yn swnio fel breuddwyd amhosib ei gwireddu, ond mae ar gael ledled Ffrainc (Maisons Des Adolescents). Fe fues i ar ymweliad ag un, roedd yn lle digynnwrf, croesawgar, oedd ond o’r braidd yn llwyddo i ymateb i’r galw.

Rwy’n sôn wrth arweinwyr sector cyhoeddus am ganolfannau argyfwng o’r fath pryd bynnag y galla i, gan obeithio y byddwn ni’n gallu peilota un yng Nghymru.

Diweddglo

At ei gilydd, mae’n eglur na all un gwasanaeth unigol, ac yn sicr na all y GIG ar ei ben ei hun, ddiwallu anghenion iechyd meddwl ein plant. Fydd y Senedd Ieuenctid newydd a’r byrddau iechyd ieuenctid sy’n datblygu ar hyn o bryd, rhieni, na gweithwyr gofal proffesiynol ddim yn caniatáu i ni ollwng gafael ar hyn. Fy ngwaith innau yw eu cefnogi i annog newid, ac i fynnu hynny os bydd angen.