Rhywedd a diogelwch – fy mhrofiad personal

Rwy’n falch o fod yn cefnogi’r Agenda Cynradd sy’n cael ei lansio heddiw. Mae’n adnodd sydd wedi’i gynllunio a’i brofi’n ofalus i helpu plant mewn ysgolion cynradd i archwilio stereoteipiau rhywedd, ymddygiad negyddol a diogelwch personol.

Dyma flog personol iawn ynghylch pam mae angen gwneud hynny.

Yn gynharach y mis yma roeddwn i ar y trên yn mynd adre. Roedd hi wedi nosi ac yn dywyll, ac roedd y cerbyd bron yn wag. Roeddwn i’n teipio ar fy ngliniadur, yn dal i wisgo fy siaced feicio felen, yn mwynhau meddwl am y digwyddiad ieuenctid braf roeddwn i wedi bod iddo, ac yn dyfalu tybed fyddai yna fwyd ar ôl i fi gartre.

Daeth criw o ddynion i mewn i’r cerbyd. Roedden nhw wedi meddwi, ac yn meddwl eu bod nhw’n bod yn gyfeillgar ac yn ddoniol, ond mewn gwirionedd roedden nhw’n gwrs iawn, ychydig yn fygythiol, ac yn gwthio mewn i’m gofod personol. Ar un pwynt fe ddwedais i wrthyn nhw fod eu hymddygiad yn annerbyniol, a bod siarad â fi fel hyn yn drosedd. Fe ddwedais i hefyd mod i’n gweithio gyda phobl ifanc a bod y ffaith bod rhaid i ferched wynebu’r math yma o beth yn gyhoeddus o hyd yn fy ypsetio i. Fe ddwedson nhw sori, ond wnaethon nhw ddim stopio. Roeddwn i’n teimlo braidd yn ddagreuol erbyn iddyn nhw adael y trên ryw 15 munud wedyn. Ar ôl clywed eu bod nhw wedi gafael yn gorfforol mewn benyw arall ar y trên fe benderfynais i riportio’r mater i’r heddlu.

Wrth seiclo adre, dechreuais i deimlo’n gandryll yn sydyn. Fe feddyliais i am adegau eraill pan oedd rhywrai wedi gwthio i’m gofod personol yn gyhoeddus oherwydd fy rhywedd, dros gyfnod o ddegawdau, y tro cyntaf pan oeddwn i tua 10 oed.

Mae gan bron pob benyw o leiaf un stori am aflonyddu neu gam-drin, llawer ohonyn nhw’n fwy treisgar neu gamdriniol o dipyn na’r un sydd gen i. Dyw pob dyn ddim wedi gwneud y pethau hyn. Byddai pob dyn yn fy mywyd i – gŵr, meibion, brodyr, ffrindiau, cydweithwyr, yn gwaredu at y fath ymddygiad, yn feddw neu’n sobr. Ond mae yn amlwg iawn.

Ac wrth gwrs mae dynion yn profi aflonyddu hefyd – bydd y rhan fwyaf o ddynion hoyw wedi dioddef sylwadau homoffobig, a bydd rhai ohonyn nhw wedi wynebu trais. Ond ymddygiad ar sail rhywedd yw hyn yn bennaf. Mae rhagdybiaeth bod eu statws yn gwneud benywod yn fodau rhywiol – dechreuodd y dynion hyn siarad am ryw ar unwaith ar ôl dod i eistedd yn fy ymyl, a hynny ‘ar ffurf cellwair’. Mae rhagdybiaeth bod benywod yn wannach. Fydden nhw ddim wedi ymddwyn fel yna, a gwthio mewn i’m gofod personol, tasen i’n ddyn. Rwy’n sicr o hynny.

Mae hyn wedi digwydd ers miloedd o flynyddoedd, ond rydyn ni bellach yn byw mewn gwareiddiad yr ydyn ni’n hoffi meddwl amdano fel un ar lefel uwch. Rydyn ni’n gwybod bod aflonyddu rhywiol a chamdriniaeth yn bethau drwg. Rydyn ni wedi pasio cyfreithiau i’w gwneud nhw’n anghyfreithlon. Gallwn ni ddweud na wrth hyn, a dyna ddylen ni wneud.

Ond dyw pasio cyfreithiau ddim yn ddigon. Mae angen i ddynion a bechgyn ddeall pam fod hyn yn annerbyniol. Mae angen rhyddhau’r rhai fydd yn gweithredu fel hyn ar ôl tyfu i fyny, fel eu bod nhw’n barod i feddwl a gweithredu mewn ffyrdd gwahanol. Ac mae angen i ferched a benywod ddeall hynny hefyd. Neu byddwn ni’n parhau i deimlo’n euog am sut buon ni’n gwenu neu’n gwisgo, neu heb wrthsefyll neu yn y lle anghywir ar yr adeg anghywir. Neu efallai byddwn ni ddim hyd yn oed yn cydnabod bod hyn ddim yn iawn.

Dyna pam mae arnon ni angen adnoddau o ansawdd da fel yr Agenda Cynradd. Ac mae angen i ni gychwyn sgyrsiau am gydsyniad a chydraddoldeb, parch a phreifatrwydd o’r meithrin ymlaen. Mae’r actifyddion rwy’n cwrdd â nhw mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, yn fechgyn a merched, sy’n gwrthod cael eu rhoi mewn bocsys bellach a’u cyfyngu gan stereoteipiau sut dylen nhw feddwl ac ymddwyn. Fel gwlad, rydyn ni’n ymfalchïo yn ein gwaith ar hawliau plant o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Mae’r Agenda Cynradd yn cefnogi’r hawliau hynny, yn arbennig hawliau diogelwch, cydraddoldeb ac addysg lawn sy’n helpu plant i gyflawni eu potensial. Rwy’n falch iawn bod fy nhîm wedi cefnogi’r Athro Emma Renold ac eraill i greu’r set yma o adnoddau, ac rwy’n annog pob ysgol gynradd yng Nghymru i fanteisio arno.