Celf, ieir, a hawliau plant

Blog gwestai gan Lois Medi, aelod o’n Panel Ymgynghorol

Ar ddydd Mawrth, y deuddegfed o Orffennaf, fe gynhaliwyd cyfarfod cyntaf panel ymgynghorol Comisiynydd Plant Cymru. Roedd yn ddiwrnod gwych a chynhyrchiol a wnaeth ein hannog hyd yn oed yn fwy i wneud gwahaniaeth ym mywydau plant Cymru.

Mae cyfanswm o ddeunaw person ifanc ar y panel, ond mae’r cyfarfodydd ar y cyfan wedi eu trefnu i banelwyr y De a’r Gogledd oherwydd achosion teithio.

Mae saith ohonom wedi ein dewis o’r Gogledd, lleoliad ein cyfarfod cyntaf gyda’r Comisiynydd Plant, a’i chydweithwraig, Sarah. Fe gyrhaeddais yn ystod y bore, a cherdded i mewn i ystafell llawn cynhesrwydd a chroeso. Roedd awyrgylch hyfyd yn yr ystafell o gychwyn y diwrnod hyd nes roedd hi’n amser ffarwelio.

Y saith ohonom a ddewiswyd o’r Gogledd yw Elan, Emma, Maria, Tom, Sam, Malin a minnau. Wrth i’r cyfarfod fynd yn ei flaen fe sylwais pa mor angerddol roedd pawb yn siarad am eu barn, a’r ffaith ein bod ni’n saith yn griw brwdfrydig a hwyliog.

I ddechrau’r diwrnod a cheisio dod i adnabod ein gilydd yn well, roedd yn rhaid inni gyflwyno ein hunain i weddill y grŵp a dweud rhywbeth difyr am ein henw. Fe gawsom stori ddigri gan y Comisiynydd Plant, am sut y cafodd hi ei galw’n Sally oherwydd iâr yr oedd ei thad yn berchen arni!

Yna fe symudom ymlaen i wneud ychydig o waith celf. Cawsom oll hwyl garw’n dylunio a defnyddio pob mathau o ddefnyddiau gwahanol i wneud rhwy fath o gludlun (collage) oedd yn cynnwys amryw bethau amdanon ni ein hunain, ein hegwyddorion a pethau sy’n ein cynrychioli.

Wedi hynny, fe aethom ati i ddidoli cardiau oedd â lluniau o wahanol bethau oedd yn berthnasol i blant arnynt i bentyrau ‘eisiau’ ac ‘angen’. Roedd yn ddiddorol gweld yr amrywiaeth barn o amgylch y bwrdd, ac deall fod pawb yn gweld pethau o berspectif gwahanol.

Yna, buom yn trafod rhai materion yr ydym yn awyddus i roi sylw iddynt yn ystod ein hamser ar y panel, ac fe eglurodd Sally ei rôl hanfodol fel llais i blant Cymru.

Hefyd, fe wnaeth hi rannu rhai o’i blaenoriaethau ar gyfer y blynyddoedd nesaf oedd yn cynnwys creu llysgenhadon yn ysgolion uwchradd Cymru, a gweithio ar gwricwlwm newydd y mae’r Llywodraeth yn ei baratoi ar gyfer 2021.

Fe fydd hi eisiau ein barn a’n sylwadau ar lawer o bethau y mae hi’n ei wneud fel Comisiynydd Plant Ieuenctid Cymru, ac wrth gwrs mae’r saith ohonom yn fwy na pharod i ddweud ein dweud a rhannu ein syniadau.

Gan fod panel ochr y De yn cyfarfod y deuddydd canlynol, fe benderfynom baratoi cyfarchion iddyn nhw drwy ffilmio ar yr i-pads! Rydym ni’n gobeithio clywed ganddynt yma yn y Gogledd yn fuan!

Wedi mwy o drafod a sgwrsio fe ddaeth y cyfarfod cyntaf i ben wrth i bawb ohonom sefyll mewn cylch a ffarwelio mewn ffordd unigryw a hwyliog. Roedd yn ddiwrnod llawn hwyl ac mi wnes i fwynhau’n fawr. Rwy’n edrych ymlaen yn barod ar gyfer y cyfarfod nesaf, ac mor frwdrydig ag erioed i sefyll dros hawliau plant Cymru!