Cartref diogel

Mae Erthygl 27 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) yn cyflwyno hawl pob plentyn i safon byw sy’n ddigonol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori yn ddiweddar ynghylch sut i sicrhau llwybr at dai digonol, ond beth mae’r gair ‘digonol’ yn ei olygu i blant?

Ydy hyn yn golygu cartref cynnes a sych?

Cartref fforddiadwy?

Cartref sicr?

Cartref lle gallwch chi fod yn breifat a diogel?

Cartref cynaliadwy?

Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, dylai cartref digonol fod yn fan sy’n cynnig sicrwydd, heddwch ac urddas.

Hawl i Dai Digonol

Gan gadw hyn mewn cof, rwy’n pryderu bod gormod o blant yng Nghymru yn methu derbyn eu hawl i safon byw sy’n dderbyniol.

Mae data diweddaraf Llywodraeth Cymru (Mehefin 2023) yn dangos bod 3,346 o blant (o dan 16 oed) yn byw mewn llety dros dro a bod 974 o’r plant hyn yn byw mewn gwestai neu lety gwely a brecwast.

Darpariaeth llety digartrefedd a chysgu allan: Mehefin 2023

Drwy fy ngwaith achosion, rwy wedi clywed gan deuluoedd sy’n byw mewn ystafelloedd cyfyngedig, gorlawn mewn gwestai, gyda mynediad cyfyngedig at gyfleusterau coginio a golchi dillad. Rwy wedi clywed gan blant am y ffordd mae byw mewn gwestai mewn ardaloedd diarffordd yn effeithio ar sut byddan nhw’n cyrraedd yr ysgol, cwrdd â ffrindiau a chwarae. Rwy wedi clywed sut mae hynny wedi effeithio ar eu hiechyd meddwl hefyd.

Rwy wedi clywed gan deuluoedd sydd wedi cael hysbysiad ‘Troi Allan Heb Fai’, sy’n digwydd pan fydd landlord yn gofyn i bobl adael eu cartref. Yn yr achosion hyn, er bod rhieni’n gweithredu’n gyflym i chwilio am dŷ, gwelir yn rhy aml fod y galw yn llawer uwch na nifer yr lleoedd sydd ar gael ac maen nhw’n methu cael tŷ, sy’n golygu bod angen llety brys arnyn nhw. Mewn un achos, roedd teulu â phlentyn anabl, oedd angen offer codi, wedi cael Hysbysiad Troi Allan Heb Fai. Roedd angen llety ar y teulu ond dywedodd yr awdurdod lleol wrth y rhieni nad oedd unrhyw eiddo ar gael ganddyn nhw.

Cafodd fy swyddfa gadarnhad gan yr awdurdod lleol y byddai’r teulu yn clywed, ar y diwrnod troi allan, ble bydden nhw’n cael llety.

Mae teuluoedd wedi cysylltu â mi am fod angen cymorth ar frys arnyn nhw i fynd i’r afael â phroblemau tamprwydd ac asbestos yn eu cartref. Rwy’n pryderu mwy a mwy am yr amodau amgylcheddol sy’n wynebu rhai plant yn eu cartrefi. Amlygodd gwaith ymchwil gan Shelter Cymru fod 1 ym mhob 4 o bobl yn byw mewn cartrefi lle mae problemau tamprwydd, llwydni neu anwedd.

Mae ffigurau ‘ysgytwol’ newydd yn dangos maint argyfwng tai yng Nghymru yng nghanol galwadau i Lywodraeth Cymru weithredu ar unwaith

Mae tai yn un o brif bryderon plant a phobl ifanc. Yn sgîl fy Arolwg Cymru gyfan, Gobeithion i Gymru, a dderbyniodd fwy na 10,000 o ymatebion gan blant, pobl ifanc ac oedolion, fe ddysgais fod;

  • Bron dau draean o blant 7-11 oed (61.1%) yn pryderu a oedd digon o arian gan eu teulu a bod bron hanner ohonyn nhw (49.7%) yn pryderu am gael rhywle i fyw.
  • Ymhlith y rhai 12-18 oed, roedd 51.3% o’r plant yn pryderu a oedd digon o arian gan eu teulu. Roedd 24.9% yn pryderu am gael rhywle i fyw.
  • Gwelwyd y lefelau uchaf o bryder ymhlith rhieni a gofalwyr. Roedd 66.5% o rieni a gofalwyr yn pryderu am gael rhywle i’w plant fyw.

Dyma pam rydw i wedi ymrwymo, fel Comisiynydd Plant Cymru, i daflu goleuni ar realiti amgylchiadau tai i blant, a bydda i a fy nhîm yn cynnal prosiect sbesiffig i wneud hyn.

Bydd hyn yn rhan o’m gwaith ehangach i wella safonau byw i blant. Yn ystod yr hydref eleni, cynhalion ni uwch-gynhadledd gyda nifer o fudiadau atal tlodi er mwyn uno ein galwadau ar Lywodraeth Cymru a dadlau ag un llais cryf dros newid.

Mae’n anoddach o lawer i blant ffynnu a chyflawni eu potensial pan fyddan nhw heb gartref diogel. Mae’n hanfodol bwysig bod Llywodraeth Cymru yn gwrando ar brofiadau plant ar y mater hwn, a bydd hynny’n helpu i lywio ein gwelliannau fel cenedl.