Adeiladu llwyddiant: pobl ifanc yn adeiladu eu cartrefi eu hunain

Day fachgen ifanc mewn warws adeiladuYr wythnos ddiwetha fe fues i’n ymweld â Phrosiect Warws Wrecsam a threuliais i gwpl o oriau difyr iawn yno.

Bu George Powell yn ofalwr maeth am 20 mlynedd, ochr yn ochr â’i waith fel adeiladwr yng nghwmni’r teulu. Ers hynny mae wedi adeiladu canolfan hyfforddi i bobl ifanc ochr yn ochr â’r cwmni, a drodd yn elusen yn 2014.

Mae warws ar stâd ddiwydiannol tu allan i Wrecsam yn darparu hyfforddiant dyddiol i bobl ifanc mewn sgiliau adeiladu – gan gynnwys gwaith coed, plastro, gosod brics ac addurno.

Mae yno hefyd gegin, stafell golchi dillad, stafell gelf a stafell gêmau. Cafodd yr adeilad ei weddnewid gan bobl ifanc yn 2011, gyda chefnogaeth gweithwyr y prosiect, ac fe’i hagorwyd yn swyddogol gan fy rhagflaenydd, Keith Towler, yn 2013.

Mae gwobrau ac erthyglau papur newydd i’w gweld yno, yn dangos bod llawer o’r bobl ifanc wedi bod yn cymryd rhan mewn gweithgaredau codi arian, twrnameintiau pêl-droed ac ati.

Mae’r prosiect hefyd yn cynnwys tai i rai pobl ifanc yn y dref, ac ar hyn o bryd mae’n ceisio codi arian i brynu Canolfan Achub y Glowyr, adeilad hanesyddol yn Wrecsam, y byddant yn ei adfer, gan ddarparu tai a swyddi i bobl ifanc yn y dref.

Mae’r prosiect yn gweithio gyda phobl ifanc sydd angen amgylchedd mwy cefnogol a hyblyg cyn bod yn barod i gychwyn ar gwrs coleg, prentisiaeth neu swydd.

Mae llawer ohonynt wedi bod yn byw mewn gofal neu’n ddigartref, ac mae angen cyfeirio rhai ohonynt oddi wrth weithgaredd troseddol. Roedd eraill yn syml yn methu gwneud cynnydd mewn amgylchedd dosbarth yn yr ysgol.

Er mai prosiect unigryw yw hwn (does gan bob tref ddim gweithiwr ieuenctid sydd hefyd yn ofalwr maeth ac yn adeiladwr, heb sôn am un sydd â chymaint o egni ac ymroddiad â George Powell a’i dîm), mae agweddau ar y prosiect a allai gael eu hefelychu mewn mannau eraill, ac yn fy marn i dylai hynny ddigwydd.

Dau fachgen ifanc ac oedolyn yn paratoi deunyddiau adeiladu tu allan

Yn gyntaf, mae’r prosiect yn hyblyg. Mae’n helpu pobl ifanc sydd ei angen. Gallan nhw fod yn rhai sy’n gadael gofal, yn ddigartref, neu wedi eu gwahardd o’r ysgol, ond does dim rhaid iddyn nhw ffitio i gategorïau twt i ymuno â’r prosiect.

Mae yno rai pobl ifanc sydd ag anableddau dysgu – roedd dosbarth celf yn cael ei gynnal yn ystod fy ymweliad. Hefyd, does dim terfyn amser ar y prosiect. Maen nhw’n cydnabod y gall gymryd amser hir i rai pobl ifanc ddysgu ymddiried mewn pobl a meithrin digon o hunanhyder i ddechrau dod yno.

Ac mae’n cymryd hwy fyth i rai ohonyn nhw ddysgu dod yn brydlon, cadw at reolau sylfaenol, a gweithio’n galed. Roedd arian yr awdurdod lleol ar gyfer mynychu’r prosiect wedi dod i ben yn achos un dyn ifanc y cwrddais i ag e yno, ond roedd e’n dal i fynd yno (ac yn cael lwfans am wneud hynny) nes bod y cyfle nesa’n dod i’r amlwg.

Yn ail, mae’r prosiect wedi’i seilio ar sgiliau. Mae pwyslais mawr ar wneud. Mae hyn nid yn unig yn dysgu sgiliau ar gyfer gwaith, ond hefyd yn meithrin hunan-barch. Fel mae pob gweithiwr ieuenctid yn gwybod, gall fod yn llawer haws siarad amdanoch eich hun, yn enwedig eich problemau, pan fyddwch chi’n gwneud gweithgaredd ochr yn ochr, yn hytrach nag wrth eistedd mewn stafell gwnsela.

Yn drydydd, mae’r prosiect yn cydnabod bod tai yn broblem wirioneddol, ac mae’r cwmni sy’n cynnal y prosiect yn adnewyddu neu’n adeiladu fflatiau a thai i’w rhentu gan y bobl ifanc.

Mae cynlluniau i’r bobl ifanc fod yn rhan o’r gwaith adeiladu hwn ar y prosiect nesaf uchelgeisiol, sef troi adeilad rhestredig yn amgueddfa fechan a safle i’r celfyddydau, gydag ystafelloedd byw a chysgu a fflatiau ar y safle.

Bydd hynny’n golygu bod y bobl ifanc yn wir yn rhan o’r cartrefi maen nhw wedi’u hadeiladu – yn emosiynol yn ogystal ag yn gorfforol. Nid dim ond dysgu sgiliau adeiladu mewn amgylchedd tebyg i goleg y mae’r bobl ifanc. Maen nhw’n gallu gweld gwerth yr hyn maen nhw’n ei adeiladu.

Mae’r prosiect yn cynnig cyngor ar iechyd, celfyddydau, hamdden, coginio, chwaraeon a gwaith gwirfoddol. Mae’r sgiliau sylfaen sy’n cael eu haddysgu wedi’u hachredu. Mae bron yn siop un stop ar gyfer pobl ifanc sydd angen cymorth o bob math.

Yn olaf, er mai dim ond am ychydig oriau y bues i yn y prosiect, roeddwn i’n gallu gweld arwyddocâd y berthynas rhwng pobl yno. Roedd rhywfaint o dynnu coes cyfeillgar, yn ogystal â pharch at y gweithwyr a’r gwirfoddolwyr sy’n taro deuddeg oherwydd eu gwybodaeth leol a’u sgiliau.

Mae ymddiriedaeth yma – rwyf wedi ysgrifennu ar y pwnc yna o’r blaen wrth drafod gwaith cymdeithasol llwyddiannus yn y gymuned (‘Gwaith Cymdeithasol Araf’) mewn cymuned arall lofaol gynt yn ne Cymru.

Fel llawer o bobl sy’n llawn angerdd a symbyliad, mae George yn barod iawn i gyfaddef ei fod weithiau’n codi gwrychyn y gwasanaethau statudol lleol oherwydd ei fod yn gwneud beth mae e’n meddwl sydd ei angen ar y bobl ifanc, nid o reidrwydd beth sy’n cyfateb i ddymuniadau comisiynwyr a rhoddwyr grantiau.

Ond y gwir amdani yw bod angen help ar y bobl ifanc mae’n gweithio gyda nhw yn union oherwydd nad oedd y gwasanaethau confensiynol yn addas ar eu cyfer.

Byddwn i wrth fy modd yn gweld mwy o brosiectau fel hyn, yn rhoi galwedigaeth go iawn, ac yn adfer hunanbarch ac ymdeimlad o werth pobl ifanc sydd â chymaint i’w roi, os cân nhw’r cyfleoedd iawn.