Llysgenhadon Uwchradd

Mae’n cynllun Llysgenhadon Uwchradd, yn ceisio hyrwyddo hawliau pobl ifanc a Chonfensiwn y Cynhadloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) yn ysgolion.

Cliciwch yma i ymuno am ddim

Lawrlwythwch eich pecyn croeso (ffeil zip)

Cliciwch yma i ddysgu mwy am ein Mater y Mis 

Sut mae’n gweithio

Mae ysgolion yn ethol dau Lysgennad ar ddechrau pob blwyddyn. Mae gan Lysgenhadon Uwchradd tair dasg arbennig:

  • Dweud wrth ddisgyblion eraill am rôl y Comisiynydd
  • Sicrhau bod plant eraill yn gwybod am hawliau plant a CCUHP
  • Cwblhau tasgau i’r Comisiynydd yn eu hysgol. Mae’r tasgau hon yn bwydo’n uniongyrchol i waith ein swyddfa ac yn cael effaith mawr ar ein gwaith.

5 rheswm i ymuno

  • Mae’r gwybodaeth ry’n ni’n casglu trwy’r cynllun yn bwydo’n uniongyrchol i’n gwaith; mae gan ein Llysgenhadon effaith go iawn ar hawliau plant yng Nghymru
  • Mae’r cynllun Llysgenhadon yn darparu modd bywiog a rhyngweithiol i blant yn eich ysgol ddysgu am eu hawliau, yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, sy’n tanategu gweledigaeth addysg Llywodraeth Cymru.
  • Mae’r cynllun yn cefnogi Pedwar Pwrpas cwricwlwm newydd Cymru, ac yn cynnig cyfleoedd i ddisgyblion datblygu fel unigolion iach a hyderus sy’n medru cyfrannu at eu cymunedau ysgol, a’u cymuned cenedlaethol fel dinasyddion moesegol a deallus
  • Mae’r cynllun yn cefnogi ysgolion i ddatblygu y ffyrdd mae nhw’n ymdrin â Lles, a Gofal, Cefnogaeth ac Arweiniad, sy’n ffurfio elfennau Fframwaith Arolygu Cyffredinol Estyn 2022.
  • Does dim cost!

Syniadau ar ddechrau’r cynllun yn eich ysgol

  • Rhowch wybod i’ch disgyblion eich bod chi’n ysgol Llysgenhadon Uwchradd a chynnal etholiad i ddewis eich Llysgenhadon.
  • Gall eich Llysgenhadon gychwyn ar eu gwaith ar unwaith trwy gynyddu ymwybyddiaeth o hawliau plant a’r Comisiynydd Plant. Bydd yr adnoddau rydych chi wedi derbyn yn y pecyn croeso, ein cynlluniau gwersi a’n posteri yn helpu.
  • Ym mis Hydref byddwn ni’n anfon y cyntaf o’r Tasgau Hawliau ar gyfer y flwyddyn atoch chi.
  • Dathlwch waith eich Llysgenhadon Uwchradd gydag ysgolion ledled Cymru yn yr Awr Hawliau ar Twitter: amser cinio bob dydd Gwener (12-1yp) @complantcymru #AwrHawliau

Cynlluniau i bawb

Mae ein cynlluniau Llysgenhadon yn gallu gweithio i bob ysgol; nid ysgolion prif ffrwd yn unig.

Rydyn ni’n creu adnoddau hygyrch, ac mae gennym staff yn ein digwyddiadau blynyddol sy’n cefnogi disgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol.

Yn y fideo hwn, mae athrawon o ysgolion arbennig yng Nghymru yn trafod buddion ymuno gyda’n cynlluniau.

Os oes gennych gwestiwn am yr hyn rydyn ni’n darparu, neu awgrymiadau i wella, plis cysylltwch â ni.