Ar ddechrau pob blwyddyn academaidd rydyn ni’n cynnal digwyddiadau i roi cyfle i’n Llysgenhadon Gwych i gwrdd â’r Comisiynydd Plant ac i gymryd rhan mewn gweithdai i ddysgu mwy am eu rôl nhw fel Llysgenhadon i’r Comisiynydd.
Mae’r digwyddiadau hefyd yn cynnig cyfle i athrawon i feddwl am sut i gefnogi’r cynllun a sut i ddatblygu gwaith hawliau plant yn eu hysgolion.
Os nad yw eich ysgol yn rhan o’n cynllun
Paid â phoeni, mae’n hawdd i ymuno, a does dim cost.
I ddysgu mwy am y cynllun, cer i’n tudalen Llysgenhadon Gwych.
Gwybodaeth Bwysig
- Does dim cost am fynychu, ond rydyn ni’n gofyn bod disgyblion ac athrawon yn dod â phecyn bwyd.
- Gall ysgol mynychu gydag un oedolyn a dau ddisgybl a bydden ni’n derbyn bwciadau ar sail y cyntaf i’r felin.
- Fel arfer mae disgyblion yn dod gydag athro, ond os nad yw hyn yn bosib byddwn hefyd yn croesawu aelod o staff cymorth yr ysgol neu lywodraethwr o is-grŵp Addysgu a Dysgu corff llywodraethu’r ysgol.
- Byddwn ni’n cynnal sesiynau ar wahân yn Gymraeg a Saesneg; byddwch yn gallu dewis iaith ar y ffurflen fwcio.
Anghenion Dysgu Ychwanegol
Bydd aelod o’n tîm yn cefnogi disgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol ym mhob digwyddiad. Os ydych chi’n credu bydd hyn o fudd i’ch disgyblion cysylltwch â jordan.james@complantcymru.org.uk.
Lleoliadau a Dyddiadau
Mae rhai o’n lleoliadau wedi newid eleni.
Yn dilyn adborth, rydyn ni wedi newid rhai o’n lleoliadau i wneud hi’n haws i fwy o ysgolion i fynychu ein digwyddiadau, yn ogystal a chynyddu’r nifer o ddigwyddiadau o 3 blwyddyn diwethaf i 6 eleni.
Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich gweld chi!
Cofrestrwch am ddigwyddiad drwy Eventbrite os gwelwch yn dda.
Bydd cofrestru yn agor ar 2 Medi.
Bydd pob digwyddiad yn rhedeg o 9.30yb – 2.00yh.