Cwestiynau Cyffredin

Beth yw pwrpas y cynllun?

I addysgu plant am eu hawliau a CCUHP, ac i gynnwys plant ysgolion cynradd yn ein gwaith i sicrhau datblygiadau positif i blant Cymru.

Beth mae Llysgenhadon yn gwneud?

Mae ysgolion yn ethol dau Lysgennad Gwych ar ddechrau pob blwyddyn. Mae gan Lysgenhadon Gwych tair tasg arbennig:

  • Dweud wrth ddisgyblion eraill am bwerau’r Comisiynydd
  • Sicrhau bod plant eraill yn gwybod am hawliau plant a CCUHP
  • Cwblhau tasgau arbennig i’r Comisiynydd yn eu hysgol. Mae’r tasgau hon yn bwydo’n uniongyrchol i waith ein swyddfa ac yn cael effaith mawr ar ein gwaith.

Pwy yw Comisiynydd Plant Cymru?

I ddysgu mwy am ein Comisiynydd presennol a’u sywddfa cliciwch yma.

Beth yw’r gost?

Mae’r cynllun a’r holl adnoddau perthnasol am ddim.

Sut y bydd fy nisgyblion yn elwa o’r cynllun?

Mae’r cynllun yn ffordd ddelfrydol o gefnogi datblygiad personol a chymdeithasol, lles ac amrywiaeth diwylliannol ledled y cwricwlwm.

Bydd yr wybodaeth a gesglir o dasgau arbennig y Llysgenhadon Gwych yn bwydo i waith ein swyddfa ac i’n cyfraniad at ddadleuon cenedlaethol ar faterion sy’n effeithio ar blant.

Golyga hyn fod gan ein Llysgenhadon Gwych effaith uniongyrchol ar y gwaith a wnawn i sicrhau bod plant a phobl ifanc yng Nghymru yn cael bywydau diogel a hapus.

Yn ogystal, bydd Llysgenhadon Gwych yn cael y cyfle i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu a datblygu perthnasau â Llysgenhadon Gwych mewn ysgolion eraill ledled Cymru.

Sut y bydd fy ysgol yn elwa o’r cynllun?

Trwy ddod yn ysgol Llysgenhadon Gwych byddwch yn dod yn rhan o rwydwaith ysgolion y Comisiynydd Plant ledled Cymru.

Mae’r cynllun Llysgenhadon yn darparu modd bywiog a rhyngweithiol i blant yn eich ysgol ddysgu am eu hawliau, yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, sy’n tanategu gweledigaeth addysg Llywodraeth Cymru.

Mae’r cynllun yn rhoi’r cyfle i’ch disgyblion gymryd rhan weithgar mewn bywyd ysgol, sy’n rhan allweddol o Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion Llywodraeth Cymru.

Bydd y cynllun hefyd yn cydfynd gyda unrhyw cynlluniau eraill, a mae sawl ysgol eisoes yn defnyddio’r cynllun i gefnogi’r canlynol:

  • Fframwaith ABCh
  • Hunanasesiad Estyn
  • Gwobr Ysgolion sy’n Parchu Hawliau
  • Datblygu ‘dinasyddion egwyddorol, gwybodus’ yng nghwricwlwm newydd Cymru
  • Rhwydwaith Ysgolion Iach
  • Eco-Sgolion
  • Ysgolion Masnach Deg
  • Ymarfer adferol
  • Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang
  • Safonau cyfranogaeth newydd Cymru

Sawl ysgol sy’n rhan o’r cynllun?

Blwyddyn diwethaf, bu dros 180 ysgol cynradd yn rhan o’r cynllun.

A all disgyblion o ysgolion arbennig neu ddarpariaeth addysg amgen gymryd rhan?

Gallant, ein bwriad yw gwneud y cynllun yn hygyrch i bawb. Mae ysgolion a fu’n rhan o’r cynllun yn y gorffennol wedi addasu elfennau o’r cynllun ar gyfer eu lleoliadau addysgol eu hunain. Os hoffech ragor o wybodaeth neu adnoddau, yn cynnwys ein pecyn symbolau CCUHP, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.

Pryd allwch chi ddechrau bod yn llysgennad i’ch ysgol?

Gall eich ysgol ddod yn rhan o’r cynllun Llysgenhadon unrhyw adeg o’r flwyddyn ond rydym fel arfer yn dweud wrth ysgolion i ymuno ar ddechrau’r flwyddyn ysgol.

Ble gallaf roi adborth ar y cynllun?

Rydym o hyd yn gobeithio datblygu a gwella’r cynllun felly croesawir eich adborth unrhyw adeg. Gwahoddir Llysgenhadon a’u hathrawon i’n digwyddiadau dathlu blynyddol lle cânt gyfle i drafod y cynllun â’r Comisiynydd a’i dîm ac i ddathlu eu llwyddiannau.