Llysgenhadon Gwych

Cynllun gan swyddfa’r Comisiynydd Plant yw Llysgenhadon Gwych sy’n hyrwyddo hawliau plant a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn mewn ysgolion.

Ymunwch yma â’n cynllun am ddim

Lawrlwythwch eich pecyn croeso (agor fel ffeil zip)

Cliwciwch yma i weld ein Tudalen Tasg Arbennig / ein Tudalen Mater y Mis

Darllenwch am gwestiynau cyffredin i’n Cynllun Llysgenhadon

Y cynllun

Mae ysgolion yn ethol dau Llysgennad Gwych ar ddechrau pob blwyddyn. Swyddi’r llysgenhadon yw:

  • Dweud wrth bawb yn yr ysgol am y Comisiynydd a’i phwerau
  • Gwneud yn siwr bod disgyblion eraill yn gwybod am hawliau plant a CCUHP
  • Cwblhau tasgau arbennig i’r Comisiynydd yn eu hysgol i fwydo’n uniongyrchol i waith ein swyddfa.

5 rheswm i ymuno

  • Mae’r gwybodaeth ry’n ni’n casglu trwy’r cynllun yn bwydo’n uniongyrchol i’n gwaith; mae gan ein Llysgenhadon effaith go iawn ar hawliau plant yng Nghymru
  • Mae’r cynllun Llysgenhadon yn darparu modd bywiog a rhyngweithiol i blant yn eich ysgol ddysgu am eu hawliau, yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, sy’n tanategu gweledigaeth addysg Llywodraeth Cymru.
  • Mae’r cynllun yn cefnogi Pedwar Pwrpas cwricwlwm newydd Cymru, ac yn cynnig cyfleoedd i ddisgyblion datblygu fel unigolion iach a hyderus sy’n medru cyfrannu at eu cymunedau ysgol, a’u cymuned cenedlaethol fel dinasyddion moesegol a deallus
  • Mae’r cynllun yn cefnogi ysgolion i ddatblygu y ffyrdd mae nhw’n ymdrin â Lles, a Gofal, Cefnogaeth ac Arweiniad, sy’n ffurfio elfennau Fframwaith Arolygu Cyffredinol Estyn 2022.
  • Does dim cost!

Darllenwch ein rhestr o gwestiynau cyffredin am fwy o wybodaeth.

Cynlluniau i bawb

Mae ein cynlluniau Llysgenhadon yn gallu gweithio i bob ysgol; nid ysgolion prif ffrwd yn unig.

Rydyn ni’n creu adnoddau hygyrch, ac mae gennym staff yn ein digwyddiadau blynyddol sy’n cefnogi disgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol.

Yn y fideo hwn, mae athrawon o ysgolion arbennig yng Nghymru yn trafod buddion ymuno gyda’n cynlluniau.

Os oes gennych gwestiwn am yr hyn rydyn ni’n darparu, neu awgrymiadau i wella, plis cysylltwch â ni.