Crynodeb o Ddull Hawliau Plant

Dyma crynodeb byr o’n Dull Gweithredu Seiliedig ar Hawliau Plant.

Mae’r dull gweithredu/y fframwaith wedi ei seilio ar 5 prif egwyddor:

  • Gwreiddio hawliau
  • Cydraddoldeb a dim gwahaniaethu
  • Grymuso plant a phobl ifanc
  • Cyfranogiad
  • Atebolrwydd

Gwreiddio Hawliau

Mae hyn yn golygu sicrhau bod Hawliau Plant (CCUHP) yn ganolog wrth gynllunio a chyflwyno gwasanaethau i blant a phobl ifanc

Bydd sefydliadau yn:

  • Creu cysylltiadau â Hawliau Plant (CCUHP) yn eu cynlluniau.
  • Cytuno ar strwythur ar gyfer sut maen nhw’n sicrhau bod hawliau plant yn cael eu cymryd i ystyriaeth ar bob lefel wrth wneud penderfyniadau.
  • Sicrhau bod gan arweinwyr a staff wybodaeth dda am hawliau plant (CCUHP), a’u helpu nhw i ddeall sut gall hynny fod o fudd i’w gwaith.

Cydraddoldeb a dim gwahaniaethu

Mae hyn yn golygu sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfle cyfartal i fod y gorau gallan nhw fod ac nad oes rhaid i unrhyw blentyn oddef cyfleoedd gwael mewn bywyd oherwydd camwahaniaethu.

Bydd sefydliadau yn:

  • Gofalu bod gan staff yr wybodaeth ddiweddaraf am Ddeddf Cydraddoldeb ac yn derbyn hyfforddiant i gynyddu eu hymwybyddiaeth o anghenion gwahanol grwpiau o blant a phobl ifanc.
  • Rhoi gwybodaeth i blant mewn iaith neu fformat sy’n briodol ar gyfer eu hoed, eu diwylliant neu eu gallu.
  • Dadansoddi data ac ystyried pa grwpiau o blant sydd ddim yn cael mynediad i’ch gwasanaethau, a pham – gallu defnyddio ein hasesiad ni o effaith ar hawliau plant.

Grymuso Plant a phobl ifanc

Mae hyn yn golygu rhoi gwybodaeth a hyder i blant i ddefnyddio’u hawliau a galw i gyfri sefydliadau ac unigolion sy’n effeithio ar eu bywydau.

Bydd sefydliadau yn:

  • Rhoi’r wybodaeth angenrheidiol i blant iddyn nhw fedru dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw (e.e. adroddiadau mewn iaith syml).
  • Cynnwys plant a phobl ifanc trwy roi’r cyfleoedd/hyfforddiant/wybodaeth angenrheidiol iddyn nhw i ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw.
  • Datblygu perthynas gyda grwpiau o bobl ifanc, i roi cyfle iddyn nhw gyflwyno syniadau ac adborth yn rheolaidd, e.e. grwpiau/fforymau ieuenctid.

Cyfranogiad

Mae hyn yn golygu gwrando ar blant a chymryd eu barn o ddifri (fel mae Erthygl 12 – CCUHP yn gwarantu).

Bydd sefydliadau yn:

  • Datblygu targedau clir ar gyfer gwrando ar blant a phobl ifanc o grwpiau ar y cyrion.
  • Cynnwys plant yn uniongyrchol wrth ddylunio, monitro a gwerthuso’r gwasanaethau maen nhw’n eu derbyn (gall hyn gynnwys bod plant yn ymwneud â recriwtio staff).
  • Mabwysiadu Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol Cymru ar gyfer Plant a Phobl Ifanc, i sicrhau bod profiad plant o gyfranogi yn un safonol.

Atebolrwydd

Mae hyn yn golygu dylai sefydliadau ac unigolion fod yn atebol i blant am y penderfyniadau a’r camau gweithredu sy’n effeithio ar eu bywydau

Bydd sefydliadau yn:

  • Cyhoeddi diweddariad blynyddol hygyrch yn dangos sut maen nhw wedi gweithio tuag at wireddu hawliau plant.
  • Rhoi adborth rheolaidd i blant mewn fformat addas.
  • Rhoi gwybodaeth hygyrch i blant ynghylch sut mae rhoi adborth am wasanaethau neu gyflwyno cwyn a galw staff i gyfrif.