Troi Uchelgais yn Weithredu: gwerthusiad o ‘Y Ffordd Gywir’

Cefndir

Mae polisïau a deddfwriaeth ar blant yng Nghymru wedi’u seilio ar Gonfensiwn y CU ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP).

Mae tri darn penodol o ddeddfwriaeth sy’n gosod dyletswyddau ar awdurdodau cyhoeddus yma i wireddu hawliau plant, sef:

  • Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011;
  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014; a
  • Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

I gefnogi cyrff cyhoeddus gyda’r dyletswyddau newydd hyn, yn 2017, cyhoeddodd Comisiynydd Plant Cymru ‘Y Ffordd Gywir: Dull Gweithredu seiliedig ar Hawliau Plant yng Nghymru’. Canllaw ymarferol yw hwn i helpu sefydliadau cyhoeddus, a sector preifat, i wneud hawliau plant yn ganolog i bob penderfyniad cynllunio a gwasanaeth a gyflwynir.

Beth yw ‘Y Ffordd Gywir’?

Mae’r canllaw yn esbonio hawliau dynol plant a’u perthnasedd i gyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill. Mae’n cynnwys pum egwyddor:

  1. Gwreiddio hawliau plant: sicrhau bod hawliau plant yn ganolog i gynllunio a chyflwyno gwasanaethau.
  2. Cydraddoldeb a pheidio â chamwahaniaethu: sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfle cyfartal i fod y gorau gallan nhw fod.
  3. Grymuso plant: gwella galluoedd plant fel unigolion fel eu bod yn gallu manteisio’n well ar hawliau, ac ymgysylltu â sefydliadau ac unigolion sy’n effeithio ar eu bywydau, a’u gwneud yn atebol.
  4. Cyfranogiad: gwrando ar blant a rhoi sylw ystyrlon i’w barn.
  5. Atebolrwydd: dylai awdurdodau fod yn atebol i blant am benderfyniadau a chamau gweithredu sy’n effeithio ar eu bywydau.

Y gwerthusiad

Roedden ni eisiau deall pa mor effeithiol mae’r canllaw wedi bod i gefnogi cyrff cyhoeddus ac eraill i newid eu ffyrdd o weithio. Eleni, fe wnaethon ni benderfynu gwerthuso trwy geisio deall y canlynol:

  • Pa waith sydd wedi cael ei wneud i gyflawni’r nod a ddymunir gan YFfG?
  • Beth sydd wedi gweithio’n dda a pha heriau a wynebwyd?
  • Beth sydd wedi newid o ganlyniad i wreiddio dull gweithredu YFfG?
  • Beth sy’n angenrheidiol i wneud YFfG yn gynaliadwy?

Fe wnaethon ni hyn trwy:

  • Edrych ar holl waith ein swyddfa a’r data a gasglwyd am ein gwaith;
  • Cynnal arolwg o’r sefydliadau sydd wedi gweithio gyda ni ar Y Ffordd Gywir;
  • Cynnal grwpiau ffocws gyda’r rhai sydd wedi gweithio gyda ni ar Y Ffordd Gywir.

Bu 30 o sefydliadau yn cymryd rhan yn yr arolwg, a 22 yn y grwpiau ffocws.

Cwblhawyd y gwaith yma gan fyfyrwraig PhD o Brifysgol Caerdydd, Katie Spendiff, sydd wedi bod ar leoliad gyda ni fel rhan o’i hastudiaethau.

Beth wnaethon ni

Dyma adroddiad crynodol yn amlinellu popeth rydyn ni wedi’i wneud i gynnal egwyddorion Y Ffordd Gywir fel sefydliad a sut rydyn ni wedi cefnogi cyrff cyhoeddus eraill i wneud yr un fath.

Beth yw barn eraill am Y Ffordd Gywir?

Dyma grynodeb o’r hyn ddywedodd pobl am Y Ffordd Gywir:

“Mae’n ddigon eang [YFfG], ond yn ddigon pendant i droi ein huchelgais o wneud beth sy’n dda ac yn iawn i blant yn weithredu”.

“Mae YFfG yn cynnig cyfle i fod yn gyson; i gymhwyso dull gweithredu unedig a chyson ar draws fy sefydliad, ac ar draws sefydliadau cyfatebol yng Nghymru”

“Mae YFfG wedi ein helpu i roi strwythurau ar waith i drawsffurfio un o’n gwerthoedd, sef gwrando ar blant a phobl ifanc, a’i droi’n weithredu. Cynhaliwyd grwpiau ffocws gyda [4 tîm cenedlaethol] a’r plant a’r bobl ifanc oedd yn ymwneud â nhw, gan ddarganfod bod yr ystod o dulliau gweithredu barnwrol yn ein hardal ninnau’n unig yn aruthrol. Trwy wrando ar blant, pobl ifanc a staff, llwyddwyd i drawsffurfio ein gwasanaethau i ymateb i anghenion y rhai oedd yn eu defnyddio. Newidiodd YFfG y lens – nid oedd plant yn camymddwyn ac yn haeddu eu cosbi; yn hytrach roedden nhw’n bobl oedd angen cefnogaeth adferol. Mae hyn wedi arwain at newid polisïau y bernir eu bod yn gosbol.

Mae canllawiau swyddogol a dogfennau gan Swyddfa’r Comisiynydd Plant wedi bod yn ddefnyddiol i sicrhau ymrwymiad ein llunwyr penderfyniadau uwch. Mae cael hyd i ffordd trwy holl bwysau a galwadau darparu gwasanaeth yn galw am ychydig mwy o anogaeth uniongyrchol, ac mae Sally’n cynnig hynny. Mae pobl yn gweld ei henw, ac fe gewch chi eu sylw. Nid fy llais i sydd dan sylw bellach, ond strategaeth ac adnoddau a Chomisiynydd. Rydyn ni’n croesawu hynny.”

Ar sail yr arolwg a’r grwpiau ffocws, ymddengys bod Y Ffordd Gywir:

  • Yn darparu dull cyson a chyffredin o ymdrin â hawliau plant
  • Yn caniatáu cyfleoedd i gydweithio, a ddathlwyd
  • Yn darparu cefnogaeth ymarferol i ddeall a gweithredu Y Ffordd Gywir
  • Yn galluogi ymrwymo ar lefel uwch oherwydd ‘bathodyn’ y Comisiynydd