Newyddion CPC

Diwrnod defnyddio’r rhyngrwyd yn fwy diogel

Ar yr 11eg o Chwefror cynhaliwyd gweminar byw gan dîm Comisiynydd Plant Cymru o Ysgol Gynradd Ynys y Barri. Thema'r gweminar oedd 'gadewch i ni greu rhyngrwyd gwell gyda'n gilydd'.

Adroddiad Blynyddol 2012/13

Adroddiad Blynyddol swyddfa'r Comisiynydd Plant am 2012/13. Lawrlwythwch yr adroddiad mewn fformat PDF a gwyliwch crynodeb gan Keith Towler.

Gweminar Arlein

Bu dros 1000 o ddisgyblion ysgol gynradd o bob rhan o Sir Benfro yn cymryd rhan mewn 'gweminar' arbennig er mwyn trafod hawliau plant gyda Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru.

Digwyddiad i’r Rhai sy’n Gadael Gofal 2013

Ym mis Gorffennaf fe wnaethon ni gynnal ail ddigwyddiad Cymru Gyfan i'r Rhai sy'n Gadael Gofal yng Ngholeg Iwerydd, Llanilltud Fawr. Mae'r digwyddiad yn cynnig cyfle i bobl ifanc sy'n gadael gofal i gwrdd â'u cyfoedion, i rannu gwybodaeth gyda'u gilydd ac i gymryd rhan mewn gemau.

Adroddiad Jillings

Datganiad wedi'i ryddhau gan Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru yn dilyn cyhoeddiad Adroddiad Jillings

Dyma Fi.TV

Bwriad prosiect DymaFi.tv yw cael pobl ifanc Cymru i ffilmio un diwrnod yn eu bywydau. "Mae unrhyw beth sydd yn rhoi llais i bobl ifanc Cymru yn bwysig, ac mae'r syniad tu nol i DymaFi.tv yn un uchelgeisiol a chyffrous." Meddai DJ Radio 1 Huw Stephens, sy'n llysgennad i'r prosiect. "Mae'n bleser cael cefnogi'r digwyddiad hanesyddol a diddorol yma."

Comisiynydd Plant Cymru yn amau digonolrwydd gwasanaethau ieuenctid

Mae gwasanaethau ieuenctid Cymru yn haeddu cael eu gwerthfawrogi a'u cyfarwyddo â chefnogaeth strategol gadarn ar lefel genedlaethol a lleol. Dyma'r alwad gan Gomisiynydd Plant Cymru, Keith Towler, wrth iddo gyhoeddi ei adroddiad a'i gyfrifon blynyddol heddiw (04 Hydref 2012).

Cyhoeddi cynlluniau i gynnal ei adolygiad cyntaf

Heddiw mae Comisiynydd Plant Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau i ddefnyddio'i bwerau statudol i adolygu'r ddarpariaeth eiriolaeth broffesiynol annibynnol ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal, rhai sy'n gadael gofal a phlant mewn agen.

Comisiynydd Plant Cymru yn lansio astudiaeth ar fasnachu plant yng Nghymru

Heddiw (18 Mawrth 2009) bydd Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru, yn cyhoeddi canfyddiadau astudiaeth ar fasnachu plant yng Nghymru.