Newyddion CPC

Lansiad Adroddiad Egwyliau Byr

Mae Comisiynydd Plant Cymru, Keith Towler, am gyflwyno darn allweddol o waith a fydd yn edrych ar y ddarpariaeth egwyliau byr ar gyfer plant anabl a'u gofalwyr yng Nghymru mewn lansiad yn y Senedd ar Orffennaf 3.

Unedau Cyfeirio Disgyblion yn cael eu gweld fel ‘ôl-ystyriaeth’

Mae adroddiad yn edrych ar unedau cyfeirio disgyblion, lle caiff rhai o ddysgwyr mwyaf agored i niwed Cymru eu haddysgu, wedi dod i'r casgliad bod yr ymarfer yn anghyson a'u bod yn rhy aml yn ôl-ystyriaeth ymhlith blaenoriaethau lleol a chenedlaethol.

Comisiynydd Plant yn Croesawu Adolygiad Annibynnol

Bydd rôl a chylch gorchwyl Comisiynydd Plant Cymru'n cael ei adolygu'n llawn yn y dyfodol agos gan gorff annibynnol.

Diwrnod defnyddio’r rhyngrwyd yn fwy diogel

Ar yr 11eg o Chwefror cynhaliwyd gweminar byw gan dîm Comisiynydd Plant Cymru o Ysgol Gynradd Ynys y Barri. Thema'r gweminar oedd 'gadewch i ni greu rhyngrwyd gwell gyda'n gilydd'.

Adroddiad Blynyddol 2012/13

Adroddiad Blynyddol swyddfa'r Comisiynydd Plant am 2012/13. Lawrlwythwch yr adroddiad mewn fformat PDF a gwyliwch crynodeb gan Keith Towler.

Gweminar Arlein

Bu dros 1000 o ddisgyblion ysgol gynradd o bob rhan o Sir Benfro yn cymryd rhan mewn 'gweminar' arbennig er mwyn trafod hawliau plant gyda Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru.

Digwyddiad i’r Rhai sy’n Gadael Gofal 2013

Ym mis Gorffennaf fe wnaethon ni gynnal ail ddigwyddiad Cymru Gyfan i'r Rhai sy'n Gadael Gofal yng Ngholeg Iwerydd, Llanilltud Fawr. Mae'r digwyddiad yn cynnig cyfle i bobl ifanc sy'n gadael gofal i gwrdd â'u cyfoedion, i rannu gwybodaeth gyda'u gilydd ac i gymryd rhan mewn gemau.

Adroddiad Jillings

Datganiad wedi'i ryddhau gan Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru yn dilyn cyhoeddiad Adroddiad Jillings

Dyma Fi.TV

Bwriad prosiect DymaFi.tv yw cael pobl ifanc Cymru i ffilmio un diwrnod yn eu bywydau. "Mae unrhyw beth sydd yn rhoi llais i bobl ifanc Cymru yn bwysig, ac mae'r syniad tu nol i DymaFi.tv yn un uchelgeisiol a chyffrous." Meddai DJ Radio 1 Huw Stephens, sy'n llysgennad i'r prosiect. "Mae'n bleser cael cefnogi'r digwyddiad hanesyddol a diddorol yma."