Webinar

Diwrnod defnyddio’r rhyngrwyd yn fwy diogel

Ar yr 11eg o Chwefror cynhaliwyd gweminar byw gan dîm Comisiynydd Plant Cymru o Ysgol Gynradd Ynys y Barri. Thema’r gweminar oedd ‘gadewch i ni greu rhyngrwyd gwell gyda’n gilydd’.

Webinar

Roedd Chris Elmore, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Plant ac Ysgolion, yn bresennol i ateb cwestiynau gan Ysgolion Gynradd o’r Fro ac i gymryd rhan mewn sgwrs i danlinellu’r ffyrdd gorau i bori’r wê yn ddiogel.

Fel rhan o’r gweminar, cynhaliwyd trafodaethau gan ysgolion ledled Cymru wedi’u seilio ar gynlluniau gwersi strwythuredig sydd wedi cael eu datblygu gan y Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol (NDLC). Bydd yr wybodaeth sydd wedi’i chasglu o’r gweminar yn hysbysu adroddiad sy’n cael ei baratoi gan NDLC.

Meddai Comisiynydd Plant Cymru:

“Gyda datblygiad Hwb – un llwyfan dysgu yng Nghymru – mae’n allweddol ein bod ni’n deall sut mae pobl ifanc eisiau ymgysylltu ag addysg, a rôl technolegau digidol ac addysg athrawon yn hynny”.

Mae’r Comisiynydd Plant hefyd yn cefnogi prosiect ymchwil i ddeall Arferion Cyfryngau Digidol a Llythrennedd Digidol disgyblion Blwyddyn 9 yng Nghymru. Mae’r rhaglen hon o ymchwil ansoddol a meintiol wedi cynnwys gwaith gyda phlant mewn ysgolion ledled Cymru. Mae cyfweliadau manwl gyda phlant gartre hefyd yn helpu i greu darlun llawn o sut maen nhw’n defnyddio dyfeisiau digidol ac yn ymgysylltu â llwyfannau cyfryngau cymdeithasol.