Lansiad Adroddiad Egwyliau Byr

Mae Comisiynydd Plant Cymru, Keith Towler, am gyflwyno darn allweddol o waith a fydd yn edrych ar y ddarpariaeth egwyliau byr ar gyfer plant anabl a’u gofalwyr yng Nghymru mewn lansiad yn y Senedd ar Orffennaf 3.

Archwilia’r adroddiad effaith egwyliau byr ar y cyfleoedd i blant anabl fwynhau eu hawl i chwarae, hamdden ac adloniant.

Fe fydd yr adroddiad hefyd yn edrych ar yr ystod o wasanaethau sy’n cael eu darparu ac i ba raddau mae plant anabl a’u gofalwyr yn teimlo bod y rhain yn diwallu eu hanghenion mewn gwirionedd.

Yn ogystal â darparu cefnogaeth i riant-ofalwyr a gofalwyr eraill, mae egwyliau byr yn cyflawni rôl bwysig o ran cynnig cyfleoedd i blant a phobl ifanc anabl fwynhau’r hawliau sy’n gysylltiedig â gweithgareddau cymdeithasol.

Noddir y digwyddiad gan Ann Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

Bydd Gwenda Thomas AC, Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn derbyn yr adroddiad yn ystod y digwyddiad.

Dyddiad: 3 Gorffennaf 2014
Amser: 12:30, i ddechrau am 13:00
Lleoliad: Y Senedd, Bae Caerdydd

Os hoffech chi fynychu, ebostiwch post@complantcymru.org.uk os gwelwch yn dda.

Am unrhyw wybodaeth bellach peidiwch ag oedi rhag cysylltu â Rebecca Griffiths ar 01792 765 604.