Dyma Fi.TV

Mae prosiect DymaFi.tv yn gofyn i bobl ifanc sydd rhwng 13 a 18 oed ffilmio diwrnod yn eu bywyd ar ddydd Sadwrn 22 Mehefin. Daeth y prosiect i fodolaeth yn dilyn ymgyrch See Me / Dyma Fi gan Gomisiynydd Plant Cymru, Keith Towler. Mae prosiect See Me / Dyma Fi yn ceisio chwalu ystrydebau am bobl ifanc Cymru ac yn trio gwella’r ffordd mae pobl ifanc yn cael eu portreadu, yn enwedig yn y cyfryngau.

Dinistrio Stereoteipiau Negyddol

Meddai Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru: “Mae’n bryd i ni i roi diwedd ar y labeli negyddol y mae plant a phobl ifanc yng Nghymru yn wynebu bob dydd. Bwriad ymgyrch Dyma Fi yw dinistrio’r stereoteipiau negyddol ac i hyrwyddo delweddau cadarnhaol o blant a phobl ifanc, i’w cynrychioli mewn modd cyfrifol a chytbwys yn yr holl waith a wnawn, ac i fod yn esiampl i wledydd eraill yn y DU ac ar draws y byd. Rwy’n falch iawn bod S4C a Cwmni Da wedi ymateb mewn ffordd gadarnhaol i’r materion hyn drwy roi’r cyfle i blant a phobl ifanc ddysgu a datblygu sgiliau ffilmio er mwyn rhannu eu storïau eu hunain, yn eu geiriau eu hunain ar DymaFi.tv. Fy nod fel Comisiynydd Plant Cymru yw i alluogi Cymru i fod yn wlad lle mae plant a phobl ifanc yn cael eu parchu, eu gwerthfawrogi, a’u cefnogi i fyw bywydau diogel a hapus. Y ffordd orau o gyflawni hyn yw rhoi’r offer i bobl ifanc i allu cymryd rhan mewn cymdeithas. Mae angen i ni ddathlu agweddau cadarnhaol o dyfu i fyny yng Nghymru, a byddwn yn annog pobl ifanc i rannu eu straeon a gwneud y gorau o’r cyfle gwych hwn.”

Darlun Gonest o Fywydau Pobl Ifanc

Bydd y ffilmiau mae’r bobl ifanc yn eu creu yn cael ei dangos ar wefan DymaFi.tv. ac mae yno hefyd glipiau ffilm sy’n rhoi cyngor ac awgrymiadau ar sut i fynd ati i greu ffilmiau fel hyn, a hynny heb fod angen offer drud na chymhleth. Noddir gwefan DymaFi.tv gan Gronfa Ddigidol S4C. Mae Film Club ar y cyd â Cwmni Da hefyd wedi bod yn cynnal gweithdai ar greu ffilmiau mewn Ysgolion Uwchradd ledled Cymru. Mae nifer o sefydliadau wedi cydweithio ar brosiect DymaFi.tv gan gynnwys S4C, Swyddfa’r Comisiynydd Plant, Film Club Cymru, Huw Stephens, Mudiad Ieuenctid Yr Urdd, Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru, Cwmni Da, Gwobr Dug Caeredin a Vibe Works. Bydd nifer o’r clipiau ffilm hyn yn cael eu cyfuno i greu ffilm a gaiff ei darlledu ar S4C ym mis Tachwedd. Y gobaith yw y bydd y ffilm yn rhoi darlun gonest o fywydau pobl ifanc yng Nghymru heddiw – yn eu geiriau, neu ffilmiau eu hunain.

Meddai Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Cynnwys i S4C: “Lle i greu yw DymaFi.tv. Lle i bobol ifanc wylio, gwneud a rhannu ffilmiau gwreiddiol sy’n berthnasol iddyn nhw. Mae pobol ifanc yn gwneud gymaint o bethau cyffrous yn ystod eu bywydau bob dydd a bwriad DymaFi.tv yw cynnig cyfle iddyn nhw ddweud eu stori eu hunain drwy gyfrwng creadigol ffilm. Wrth rannu a gwylio ffilmiau ar DymaFi.tv mae cyfle i ni glywed lleisiau newydd a chael cip olwg ar fywydau nad ydyn ni’n aml yn eu gweld ar y teledu. Rwy’n edrych ymlaen yn arw i weld yr ymateb i wefan DymaFi.tv a hefyd i weld sut ymateb fydd i’r ymgyrch i ffilmio 24 awr ym mywydau pobol ifanc ar ddydd Sadwrn 22ain Mehefin. Dyma’r tro cyntaf i ni wneud hyn ar S4C a gyda chymorth yr holl bartneriaid ar y project rwy’n ffyddiog y cawn gynnwys arbennig.”

Lansiwyd y prosiect DymaFi.tv yn swyddogol ar faes Eisteddfod yr Urdd ar Fws DymaFi.tv. Cafwyd y cyfle i groesawu pobl ifanc a’u hannog nhw i greu ffilmiau byr gan ddefnyddio camerâu, ffonau a chyfrifiaduron Apple Macs.

Meddai Phil Stead, Cyfarwyddwr Digidol gyda Cwmni Da: “Mae recordio fideo yn ail natur i bobl ifanc heddiw ac ry’ ni’n gwbl hyderus y bydd nifer eisiau cymryd rhan yn y prosiect arloesol yma. Mi fydd gwefan DymaFi.tv yn cynnig cyngor ar sut i wella sgiliau ffilmio. “Rydym ni wedi derbyn dwsinau o gyfraniadau gwych yn barod, a’r rheiny ar ffurf fideo camcorder, ar gamerâu, ac wrth gwrs mae llawer wedi cael ei llwytho o ffônau symudol. Mae gan bawb stori i’w hadrodd – ‘da ni isio clywed rhai pobl ifanc Cymru heddiw.”

Darlledir ffilm DymaFi.tv ar S4C ym mis Tachwedd.