Adroddiad Blynyddol 2012/13

Lansio Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru

Mae lleisiau plant a phobl ifanc yn aml yn cael eu hanwybyddu’n llwyr. Dyna’r neges sydd gan Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru, wrth iddo lansio’i Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer 2012/13.

Mae’r Comisiynydd Plant a’i dîm yn annog pawb sydd â dyletswydd i amddiffyn plant a phobl ifanc i sicrhau eu bod nhw ddim yn colli golwg ar y dull synnwyr cyffredin o wrando ar blant a phobl ifanc, clywed beth sydd ganddyn nhw i’w ddweud, a gweithredu ar sail eu pryderon.

Cymerwch olwg ar fideo’r Comisiynydd yn amlinellu ei Adroddiad Blynyddol eleni.