Adroddiad Jillings

Ac yntau’n Gomisiynydd Plant annibynnol Cymru, blaenoriaeth Keith Towler yw helpu i sicrhau bod y rhaia ddioddefodd ddigwyddiadau honedig o gam-drin a oedd yn byw mewn cartrefi gofal yng Ngogledd Cymru yn ystod y 1970au a’r 80au yn cael eu clywed o’r diwedd, a bod y digwyddiadau honedig o gamdrin plant yn y cartrefi gofal yng Ngogledd Cymru yn cael eu hymchwilio’n drylwyr.

Mae’n bwysig bod y strwythurau ffurfiol a roddwyd ar waith yn rhan o Ymgyrch Pallial, (yr ymchwiliad annibynnol, dan arweiniad Keith Bristow, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol,i honiadau diweddar o gam-drin plant hanesyddol mewn gofal yng Ngogledd Cymru) ac Adolygiad Macur(yr adolygiad annibynnol o Dribiwnlys Waterhouse) yn cael eu bwrw ymlaen yn gadarn fel bod cwestiynau’n cael eu hateb a gwersi’n cael eu dysgu. Byddem yn annog y rhai sydd efallai â gwybodaeth neu dystiolaeth i ddod ymlaen a rhannu eu pryderon ag Ymgyrch Pallial ac/neu Adolygiad Macur. Gallaifod unigolion nad ydynt am ail-fyw eu profiadau a dylem barchu hyn, ond i’r rhai sy’n dymuno dod ymlaen, mae’n rhaid i ni sicrhau bod cymorth arbenigol digonol ar gael i’r rhai sydd am ddweud wrth rywun am yr hyn sydd wedi digwydd.

Gall unrhyw un y mae arno angen cyngor a chefnogaeth annibynnol gan Swyddfa’r Comisiynydd Plant cyn cysylltu ag Ymgyrch Pallial neu Adolygiad Macur gysylltu â’n Tîm Ymchwilio a Chynghori sydd ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am a 5pm.