Newyddion CPC

Ymateb i adroddiad ‘How Safe 2015’ yr NSPCC

'O'r ffigurau yma mae'n edrych yn debyg fod plant, pobl ifanc ac oedolion sydd wedi goroesi cam-drin mewn plentyndod, yn ymddiried mwy yn y system gyfiawnder ac yn teimlo y bydd pobl yn gwrando ac yn eu cymryd o ddifri pan fyddan nhw'n siarad allan.

Dysgu’r Gwersi: Ymchwiliad Pallial

Bydd adroddiad a gyhoeddir gan Gomisiynydd Plant Cymru heddiw (12 Ionawr 2015) yn mynd ati am y tro cyntaf i geisio canfod gwersi y gallai unrhyw ymgyrch yn y dyfodol eu dysgu. Mae'r adroddiad hefyd yn edrych ar oblygiadau Ymgyrch Pallial i blant a phobl ifanc mewn lleoliadau gofal.

Comisiynydd Plant Cymru’n cwestiynu mynediad i blant anabl mewn ysgolion uwchradd

Mae adroddiad a gyhoeddir heddiw (18 Tachwedd 2014) sy'n amlygu hygyrchedd ar gyfer cadeiriau olwyn mewn ysgolion uwchradd yn datgelu bod y system gyfredol, sydd i fod i gynyddu mynediad i ddisgyblion anabl mewn ysgolion, yn annigonol.

Comisiynydd yn cwrdd â phobl ifanc Maes G

Bu'r Comisiynydd yn clywed barnau'n grwp cymunedol ym Mangor wythnos diwethaf.

Sianel YouTube newydd

Mae gan y Comisiynydd Plant sianel YouTube newydd. Bydd y sianel yn cynnwys amrywiaeth eang o fideos yn ffocysu ar hawliau plant, y CCUHP, llais plant a phobl ifanc ac esiamplau o waith da o Ysgolion yng Nghymru.

Cyngor Ysgol Cathays

Bu aelodau o dim y Comisiynydd Plant yn ymweld â aelodau o gyngor Ysgol yn Cathays, Caerdydd.

Mae tim y Comisiynydd wedi cymryd rhan mewn Blog Action Day

Gwyliwch ein fideo ar y thema anghydraddoldeb.

Cynhelir gweminar arbennig gan ddisgyblion Casllwchwr

Ymwelodd y Comisiynydd Plant ag Ysgol Casllwchwr yn Abertawe ar gyfer gweminar Llysgenhadon Gwych

Lansiwyd Adroddiad Blynyddol y Comisiynydd Plant

Mae'r Comisiynydd Plant wedi lansio ei adroddiad blynyddol ar gyfer y flwyddyn 2014.