Cyngor Ysgol Cathays

22 Hydref 2014

Roedd sôn bod gan gyngor Ysgol Cathays hanes o waith da i rannu gyda ni gyd a felly aethom ni i Gaerdydd i gwrdd â’r grwp.

Mae gan y cyngor sawl grwp, yn cynnwys grwp sy’n monitro cynnwys bwydlen yr Ysgol, grwp yn erbyn bwlio, grwp sy’n monitro bwlio arlein a grwp sy’n sicrhau bod disgyblion newydd yn teimlo’n gyfforddus.

Bu’r sesiwn yn ffocysu ar rannu gwybodaeth ynglyn a’r cyngor, yn enwedig yr effaith mae’r cyngor wedi cael ar yr Ysgol a’r newidiadau positif mae cymryd rhan yn y cyngor wedi cael ar ddisgbylion Cathays.