Dysgu’r Gwersi: Ymchwiliad Pallial

12 Ionawr 2015

Bydd adroddiad a gyhoeddir gan Gomisiynydd Plant Cymru heddiw (12 Ionawr 2015) yn mynd ati am y tro cyntaf i geisio canfod gwersi y gallai unrhyw ymgyrch yn y dyfodol eu dysgu. Mae’r adroddiad hefyd yn edrych ar oblygiadau Ymgyrch Pallial i blant a phobl ifanc mewn lleoliadau gofal.

Ym mis Tachwedd 2012, sefydlwyd Ymchwiliad Pallial i edrych ar honiadau penodol o gam-drin plant yn y gorffennol yng ngogledd Cymru. Mae’r adroddiad hwn yn edrych ar y prosesau cynnar a sefydlwyd gan Ymchwiliad Pallial, gan gynnwys gwaith ar gyfathrebu, cymorth i oroeswyr, pontio a’r goblygiadau i blant mewn lleoliadau gofal yng Nghymru heddiw.

Yn hollbwysig, mae’r adroddiad hefyd yn cyflwyno barn sampl bach o oroeswyr i helpu i ffurfio sail ar gyfer nifer o bwyntiau dysgu i ymchwiliadau yn y dyfodol. Mae’r rhain yn cwmpasu meysydd sy’n cynnwys:

  • effaith y cyfryngau cymdeithasol a darlledu ar oroeswyr, materion yn ymwneud â phrofiad y goroeswyr yn y llys,
  • yr angen i benodi gweithiwr cymdeithasol penodol i unrhyw dîm ymchwil yn y dyfodol i gynorthwyo â materion yn ymwneud ag ymdrin â goroeswyr, ac
  • ystyriaeth o effaith ymchwiliadau mawr o’r fath ar nifer cyfyngedig o gyrff sy’n darparu cwnsela arbenigol, ar adeg sy’n gweld galw sylweddol yn gyffredinol.

Wrth siarad am yr adroddiad, dywedodd Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru:

“Pan ofynnodd Ymchwiliad Pallial i mi gydlynu’r gwaith hwn, elfen hollbwysig o’r gwaith i mi oedd clywed barn y goroeswyr. Roeddwn i’n dymuno clywed yn uniongyrchol am eu profiadau nhw, yn ogystal â barn gweithwyr proffesiynol fu’n rhan o’r Ymchwiliad, er mwyn i mi allu llunio cyfres o bwyntiau dysgu cadarn.

“Roeddwn i’n ddigon ffodus i gael siarad â phedwar goroeswr a soniodd yn onest am eu profiadau, gan gynnig sawl beirniadaeth adeiladol. Bydd hyn yn gymorth i lywio ymchwiliadau yn y dyfodol.

“O’r dechrau gwnaeth y modd mae Ymchwiliad Pallial wedi rheoli ymchwiliad sy’n cael ei arwain gan oroeswyr argraff dda iawn arnaf i. Rwyf i’n gobeithio y bydd hyn yn arwain at gyfres o gyhoeddiadau fydd yn golygu bod y rheini sy’n arwain yr amrywiol ymchwiliadau sydd ar waith ar hyn o bryd i gam-drin plant yn y gorffennol yn gallu gwrando ar farn y goroeswyr, gan sicrhau bod pob un yn datblygu i fod yn ymchwiliad sy’n cael ei arwain gan y goroeswyr.”

DIWEDD