Comisiynydd Plant Cymru’n cwestiynu mynediad i blant anabl mewn ysgolion uwchradd

18 Tachwedd 2014

Mae adroddiad a gyhoeddir heddiw (18 Tachwedd 2014) sy’n amlygu hygyrchedd ar gyfer cadeiriau olwyn mewn ysgolion uwchradd yn datgelu bod y system gyfredol, sydd i fod i gynyddu mynediad i ddisgyblion anabl mewn ysgolion, yn annigonol.

Mae’r adroddiad amlygu gan Gomisynydd Plant Cymru’n edrych ar y modd mae awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswydd dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i gynllunio hygyrchedd mewn ysgolion i ddisgyblion anabl.
Mae’r canlynol ymhlith y canfyddiadau allweddol:

  • Mae’r drefn o ymgeisio am le mewn ysgol uwchraddyn frwydr i deuluoedd plant anabl, gyda llawer yn teimlo bod rhaid iddynt frwydro a chyfaddawdu er mwyn sicrhau canlyniad rhesymol i’w plant.
  • I rai plant ag anawsterau symudedd, mae’n ofynnol, a hefyd yn ddisgwyledig, eu bod yn gadael eu ffrindiau ac yn mynychu ysgol sydd wedi’i phennu’n hygyrch gan yr awdurdodau addysg lleol, ond yn aml dyw’r ysgol honno ddim mor hygyrch ag y dywedwyd wrthyn nhw’n wreiddiol.
  • Mae agweddau negyddol staff mewn ysgolion ac awdurdodau lleol yn peri pryder ymhlith gweithwyr proffesiynol ym maes cydraddoldeb anabledd a meysydd perthynol.
  • Ceir adroddiadau bod plant sy’n defnyddio cadair olwyn ambell waith yn cael eu heithrio o rai dosbarthiadau oherwydd eu hanabledd, fel coginio, gwyddoniaeth neu wibdeithiau ysgol.

Yn ôl Deddf Cydraddoldeb 2010, a rheoliadau cynharach sy’n dyddio nôl i 2001, rhaid i awdurdodau lleol gynllunio hygyrchedd ysgolion ar gyfer disgyblion anabl a rhaid i ysgolion unigol gael cynllun hygyrchedd. Fodd bynnag nid yw’n ofynnol i ysgolion sicrhau bod eu hadeiladau’n ffisegol hygyrch. Yn 2012, fe wnaeth Dr Sue Hurrell, ymchwilydd ac ymgyrchydd annibynnol a rhiant i blentyn sydd â pharlys yr ymennydd ac sy’n defnyddio cadair olwyn, weithio gyda newyddiadurwr i ddanfon ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth at bob awdurdod addysg lleol. O 22 awdurdod addysg lleol Cymru:

  • cadarnhaodd 8 nad oedd ganddynt strategaeth hygyrchedd
  • dywedodd 3 nad oedd strategaeth ar gael i’w rhannu
  • gwrthododd 3 ymateb i’r cais Rhyddid Gwybodaeth.

Yn 2013, ailanfonwyd ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth i’r 22 awdurdod addysg lleol. Y tro hwn:

  • roedd gan 11 o’r 22 naill ai strategaeth wan, oedd yn cynnwys gwybodaeth annigonnol am eu bwriad i wella, neu ddim strategaeth o gwbl
  • roedd gan 6 strategaethau oedd wedi dyddio neu oedd yn ddatganiadau o fwriad yn unig
  • o’r 5 arall, dim ond 2 strategaeth hygyrchedd oedd yn debyg i’r hyn a fwriadwyd dan y ddeddf.

Wrth sôn am yr adroddiad dywedodd Keith Towler:

“Mae addysg yn rhan allweddol o blentyndod. Nid yn unig mae plant yn dysgu ac yn datblygu yn yr ysgol, ond maen nhw hefyd yn dysgu meithrin perthynas ac yn cael profiadau newydd. Ydy hi’n dderbyniol bod teuluoedd yn anhapus, dan straen ac yn gorfod brwydro am yr hawl i sicrhau addysg i’w plant mewn ysgol ochr yn ochr â’u cyfeillion a’u cymheiriaid, gyda rhai hyd yn oed yn symud tÅ· i geisio hwyluso’r broses o bontio i’r ysgol uwchradd? Ydy hi’n iawn fod rhai disgyblion sy’n defnyddio cadeiriau olwyn yn cael eu heithrio weithiau o rai dosbarthiadau fel gwyddoniaeth a choginio? Ydy hi’n iawn fod awdurdodau lleol dan rwymedigaeth yn sgil dyletswyddau cynllunio i lunio strategaeth hygyrchedd gyda gwybodaeth fanwl am hygyrchedd o fewn eu stoc ysgolion, ond bod y mwyafrif llethol yn methu â chynhyrchu un?

“Sut gallwn ni ddisgwyl i blant a phobl ifanc gyrraedd eu llawn botensial pan fyddan nhw’n wynebu rhwystrau ffisegol fel hyn? Er bod dyletswyddau statudol clir wedi’u gosod i sicrhau bod ysgolion yn hygyrch, nid yw hyn wedi bod yn ddigonol. Rwyf i’n ei chael yn anodd derbyn nad oes gan ysgolion yr un dyletswyddau ag adeiladau cyhoeddus eraill o ran y gofynion dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i wneud eu hadeiladau’n hygyrch yn ffisegol. Er gwaethaf y cyfle hwn a gollwyd, mae dyletswyddau statudol yn bodoli ac mae angen i ni wneud yn siŵr fod awdurdodau addysg lleol ac ysgolion yn cyflawni’r ymrwymiadau hyn.”

Yn yr adroddiad amlygu ceir chwe blaenoriaeth ar gyfer gwella, gan gynnwys:

  • Galw ar Lywodraeth Cymru i adnewyddu ei harweiniad deng mlwydd oed ‘Cynllunio ar gyfer Cynyddu Mynediad i Ysgolion i Ddisgyblion ag Anableddau’ o fewn y 12 mis nesaf; a
  • Galw ar yr holl awdurdodau addysg lleol i gynnal archwiliad o’u stoc ysgolion uwchradd o fewn y 12 mis nesaf i sicrhau bod ganddynt wybodaeth glir am y sefyllfa gyfredol o ran hygyrchedd i ddisgyblion ag anableddau yn eu hardal.

Ychwanegodd Dr Sue Hurrell:

“Y lle gorau i ddechrau adeiladu cymdeithas sy’n croesawu pobl ag anableddau yw yn ein hysgolion. Os na allan nhw gynnwys plant sy’n defnyddio cadeiriau olwyn yna bydd y plant hynny’n dechrau eu bywyd yn teimlo’n eithredig. A bydd ein holl blant yn methu â dysgu gwir ystyr cydraddoldeb drostynt eu hunain.”

ASTUDIAETH ACHOS 1

Adroddodd rhieni un plentyn fod diffyg dewis o ran ysgolion uwchradd wedi cael effaith negyddol ar y teulu cyfan. Nid oedd yr awdurdod lleol yn gallu darparu manylion cynhwysfawr am ysgolion hygyrch. Adroddon nhw nad oedd agweddau rhai gweithwyr proffesiynol yn yr ysgolion ac yn yr awdurdod lleol yn eu helpu a’u bod yn ‘anghroesawgar’. Roedd yr holl broses yn ‘ddryslyd ac yn gawdel llwyr’.

ASTUDIAETH ACHOS 2

Symudodd teulu arall dÅ· er mwyn ceisio hwyluso’r broses o bontio i’r ysgol uwchradd. Fodd bynnag roedden nhw’n dal i deimlo nad oedd unrhyw gynllunio ar gyfer anghenion y plant unigol nac ymgynghori gyda rhieni. Doedd y cynlluniau strategol ‘byth ar gael i’w gweld mewn pryd’. Pan gytunwyd ar addasiadau, roedd hi’n dair blynedd arall cyn cwblhau’r newidiadau, gydag anghytundeb ai cyfrifoldeb yr ysgol ynteu’r awdurdod addysg lleol oedd talu amdanyn nhw. Adroddodd y teulu hwn fod agweddau staff at blant anabl yn gymysg iawn.