Mae’r Comisiynydd yn galw am amddiffyniad cyfartal i blant

20 Tachwedd 2015

Mae Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru, wedi nodi Diwrnod Byd’eang y Plant trwy annog Cymru i arwain y
ffordd ym maes hawliau plant a dod yn genedl gyntaf o fewn y Deyrnas Unedig i ddileu amddiffyniad cyfreithiol
‘cosb resymol’ yn erbyn plant. Yn ôl y Comisiynydd, byddai hyn yn rhoi’r un amddiffyniad i blant ag i oedolion yn
llygaid y gyfraith. Nid oes amddiffyniad cyfreithiol yn bodoli am daro oedolyn arall.

Cliciwch yma i weld y datganiad llawn.

https://www.youtube.com/watch?v=j-86gbvO9Vw?rel=0