Comisiynydd Plant yn tanlinellu profiadau o fwlio

16 Gorffennaf 2017

Y Comisiynydd Plant yn bwrw goleuni ar brofiadau plant a phobl ifanc o fwlio yng Nghymru ac yn galw am fynd ati o ddifri i ailwampio’r dulliau o fynd i’r afael â hyn a’i gofnodi

Mae diffyg cysondeb o ran sut mae ysgolion ac awdurdodau’n trafod ac yn adrodd am achosion o fwlio mewn ysgolion yn golygu bod plant yn teimlo’n ynysig ac eraill yn ansicr sut i ymateb os ydyn nhw’n gweld eraill yn cael eu bwlio. Dyna un o ganfyddiadau allweddol ymgynghoriad ar raddfa fawr gyda mwy na 2000 o blant a phobl ifanc a bron 300 o weithwyr proffesiynol, dan arweiniad Comisiynydd Plant Cymru.

Bu’r ymgynghoriad hwn, y cyhoeddir ei ganlyniadau heddiw (18 Gorffennaf) ar ffurf ‘Stori Sam’ – yn archwilio eu teimladau a’u profiadau o fwlio gyda phlant mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ac mewn lleoliadau cymunedol ar draws y wlad. Mae’r canlyniadau’n llawer rhy gyfarwydd. Mae cael eu gweld yn ‘wahanol’ o ran golwg, diddordebau neu hunaniaeth yn ffactorau o bwys sy’n arwain at blant yn cael eu bwlio. Nid yw’n syndod bod seiberfwlio hefyd yn bryder pwysig, yn enwedig ymhlith disgyblion ysgolion uwchradd.

Wrth wneud sylwadau ar ganfyddiadau’r adroddiad, meddai Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru:

“Ar sail yr hyn mae miloedd o blant wedi’i rannu gyda fi, does dim amheuaeth o gwbl bod bwlio’n gallu cael effaith drychinebus ar fywyd plentyn. Cafodd cryfder yr emosiynau yn y data lluniadol a’r naratifau a gasglwyd effaith fawr arna i, ac maen nhw’n ategu pa mor ddinistriol mae bwlio’n gallu teimlo i blant.”

Yn 2015 bwlio oedd prif flaenoriaeth 6000 o blant wnaeth gymryd rhan yn ymghynghoriad ‘Beth Nesa’r Comisiynydd. Fe wnaeth prosiect Stori Sam archwilio’n fwy manwl profiadau plant, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol.

Canfyddiadau allweddol gan fwy na 2000 o blant a phobl ifanc

  • Gwahaniaeth – mae plant yn gweld hyn fel mater allweddol yng nghyd-destun bwlio. Mae’n cynnwys materion fel ethnigrwydd, tlodi, anabledd a stereoteipio rhywedd
  • Bod yn Ynysig – dyma un arall o achosion bwlio: plant sydd heb ffrindiau ac sydd weithau’n newydd yn yr ysgol.
  • Rhieni – maen nhw’n aml yn cael eu gweld fel rhai sydd ddim yn ymateb neu sy’n aneffeithiol.
  • Person rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw i siarad â nhw – ymddengys bod hwn yn llwybr allweddol ar gyfer delio gyda bwlio, ac yn aml, athro yw’r person dan sylw.

Canfyddiadau allweddol gan bron 300 o bobl broffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc

  • Cysondeb; mynegodd nifer awydd am fwy o gysondeb ar draws ysgolion mewn ardaloedd awdurdodau lleol ac ar draws Cymru gyfan. Mae’r deunydd a gasglwyd yn awgrymu darlun amrywiol ac anwastad iawn.
  • Monitro: nododd y cyfranogwyr nad oedd system genedlaethol safonol na chyson ar gyfer monitro’r achosion o fwlio.
  • Natur bwlio: er bod rhai ffactorau nodweddiadol oedd yn golygu bod plentyn yn fwy agored i’r perygl o ddioddef bwlio, roedd hefyd amrywiaeth eang iawn o ffactorau posibl, ac roedd hwn yn fater cymhleth.
  • Diffiniad o fwlio: thema oedd yn codi droeon oedd pwysigrwydd eglurder ynghylch beth yw bwlio.

Wrth ymateb i’r canfyddiadau, ychwanegodd y Comisiynydd:

“Er ei fod yn broblem oesol, rwy’n credu bod gennym ni’r modd a’r symbyliad i atal bwlio a mynd i’r afael ag ef yng Nghymru’r 21ain ganrif. Rydyn ni mewn cyfnod hanfodol o ran addysg yng Nghymru, gan fod y gwaith o ddiwygio’r cwricwlwm yn mynd rhagddo a’r canllawiau hirsefydlog ar fwlio’n cael eu hadolygu o’r diwedd. Diben yr adroddiad hwn yw amlygu effaith wirioneddol cael eu bwlio ar fywydau plant a sicrhau bod y negeseuon cryf hyn yn cyfrannu at ffurfio’r cwricwlwm newydd, hyfforddiant athrawon a diwygio’r canllawiau gwrthfwlio.

“Y newyddion da yw bod yna ysgolion sy’n mabwysiadu dulliau ysgol-gyfan, megis y rhaglen KiVa o’r Ffindir a Ymarfer Adferol. Hefyd, mae disgyblion o ysgolion uwchradd hefyd yn arwain ymgyrch i fynd i’r afael â bwlio wedi selio ar hunaniaeth, megis homoffobia, rhywiaeth, islamoffobia a hiliaeth.Fe fydden ni’n hoffi gweld pob plentyn a pherson ifanc yn cael eu amddiffyn drwy’r dulliau yma.”

Blaenoriaethau ar gyfer gwelliant

  • Dylai Llywodraeth Cymru osod dyletswydd statudol ar ysgolion i gofnodi pob achos a math o fwlio yr adroddir amdanynt. Bydd hyn yn galw am ddiffiniad clir o fwlio.
  • Dylai ysgolion sefydlu dull gweithredu ataliol, a galluogi plant i adnabod a sylweddoli beth yw ymddygiad bwlio mor gynnar â phosibl.

Ychwanegodd Ruth Coombs, pennaeth Cymru yn y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:

“Mae Stori Sam yn amlygu bod gormod o blant yn cael eu bwlio oherwydd eu hil, eu ffydd, eu rhywioldeb, eu rhywedd, ac elfennau eraill o’u hunaniaeth. Gall bwlio o’r fath, sy’n seiliedig ar hunaniaeth, gael effaith ddifrifol, hirhoedlog ar lesiant, cyrhaeddiad addysgol a photensial plentyn. Rydyn ni’n croesawu argymhelliad y Comisiynydd Plant i weithio ar y cyd i gynyddu ymwybyddaeth o Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus i gymryd camau effeithiol i ddeall, atal a mynd i’r afael â bwlio seiliedig ar hunaniaeth, ac i alluogi plant a phobl ifanc i deimlo’n ddiogel a bod ganddynt gefnogaeth pan fydd hynny’n digwydd.”

ASTUDIAETH ACHOS

Mae Cynllun Ysgolion Iach Gwasanaethau Addysg Conwy wedi cynnal cynadleddau gwrthfwlio i ysgolion cynradd ac uwchradd lle mae’r athrawon yn cael eu hyfforddi ochr yn ochr ag aelodau o gynghorau ysgol. Mae’r rhain yn cael eu cynnal cyn Wythnos Gwrthfwlio ym mis Tachwedd. Y nod yw annog plant, pobl ifanc ac athrawon i gynnal ymgyrchoedd ysgol yn ystod yr wythnos honno. Mae’r cynllun hefyd wedi darparu polisi gwrthfwlio enghreifftiol, gan gynnwys fersiwn i blant a phobl ifanc sy’n gallu cael ei haddasu ar gyfer pob ysgol.

‘‘Y ffaith ein bod ni’n hyfforddi’r disgyblion ochr yn ochr â’u hathrawon yw’r elfen allweddol. Mae’r athrawon yn aml yn gwneud y sylw bod y plant a’r bobl ifanc yn dechrau cynllunio’u gweithgareddau ar y daith yn ôl i’r ysgol ar ôl y gynhadledd, ac yn aml egni’r plant/bobl ifanc sy’n sicrhau bod gweithgareddau’n digwydd. Mae fersiynau plant o’r polisïau hefyd yn allweddol yn yr ystyr eu bod yn rhoi i’r disgyblion ddealltwriaeth o’u rôl a’u cyfrifoldebau wrth helpu i fynd i’r afael â bwlio a hybu diwylliant o fod yn agored.”

DIWEDD