Grwp sy’n pontio’r cenedlaethau mewn digwyddiad yn y Senedd

9 Mawrth 2016

Mae digwyddiad unigryw sy’n cynnwys pobl o sawl oed yn digwydd yn y Senedd heddiw, 9 Mawrth. Mae Clwb Ni, grŵp o Aberystwyth sy’n dod â phobl ifanc a’r genhedlaeth hÅ·n at ei gilydd mewn partneriaeth i rannu profiadau a gweithgareddau, yn ymweld â’r Senedd. Aelodau Clwb Ni yw disgyblion Blwyddyn 6 o Ysgol Plascrug a thrigolion dau brosiect cartrefi gwarchod dan ofal Tai Ceredigion yn Aberystwyth. Hwn oedd y clwb cyntaf o’i fath i gael ei sefydlu yng Nghymru. Ers y cychwyn mae wedi mynd o nerth i nerth wrth i aelodau gwrdd yn rheolaidd i ddysgu oddi wrth ei gilydd, rhannu profiadau a chael hwyl wrth gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau.

Bydd y Comisiynydd Plant, Sally Holland a’r Comisiynydd Pobl HÅ·n, Sarah Rochira, yn cwrdd â’r grŵp yn y Senedd, er mwyn clywed mwy am yr hyn y mae’r plant a’r bobl hÅ·n yn ei ennill drwy gymryd rhan yng ngweithgareddau’r Clwb. Elin Jones AC sy’n noddi’r sesiwn.

Cyhoeddodd y Comisiynydd Pobl HÅ·n a’r Comisiynydd Plant ddatganiad ar y cyd cyn yr ymweliad:

‘Rydym ni’n falch o gael y cyfle i gwrdd â’r grŵp blaengar hwn. Mae diwylliant cadarn o gynnal cysylltiadau cryfion rhwng ieuenctid a henoed yn bodoli yng Nghymru, ond yn y gymdeithas sydd ohoni, aeth cyfleoedd yn brinnach nag erioed i bobl o genedlaethau gwahanol gymdeithasu â’i gilydd. Gall pobl hÅ·n sy’n byw ar eu pennau’u hunain gael eu heithrio a gall unigrwydd fod yn broblem gyson; serch hynny mae gan ein cenhedlaeth hynaf lawer iawn i’w gynnig. Weithiau bydd plant a phobl ifanc yn cael eu stereoteipio’n angharedig fel rhai hunanol neu hyd yn oed fel bygythiad i bobl hÅ·n. Mae clybiau fel ‘Clwb Ni’ yn dymchwel y rhwystrau ac yn dileu’r stereoteipiau gan roi cyfle i bobl ifanc a phobl hÅ·n wneud cyfraniad cadarnhaol i’w cymunedau. Hoffem weld mwy o glybiau fel hyn yn cael eu sefydlu ledled Cymru.’

Bydd y Comisiynydd Plant Sally Holland hefyd yn mynychu digwyddiad aml-oed arall yr un bore. Mae Wa Wa Cyf yn cynnal cyfnewidfa adrodd straeon rhwng disgyblion ysgolion cynradd Kitchener a Pharc Ninian yn Ne Glanyrafon, Caerdydd, ac oedolion sy’n ddall neu â nam ar eu golwg. Dyma gyfle arall i genedlaethau gwahanol gyfrannu’n gadarnhaol, gan ddefnyddio dulliau blaengar.

Meddai Sally Holland:

‘Rwy’n edrych ymlaen at gwrdd ag aelodau’r prosiect hwn a chlywed rhai o’r straeon. Dyma brosiect cyffrous sy’n agor drws i fydoedd newydd ar gyfer y plant a’r oedolion â nam ar eu golwg, yn gymdeithasol ac yn eu dychymyg yn ogystal.’