Stori Sam: Gwrando ar brofiadau plant a phobl ifanc o fwlio yng Nghymru
Rydyn ni hefyd wedi creu adnoddau ar gyfer ysgolion i’w defnyddio yn ystod wythnos gwrthfwlio:
Ysgolion Cynradd
Cynllun Gwers Meithrin/Derbynfa
Ysgolion Uwchradd
Cynllun Gwers Ysgolion Uwchradd
Canfyddiadau allweddol
- Gwahaniaeth – mae plant yn gweld hyn fel mater allweddol yng nghyd-destun bwlio. Mae’n cynnwys materion fel ethnigrwydd, tlodi, anabledd a stereoteipio rhywedd
- Bod yn Ynysig – dyma un arall o achosion bwlio: plant sydd heb ffrindiau ac sydd weithau’n newydd yn yr ysgol.
- Person rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw i siarad â nhw – ymddengys bod hwn yn llwybr allweddol ar gyfer delio gyda bwlio, ac yn aml, athro yw’r person dan sylw.
- Cysondeb; mynegodd nifer awydd o weithwyr proffesiynol am fwy o gysondeb ar draws ysgolion mewn ardaloedd awdurdodau lleol ac ar draws Cymru gyfan. Mae’r deunydd a gasglwyd yn awgrymu darlun amrywiol ac anwastad iawn.
- Monitro: nododd y cyfranogwyr nad oedd system genedlaethol safonol na chyson ar gyfer monitro’r achosion o fwlio.
Blaenoriaethau ar gyfer gwelliant
- Dylai Llywodraeth Cymru osod dyletswydd statudol ar ysgolion i gofnodi pob achos a math o fwlio yr adroddir amdanynt. Bydd hyn yn galw am ddiffiniad clir o fwlio
- Dylai ysgolion sefydlu dull gweithredu ataliol, a galluogi plant i adnabod a sylweddoli beth yw ymddygiad bwlio mor gynnar â phosibl.
Cefndir
Yn ei blwyddyn cyntaf fel Comisiynydd, roedd Sally eisiau gwybod pa materion oedd yn bwysicaf i blant a phobl ar draws Cymru.
I wneud hyn, lansiodd hi ymgynghoriad genedlaethol o’r enw Beth Nesa i roi’r cyfle i blant a phobl ifanc i ddweud eu dweud ar ei blaenoriaethau.
Roedd plant a phobl ifanc yn glir bod nhw eisiau i’r Comisiynydd i gyfrannu at fynd i’r afael â bwlio.
Yn ei ‘Chynllun ar gyfer Pob Plentyn a Pherson Ifanc 2016-19’, amlinellodd hi ei bwriadau i Lywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus wneud cynnydd sylweddol er mwyn sicrhau erbyn 2019 bod:
- Profiadau cyfoes plant o fwlio yn cael eu deall yn well, a bod ysgolion yn atal ac yn mynd i’r afael â bwlio yn fwy effeithiol
- Plant a phobl ifanc yn cael mynediad i’r gwasanaethau iechyd meddwl mae arnyn nhw eu hangen, a hynny’n brydlon
- Rhaglenni cryfach yn cael eu sefydlu i hybu iechyd a llesiant emosiynol a chefnogi cydlyniant ein gwasanaethau cymdeithasol a iechyd, ysgolion a gwasanaethau ieuenctid
Methodoleg
Gofynnon ni i’r plant a phobl ifanc sy’n rhan o’n cynlluniau Llysgenhadon i rannu eu teimladau a phrofiadau trwy gymerid dychmygol o’r enw ‘Sam’.
Gofynnon ni i’r plant adrodd Stori Sam, gan ddweud wrthyn nhw bod Sam yr un oed â nhw, yn dod o’u cymuned, ac yn profi bwlio.
Over 2000 children and young people took part through creative work and workshops.
Wnaeth dros 2000 o blant a phobl ifanc cymryd rhan trwy waith creadigol a gweithdai.
Cyswllt
Os oes gennych chi gwestiwn am yr adroddiad, neu os oes angen e mewn fformat wahanol, croeso i chi gysylltu â ni.