Blociau Adeiladu: Cynhwysiad yn y Cyfnod Sylfaen

Darllenwch yr adroddiad

Darllenwch yr adnodd i weithwyr proffesiynol

Crynodeb

  • Dangosodd dadansoddiad o 21 o achosion yn ymwneud â phlant Cyfnod Sylfaen a dderbyniwyd gan swyddfa’r Comisiynydd dros gyfnod o 18 mis themâu cyffredin yn yr achosion lle roedd plant yn cael eu gwahardd a’u hynysu. Roedd y rhain yn cynnwys bylchau yn y ddarpariaeth addysgol, prosesau atgyfeirio oedd yn peri dryswch, ac oedi cyn ymateb i anghenion y plentyn.
  • Mae gwaith achosion a dderbyniwyd gan swyddfa’r Comisiynydd yn dangos sefyllfaoedd lle profodd plant oed Cyfnod Sylfaen waharddiadau anghyfreithlon (neu ‘answyddogol’), ac mae bodolaeth yr arfer hwn i’w weld hefyd mewn gwaith ymchwil arall.
  • Adroddodd awdurdodau lleol wrthym ni fod cyfanswm o 768 o waharddiadau cyfnod penodol wedi’u cyflwyno i blant Cyfnod Sylfaen yng Nghymru yn 2018-19 (cyflwynwyd gwybodaeth gan 19 o blith 22 awdurdod lleol, felly nid yw’r ffigur hwn yn cynnwys data o 3 awdurdod lleol).
  • Mae nifer sylweddol o blant yn y Cyfnod Sylfaen yng Nghymru yn cael mwy nag un gwaharddiad cyfnod penodol y flwyddyn. Adroddodd un awdurdod lleol fod un disgybl Cyfnod Sylfaen wedi cael 18 gwaharddiad cyfnod penodol, ac mewn ardal arall roedd disgybl Cyfnod Sylfaen wedi cael 9 gwaharddiad cyfnod penodol. Ar draws yr 18 Awdurdod Lleol oedd yn dweud eu bod yn defnyddio gwaharddiadau cyfnodau penodol, cyfartaledd cymedrig y plant Cyfnod Sylfaen fesul awdurdod a gafodd eu gwahardd fwy nag unwaith yn ystod blwyddyn academaidd 2018/19 oedd 9 disgybl (ystod o 3-23 o ddisgyblion).
  • Mae gwaith achosion a data awdurdodau lleol hefyd yn dangos bod rhai o blant yn y Cyfnod Sylfaen yn cael eu haddysgu’n ynysig neu ar amserlenni wedi’u cyfyngu’n sylweddol.
  • Dangosodd ymgyngoriadau â gweithwyr addysg proffesiynol yng nghonsortia EAS a GwE (rhanbarthau de-ddwyrain, a gogledd Cymru) feysydd her cyffredin yn cael eu hadlewyrchu ym mhrofiadau a datblygiad plant gydag Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol (SEBD). Ymhlith y rhain roedd: anghenion heb eu diwallu; cyfathrebu; gweithio gyda chyfoedion; bywyd cartref a pherthynas â theuluoedd; trefn arferol a strwythur; effaith tlodi a defnydd o dechnoleg.
  • Amlygodd gweithwyr proffesiynol hefyd heriau amgylcheddau dosbarth ar gyfer plant ag SEBD a’r gweithwyr proffesiynol sy’n eu cefnogi. Ymhlith y rhain mae: lle a dyluniad ffisegol; maint dosbarthiadau ac ariannu; addysgeg y Cyfnod Sylfaen; disgwyliadau academaidd.
  • Amlygodd gweithwyr addysg proffesiynol rannau o’r ddarpariaeth ysgol gyfan sy’n golygu bod modd darparu’n well ar gyfer plant SEBD, gan gynnwys: gwreiddio dull gweithredu seiliedig ar hawliau plant; gwreiddio dull ysgol gyfan o ymdrin â iechyd meddwl a llesiant; a sicrhau llesiant staff.
  • Mynegodd gweithwyr addysg proffesiynol rwystredigaeth ynghylch yr agwedd gyfredol at weithio cydlynus, gan ddweud wrthym ni eu bod nhw’n teimlo fel petai rhaid mynd ar ôl asiantaethau, a bod plant yn cael eu “colli” oherwydd diffyg cydweithio. Roedden nhw’n teimlo nad yw elfennau hanfodol o gefnogaeth yn eu lle ar gyfer plant y Cyfnod Sylfaen sydd ag SEBD, ac roedden nhw’n cyfeirio at ddiffyg ymyrraeth gynnar, amserau aros hir, diffyg cefnogaeth arbenigol a lleoliadau arbenigol annigonol.
  • Mewn ymateb i’r canfyddiadau hyn mae’r Comisiynydd yn cyflwyno camau y dylid eu cymryd fel rhan o ymgyrch genedlaethol o blaid cymorth cynnar ac ymyriadau sy’n golygu nad oes unrhyw blant ifanc yn cael eu gwahardd o’u haddysg yn y Cyfnod Sylfaen.
  • Mae’r rhain yn cynnwys argymhellion tymor hwy ar gyfer y Llywodraeth nesaf, yn ogystal â chamau gweithredu y gall Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chonsortia eu cymryd ar unwaith.
  • Un o’r camau gweithredu hyn yw dosbarthu a hyrwyddo pecyn offer y Comisiynydd: “Blociau adeiladu: Cynhwysiad yn y Cyfnod Sylfaen”. Datblygwyd hwn ar y cyd ag ysgolion yng Nghymru sydd wedi profi peth llwyddiant o ran arfer cynhwysol yn y Cyfnod Sylfaen.