Adroddiad Blynyddol 2018

Darllenwch yr adroddiad 

Mae ein hadroddiad blynyddol ar gael i’w ddarllen yma.

Cipolwg ar ein blwyddyn

  • Gwrando ar 9443 plant a phobl ifanc ledled Cymru
  • Helpu 554 plentyn unigol trwy ein gwasanaeth Ymchwiliadau a Chyngor
  • Asesu gwelliannau hygyrchedd cadair olwyn mewn ysgolion
  • Cyhoeddi adroddiad ‘Stori Sam’, sy’n tanlinellu profiadau 2000 o blant o fwlio, datblygu adnoddau gwrthfwlio i ysgolion a chynnal arddangosfa yn y Senedd
  • Cyflwyno tystiolaeth newydd ar brofiadau plant o chwarae a hamdden
  • Datblygu adnoddau pwerus a senstif i ysgolion ar Daclo Islamoffobia sydd wedi newid dealltwriaeth ac agwedd plant
  • Gwrando ar brofiadau plant gydag anableddau dysgu, a’u teuluoedd, wrth iddyn nhw symud i oedolaeth
  • Sicrhau dyletswydd cyfriethiol newydd hawliau plant yn rhan o ddarpariaeth addysg Anghenion Dysgu Ychwanegol
  • Sicrhau cyfleoedd ac arian ychwanegol i bobl ifanc sy’n gadael gofal
  • Sicrhau bod plant a phobl ifanc mewn gofal wedi cael cyfle i ddweud eu dweud trwy’r holiadur Bright Spots
  • Gweithio gyda chyrff cyhoeddus, yn cynnwys byrddau iechyd, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Carchar Parc, Amgueddfa Cymru, ac awdurdodau lleol i hybu Dull Hawliau Plant
  • Cyhoeddi canllaw newydd i ysgolion ar Ddull Hawliau Plant, a chefnogi miloedd o blant a’u hathrawon i ddysgu mwy am hawliau plant a dylanwadu ar ein gwaith trwy ein cynlluniau Llysgenhadon llwyddiannus
  • Creu teclun hunan-asesu gyda Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i helpu cyrff cyhoeddus cyfuno eu gwaith ar hawliau plant gyda’u gwaith ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
  • Ymyrryd er mwyn amddiffyn Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol
  • Cefnogi ysgolion cynradd i greu clybiau newydd sy’n pontio’r cenedlaethau
  • Gweithio gyda phwyllgor Eco ysgol gynradd i asesu i ba raddau rydyn ni’n ecogyfeillgar, a newid ein hymarfer o ganlyniad
  • Cael ein hadnabod fel cyflogwr sy’n talu’r Cyflog Byw
  • Sichrau 763 darn o sylw yn y wasg

Argymhellion

Mae’r adroddiad yn gwneud 15 argymhelliad i Lywodraeth Cymru.

Dyma fideo sy’n eu crynhoi:

Os ydych chi angen yr adroddiad mewn fformat gwahanol, neu eisiau mwy o wybodaeth, ffoniwch 01792 765600 neu ebostiwch post@complantcymru.org.uk