Erthygl 31: Adroddiad Sbotolau

Rhannodd dros 450 plentyn a pherson ifanc eu profiadau o chwarae, treulio eu hamser rhydd, a chymryd rhan mewn gweithgareddau yn eu hysgol ac ardal leol gyda ni.

Darllenwch yr adroddiad yma.

Negeseuon allweddol

  • Mae plant a phobl ifanc yn aml yn gweld hi’n anodd i wneud y pethau rydyn nhw eisiau gwneud oherwydd cost gweithgareddau, y ffaith bod dim wastad digon ohonynt, a bod nhw weithiau’n anodd i’w cyrraedd.
  • Roedd plant a phobl ifanc eisiau cyfleoedd i dreulio eu hamser rhydd ac i gymdeithasu yn eu cymunedau, ac i deimlo’n ddiogel wrth wneud hynny.
  • Dydy plant a phobl ifanc ddim wastad yn teimlo’n digon hyderus i gymryd rhan yn y gweithgareddau sydd ar gael iddyn nhw.
  • Mae gan bob plentyn a pherson ifanc yr hawl i ddweud eu dweud ar benderfyniadau sy’n eu heffeithio nhw. Bydden ni’n gofyn i bob cyngor yng Nghymru i weithio gyda phlant a phobl ifanc ar draws Cymru i sicrhau bod nhw’n deall eu hanghenion ac yn gwneud y penderfynidau gorau.

Byddwn ni hefyd yn defnyddio’r wybodaeth i feddwl am y ffyrdd gall cyrff cyhoeddus helpu gyda’r rhwystrau sy’n wynebu sawl plentyn a pherson ifanc, yn cynnwys diffyg arian a mynediad at gludiant addas, ac i wneud yn siwr bod mwy o blant yn derbyn eu hawl i fynediad addas i gyfleoedd chwarae ac ymlacio.

Mae’r adroddiad ar gael yma.