Wrong door

Dim Drws Anghywir: dod â gwasanaethau ynghyd i ddiwallu anghenion plant

Darllenwch yr adroddiad llawn

Darllenwch yr adroddiad Dim Drws Anghywir 2020

Darllenwch yr adroddiad hygyrch

Darllenwch y adroddiad dilynol 2022

‘Dim Drws Anghywir’

Mae’r adroddiad hwn yn trafod sut mae plant a’u teuluoedd sy’n chwilio am gefnogaeth ar gyfer amrywiaeth o anghenion yn aml yn canfod bod rhaid iddyn nhw gael hyd i ffordd trwy system gymhleth iawn, eu bod yn gallu syrthio trwy’r bylchau lle nad oes gwasanaethau i gyfateb i’w hanghenion, neu eu bod ar restr aros am amser hir, dim ond i glywed eu bod yn aros yn y ciw anghywir, neu eu bod wedi bod yn curo ar y drws anghywir ar hyd yr amser.

Mae’r Comisiynydd a’i thîm yn credu y dylai gwasanaethau gofleidio teuluoedd, yn hytrach na’u bod yn gorfod ffitio i’r hyn sydd ar gael, ac y dylai cymorth gael ei ddarparu cyn gynted â phosib, i atal problemau mwy difrifol rhag datblygu.

‘Dim drws anghywir’

  • Mae’r pandemig byd-eang wedi dangos yn amlwg dan gymaint o straen mae iechyd meddwl a gofal cymdeithasol ar gyfer ein plant a’n pobl ifanc mwyaf agored i niwed. Rhagwelir y bydd ein gwasanaethau iechyd a gofal yn gweld cynnydd sylweddol yn yr angen yn ystod y misoedd nesaf, a bydd angen ymateb rhanbarthol, cydlynus er mwyn sicrhau bod y gefnogaeth rydyn ni’n ei chynnig yn ddigonol i ymateb i’r galw hwn.
  • Yn y rhan fwyaf o ardaloedd yng Nghymru, mae plant a phobl ifanc sy’n profi trallod o ran iechyd meddwl, llesiant emosiynol a materion ymddygiad yn aros yn rhy hir i gael yr help angenrheidiol, ac maen nhw’n cael eu ‘bownsio’ rhwng gwasanaethau sy’n methu cytuno pwy sy’n gyfrifol am eu gofal. Rydyn ni am weld gwasanaethau’n cofleidio plant a phobl ifanc a’u teuluoedd, yn hytrach na’u bod yn gorfod cael hyd i ffordd trwy systemau cymhleth.
  • Mae angen i ranbarthau symud yn gyflym tuag at ddull ‘dim drws anghywir’ wrth ymateb i anghenion llesiant emosiynol a iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Mae hynny’n golygu na ddylen nhw gael clywed droeon eu bod yn curo ar y drws anghywir wrth geisio cael cymorth. Gallai hyn gynnwys modelau panel neu hwb i ddarparu cymorth cydlynus yn brydlon, canolfannau galw heibio, timau amlddisgyblaeth, modelau sy’n sicrhau bod angen i lai o blant a phobl ifanc fynd oddi cartref i gael gofal arbenigol, neu gynlluniau ar gyfer gofal preswyl arbenigol yn nes adref.

Anableddau dysgu

  • Yn rhy aml, mae plant a phobl ifanc ag anableddau dysgu yn dal i wynebu profiad cymhleth, straenus wrth iddyn nhw symud o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion. Mae arwyddion addawol mewn rhai rhanbarthau, ond nid ydym wedi gweld y newid ‘ar lawr gwlad’ y bydden ni’n hoffi, ac rydyn ni’n annog pob rhanbarth i edrych eto ar eu cynlluniau ar gyfer y grŵp bregus hwn.

Camau cadarnhaol

  • Mae’n ein calonogi bod gan bob rhanbarth bellach grwpiau amlasiantaeth penodol i ystyried anghenion plant a phobl ifanc, er bod rhai o’r rhain yn newydd iawn.
  • Bu newidiadau diweddar sydd i’w croesawu i bolisi Llywodraeth Cymru, megis neilltuo cyllid sylweddol yn benodol ar gyfer plant ag anghenion cymhleth, cryfhau’r ddyletswydd sydd ar ranbarthau i sicrhau cyfranogiad plant yn eu gwaith, a chyhoeddi diffiniad ehangach o blant ag anghenion cymhleth, fel y dylai rhanbarthau fod yn trio cyflawni gwasanaethau integredig i bob plentyn sydd mewn trallod.

Beth sydd angen gwella?

  •  Mae angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy i gefnogi rhanbarthau i ‘drawsffurfio’ gwasanaethau i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion cymhleth, er enghraifft trwy weithio gyda rhanbarthau i rannu prosiectau dysgu a chymorth, a darparu cefnogaeth ariannol tymor hwy, y tu hwnt i arian ‘sbarduno’.
  • Mae angen i ranbarthau weithio gyda phlant a phobl ifanc, eu teuluoedd, a’r oedolion sy’n gofalu amdanynt, i ailgreu sut mae gwasanaethau’n gweithio. Mae hynny’n cynnwys bod yn fwy hygyrch a thryloyw ynghylch y gwaith maen nhw’n ei wneud.
  • Mae angen gweld cyllid ac adnoddau fel pethau sy’n perthyn i’r ‘rhanbarth cyfan’, yn hytrach na bod yn eiddo i awdurdodau lleol neu’r bwrdd iechyd lleol.

Dyma rai enghreifftiau diweddar o fywyd go iawn sydd wedi dod at sylw tîm Ymchwiliadau a Chyngor y Comisiynydd cyn y dyddiad cyhoeddi gwreiddiol ym mis Mawrth 2020:

  • Plentyn sydd wedi profi trawma cymhleth a mynd i’r adran Damweiniau ac Achosion Brys nifer o weithiau ar ôl ceisio cyflawni hunanladdiad. Oherwydd difrifoldeb y trais tuag at y rhieni, roedd yr heddlu’n cael eu galw allan i’r eiddo bron bob nos, ac yn aros am sawl awr bob tro. Roedd y plentyn yn derbyn cefnogaeth gan yr adran gofal cymdeithasol leol, ond dim cefnogaeth therapiwtig. Dywedwyd wrth y teulu fod y Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Blant a Phobl Ifanc (CAMHS o hyn allan) yn methu helpu.
  • Roedd teulu yn credu bod angen lleoliad diogel ar eu plentyn, gan fod y plentyn yn peryglu ei hun. Clywson ni fod gwasanaethau cymdeithasol yn ceisio cael hyd i leoliadau amgen, a’u bod wedi troi at ddwsinau o gyfleusterau preswyl, ond nad oedd lle i’r plentyn mewn un ohonynt. Y rhesymau roddwyd i ni oedd bod y plentyn ddim yn bodloni’r meini prawf. Arhosodd y plentyn mewn uned iechyd meddwl i gleifion mewnol, er bod y gweithwyr proffesiynol yn cytuno bod hynny ddim yn lleoliad priodol. Yna treuliodd y plentyn fisoedd ar ward pediatrig, oedd ddim yn lleoliad addas ar gyfer ei anghenion.
  • Plentyn ag anabledd dysgu, nad oedd ei amgylchedd cartref yn ddiogel i’r plentyn aros ynddo bellach. Mae’r plentyn wedi cael ei leoli mewn sawl man gwahanol ledled Cymru wrth i wasanaethau ymdrechu i ddelio gydag ymddygiad y plentyn. Mewn un o’r lleoliadau hyn doedd dim ymyriadau therapiwtig ar gael, a chan fod y plentyn yn llawer ifancach nag eraill yn y lleoliad, bu’r plant hŷn yn bwlio’r plentyn, ac yn achosi trawma pellach.
  • Roedd plentyn â chyflwr oedd yn cyfyngu ar fywyd ac anghenion gofal iechyd cysylltiedig sylweddol wedi bod yn derbyn gofal iechyd mewn un awdurdod lleol, ac yna newidiodd i leoliad maeth yn ardal bwrdd iechyd arall. Roedd y ddau fwrdd iechyd dan sylw yn awr yn dadlau ynghylch pwy oedd â chyfrifoldeb am anghenion iechyd y person ifanc, oedd wedi cyrraedd 18 oed yn ystod y symud.
  • Cafodd plentyn ei gadw mewn cyfleuster iechyd meddwl am wythnosau, er bod dim diagnosis iechyd meddwl, oherwydd bod dim darpariaeth arall ar gael.
  • Roedd plentyn wedi ceisio cyflawni hunanladdiad dair gwaith mewn tair wythnos. Roedd y rhieni’n teimlo y bydden nhw’n methu cadw’r plentyn yn ddiogel gartre, ond bod neb yn gwrando ar eu ceisiadau. Yn y pen draw, cafodd y plentyn ei ryddhau, heb gamau dilynol priodol.
  • Plentyn sy’n arrdangos ymddygiad ac anhawsterau sy’n awgrymu ei bod nhw’n byw â dyslecsia a dyspracsia, sydd heb fod yn yr ysgol am fwy na phedwar mis oherwydd materion gorbryder cymdeithasol a chysylltiedig â’r ysgol. Cafodd y person ifanc atgyfeiriad i CAMHS, ond fe ddwedson nhw nad oedd yn bodloni’r meini prawf i gael cefnogaeth bellach. Dywedodd CAMHS y gallai fod gan y person ifanc dueddiadau Anhwylder Sbectrwm Awtistig (ASD). Cwblhaodd ysgol y plentyn atgyfeiriad i’r tîm niwroddatblygiadol. Yn y cyfamser mae’r ymddygiad gorbryder sy’n destun pryder wedi gwaethygu, fel bod y teulu’n poeni’n fawr iawn. Mae’r gwasanaeth addysg lleol wedi nodi darpariaeth EOTAS a fyddai’n helpu’r plentyn i astudio ar gyfer arholiadau ysgol, ond does dim modd rhoi hyn ar waith oni bai bod y plentyn yn derbyn cefnogaeth iechyd meddwl weithredol trwy CAMHS. Gofynnodd y teulu i’r Meddyg Teulu roi ail atgyfeiriad i CAMHS i’r person ifanc. Yn ddiweddar mae CAMHS gofal sylfaenol wedi gweld y plentyn ac wedi cynnig cefnogaeth therapiwtig i helpu gyda’r gorbryder. Dyw’r plentyn ddim yn yr ysgol o hyd.
  • Roedd plentyn wedi cymryd gorddos ac yn sgîl hynny wedi cael ei dderbyn i’r ysbyty. Ers i’r plentyn gael ei ryddhau o’r ysbyty, cawsom glywed nad oedd wedi cael unrhyw gefnogaeth, er i’r teulu gael ar ddeall y byddai’r plentyn yn gallu cyrchu cefnogaeth yn y gymuned. Galwodd y teulu ar y gwasanaeth CAMHS lleol a chael ar ddeall bod y plentyn ar y rhestr aros i gael apwyntiad gyda CAMHS ond eu bod yn methu rhoi dyddiad. Roedd y plentyn hefyd ar restr aros ar gyfer cynghorydd yn yr ysgol. Dywedodd yr adran gwasanaethau cymdeithasol wrth y teulu mai cyfrifoldeb CAMHS yw cefnogi’r plentyn, ac o ganlyniad, wnaethon nhw ddim cynnig unrhyw gefnogaeth.
  • Roedd plentyn wedi cael ei gadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, ac aeth yr heddlu â’r plentyn i’r adran Damweiniau ac Achosion Brys. Nid oedd y plentyn wedi cael diagnosis o anhwylder meddyliol. Lleolwyd y plentyn ar ward oedolion yn yr ysbyty, dan oruchwyliaeth dau aelod o staff asiantaeth o’r uned iechyd meddwl lle roedd wedi bod yn flaenorol. Ni allai’r plentyn ddychwelyd i’r uned, gan nad oedd modd rheoli ymddygiad y person ifanc yno. Symudwyd y plentyn i ysbyty arall, eto ar ward oedolion, ond y tro yma ar wahân i weddill y ward. Trefnwyd cyfarfod amlasiantaeth i gytuno ar y camau nesaf. Roedd 16 o weithwyr proffesiynol yn bresennol yn y cyfarfod, gan gynnwys un o CAMHS lleol y plentyn, yr adran gwasanaethau cymdeithasol perthnasol ac un o’u cyfreithwyr. Cadeiriwyd y cyfarfod gan Gyfarwyddwr Clinigol CAMHS ym mwrdd iechyd y plentyn. Roedd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn honni eu bod yn methu darparu unrhyw fath ar lety diogel ar gyfer y plentyn, gan fod y person ifanc ar fin troi’n 17, ac nad oedd yn destun Gorchymyn Gofal.

Cynhaliodd BPRh Caerdydd a’r Fro ymarferiad ‘Gwrando ar Deuluoedd’ yn 2018 oedd yn gofyn am brofiadau pobl ag anableddau dysgu, a’u disgwyliadau. Roedd y disgwyliadau hynny’n cynnwys ymateb ymyrraeth gynnar rhagweithiol, yn hytrach nag adweithiol, cyllidebau wedi’u crynhoi, dilyniant staff, cael gwrandawiad, symleiddio apwyntiadau ac adolygiadau, amgylcheddau addas i blant wrth fynychu apwyntiadau, gwasanaethau sy’n diwallu eu hanghenion, gweithiwr allweddol neu berson arweiniol, a rhywun i gynorthwyo gyda mân dasgau heb fod angen atgyfeirio’n barhaus.

Mae BPRh Cwm Taf Morgannwg wedi gwneud cynnwys plant a phobl ifanc yn fwy yn eu gwaith yn flaenoriaeth. Ffurfiwyd blaenoriaethau strategol y Bwrdd ei hun trwy weithio gyda phobl ifanc, er enghraifft trwy Fforymau Ieuenctid a phrosiectau unigol sydd wedi defnyddio dull cynhyrchu ar y cyd i lunio gwasanaethau gyda phobl ifanc. Bellach mae’r Bwrdd yn gweithio i ddatblygu trefniadau mwy hirdymor ar gyfer cynhyrchu ar y cyd. Er enghraifft, mae angen i’r meini prawf sgorio ar gyfer grantiau ICF trydydd sector sydd ar gael i brosiectau sydd â ffocws ar blant ag anghenion cymhleth gynnwys yr angen am ddatblygu agwedd gyd-gynhyrchiol at wella iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc. Bydd angen hefyd i ymgeiswyr llwyddiannus fynychu gweithdy cyd-gynhyrchu.

Y cam nesaf ar gyfer y BPRh fydd cynnal gweithdy gyda phobl ifanc, lle bydd Cadeirydd y BPRh yn bresennol, er mwyn datblygu dull strategol mwy hir dymor, ar y cyd â’r bobl ifanc, o ran sut maen nhw am ymwneud â chyd-gynhyrchu gwaith y Bwrdd. Nid oedd y bobl ifanc yn awyddus i eistedd ar yr is-grŵp plant neu ar y bwrdd yn unig, gan eu bod yn teimlo y gallai hynny fod yn docynistaidd, ac maent wedi dweud wrth y BPRh eu bod am i’w hymwneud fod yn ystyrlon. Mae grŵp strategol y bwrdd ar gyfer plant a phobl ifanc wedi gweithio gyda phlant a phobl ifanc, gan gynnwys cynrychiolwyr oedd yn mynychu Fforymau Ieuenctid yn y rhanbarth, i gynnig cyfres o flaenoriaethau, lle bydd y prif bryderon yn ymwneud â iechyd emosiynol, llesiant a iechyd meddwl. Bydd y grŵp strategol yn cael ei dywys gan y flaenoriaeth hon yn eu gwaith.

Gan fod Cwm Taf Morgannwg yn rhanbarth newydd ei ffurfio, maen nhw’n manteisio ar y cyfle i gynnal ymarferiad mapio o’r ddarpariaeth bresennol ar draws y rhanbarth, o’r cyffredinol i’r arbenigol, ac o feichiogi at 25 oed. Nodwyd cyllid refeniw ICF hefyd ar gyfer datblygu cymorth cymunedol a thrydydd sector ar gyfer plant a phobl ifanc.

Mae gan FPRh Powys is-grŵp o’r enw ‘Partneriaeth Dechrau Da’, sy’n canolbwyntio ar faterion plant. O dan yr is-grŵp hwn mae 5 llif gwaith allweddol: datblygu canolbwynt cymorth cynnar amlasiantaeth; iechyd a llesiant emosiynol a chymorth ieuenctid integredig; lleoli a mabwysiadu; datblygu gwydnwch; a ffyrdd egnïol a iach o fyw.  Mae gan bob llif gwaith ei gynllun gweithredu ei hun ar gyfer olrhain cynnydd. Hefyd mae grŵp trawsbynciol ar gyfer materion fel diogelu, eiriolaeth a’r iaith Gymraeg. Mae’r grwpiau llif gwaith hyn yn cyfarfod bob 8 wythnos ac yn bwydo i’r bartneriaeth Dechrau Da sy’n cwrdd bob mis; mae hynny yn ei dro yn bwydo holl gyfarfodydd eraill y BPRh. Mae’r gwaith a ddatblygwyd trwy’r bartneriaeth Dechrau Da yn cynnwys cyfarfodydd Partneriaeth Nodi Cynnar Powys mewn ysgolion, a gynhelir bob tymor yn holl ysgolion uwchradd y rhanbarth.

Mae BPRh Gwent wedi datblygu model o baneli Un Pwynt Mynediad ar gyfer Llesiant Emosiynol a Iechyd Meddwl Plant (SPACE-Wellbeing). Mae’r paneli hyn ar waith ar draws ardaloedd 5 awdurdod lleol Gwent. Mae’r gwaith hwn wedi adeiladu ar y ‘Paneli Cymorth Cynnar’ oedd eisoes yn eu lle yn Sir Fynwy a Chasnewydd, ac wedi ehangu ar draws ardaloedd y tri awdurdod lleol arall, sef Torfaen, Caerffili a Blaenau Gwent. Mae ‘uwchraddio’r’ paneli hyn wedi cael ei gyflawni trwy gyllid trawsffurfio ac arloesedd iechyd meddwl. Defnyddiwyd peth o Arian Trawsffurfio Llywodraeth Cymru hefyd i ariannu’r prosiect hwn.

Mae’r paneli’n cwrdd unwaith yr wythnos ac yn derbyn atgyfeiriadau o ffynonellau lluosog: Meddygon Teulu, ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol, ond hefyd rhieni a theuluoedd. Derbynnir atgyfeiriadau ar gyfer plant sydd ag anghenion cymhleth, a allai gynnwys hanes o drawma, problemau teuluol, anhwylderau iechyd meddwl, anghenion gofal cymdeithasol, ac anabledd.

Mae’r rhai sy’n mynychu’r panel y bu’r Comisiynydd yn ymweld ag ef yn Sir Fynwy (Panel Cymorth Cynnar Sir Fynwy) yn cynnwys cynrychiolwyr o ystod eang o wasanaethau: gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol, gwasanaethau iechyd meddwl sylfaenol ac arbenigol, gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, gwasanaeth chwaraeon a hamdden yr awdurdod lleol, gwasanaethau ieuenctid, gwasanaeth cwnsela yn yr ysgol, gwasanaeth Meithrin Teuluoedd Cryfach, darpariaeth iechyd meddwl y trydydd sector, gwasanaeth pontio anabledd dysgu, sefydliad gofalwyr ifanc, gwasanaethau tai, a gwasanaethau menter ieuenctid.

Yn y cyfarfod hwn o’r panel, trafodwyd mwy na 20 o blant a phobl ifanc mewn cyfnod o 1½ awr. Trefnwyd ymyriad ar unwaith ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc (neu ddilyniant o ymyriadau lle roedd hynny’n briodol). Roedd y rhain yn amrywio o ymweliad syml i gwrdd â’r person ifanc dros baned o de a thrafod opsiynau cymorth lleol, cynnig i ymuno â grŵp cefnogi gofalwyr ifanc, cefnogaeth i ymuno â gweithgaredd cymdeithasol neu chwaraeon, cwnsela profedigaeth neu therapi chwarae i ymwneud â CAMHS arbenigol, mewn nifer bach o achosion. Nod y panel yw cymryd i ystyriaeth holl amgylchiadau’r teulu os yw hynny ar gael iddyn nhw, ac ymateb i’r holl anghenion sy’n berthnasol i’r person ifanc dan sylw, i’r graddau mae hynny’n bosib.

Mae gwerthusiad o’r paneli ar waith ar hyn o bryd, ond gall y bwrdd ddangos bod gostyngiad yn y galw am iechyd meddwl arbenigol i blant, o ganlyniad i ddyrannu ffynonellau cefnogaeth eraill mwy priodol i blant a theuluoedd trwy’r paneli.

Mae SPACE-Wellbeing yn rhan o fodel ‘Mynydd Iâ’ Gwent.

Mae’r fideo isod, gan Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, yn esbonio mwy am y model Mynydd Iâ.

Adduned gan Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru:

“Byddaf yn cwrdd â’r holl Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn ystod blwyddyn ariannol 2021-22 i ddilyn ymlaen o’r darn yma o waith, ac yn benodol i wirio cynnydd yn erbyn yr argymhellion canlynol. Byddaf yn gwahodd â phobl ifanc i ymuno gyda fi ar gyfer pob cyfarfod fel bod ganddyn nhw’r cyfle i graffu ar welliannau pob Bwrdd.”

Argymhellion ar gyfer Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol:

  1. Fel rhan o’n hymateb cenedlaethol i anghenion iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc wedi’r cyfnod hwn o gyfyngiadau symud, dylai pob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol gynllunio a gweithredu dull ‘dim drws anghywir’ o ymdrin â iechyd meddwl a llesiant, a allai gynnwys timau integredig a modelau panel a hwb i ddarparu cymorth cydlynus yn brydlon, canolfannau galw heibio, a chynlluniau ar gyfer darpariaeth breswyl integredig lle bo angen. Dylai pob Bwrdd adolygu eu Cynllun Ardal cyfredol i sicrhau eu bod yn cymryd camau digonol i roi sylw i anghenion plant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth, a bod awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol yn wir yn gweithio gyda’i gilydd yn effeithiol i gyflawni hyn. Dylai hyn gynnwys ystyried y Cynllun yng ngoleuni pandemig Covid-19 ac effaith hynny ar y blynyddoedd sy’n weddill o’r Cynllun Ardal, a strategaethau tymor hwy.
  2. Rhaid i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r canllawiau statudol Rhan 9 sydd newydd eu diwygio trwy wneud y canlynol:
  • Sicrhau nad yw cyllid i’w weld yn cael ei ‘gadw’ gan naill ai’r bwrdd iechyd na’r awdurdod lleol, a bod y trefniadau hyn yn destun cytundeb ysgrifenedig rhwng partneriaid. Dylai’r cronfeydd fod yn eiddo i’r rhanbarth cyfan, a dylai pob gwasanaeth deimlo bod ganddyn nhw gyfran gyfartal.
  • Yng ngoleuni’r gofyniad statudol newydd i estyn dyletswyddau adran 12 i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol, dylai pob Bwrdd adolygu eu trefniadau cyfredol ar gyfer ymgysylltu â chynhyrchu ar y cyd gyda phlant a phobl ifanc. Dylai BPRhau ddefnyddio fframwaith Y Ffordd Gywir i fabwysiadu dull gweithredu seiliedig ar hawliau plant, a fydd yn tywys eu dull o weithio gyda phlant a phobl ifanc, a hefyd y Safnonau Cyfranogiad Cenedlaethol. Mae’n rhaid i hyn cynnwys y Bwrdd ei hun yn gwrando ar blant a phobl ifanc yn uniongyrchol, a bod plant a phobl ifanc yn cael y pwêr i siapio gwaith y Bwrdd.
  • Fel rhan o’u dyletswydd i gefnogi trefniadau pontio effeithiol, integredig o’r gwasanaethau plant i wasanaethau oedolion, dylai Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol gyhoeddi protocolau pontio amlasiantaeth, os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny, ar gyfer plant a phobl ifanc ag anableddau dysgu, gan ystyried sut mae cyflwyno dull gweithredu fel bod y problemau lluosog, ystyfnig o ran anghysondebau sy’n ymwneud â lle mae pobl yn byw, a threfniadau pontio ar draws ffiniau a sectorau yn cael eu hintegreiddio gymaint â phosibl.
  1. Dylai Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol weithio gyda’r Rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc (2) i archwilio sut gallan nhw drefnu gwaith y BPRhau yn well a hysbysebu gwaith a rôl y Byrddau yn well mwyn iddyn nhw fod yn fwy hygyrch i deuluoedd. Dylai hynny gynnwys disgrifiadau hygyrch o lwybrau amlasiantaeth ar gyfer plant ag anghenion cymhleth, yn ogystal â’r prosiectau hynny sy’n uniongyrchol berthnasol i blant a’u teuluoedd.
  2. Dylai Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol weithio gyda chynrychiolwyr dinasyddion a’r trydydd sector sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd ag anghenion cymhleth er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys yn ddigonol mewn gwaith ystyrlon fel rhan o’r Bwrdd, ac yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi’n llawn fel partneriaid cyfartal gan yr aelodau statudol.
  3. Dylai Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ddatblygu memorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ar faterion a allai orgyffwrdd, lle roedd y rhain yn ymwneud â phlant a phobl ifanc, gan gynnwys cytundeb ar sut i ymdrin â’r materion hynny a fyddai’n elwa o weithio ar y cyd rhwng Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, megis rhoi trefniadau yn eu lle er mwyn cynnig am gyllid neu gomisiynu ar y cyd.
  1. Fel cyllidwyr Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, dylai Llywodraeth Cymru gwneud ei chyfrifoldebau yn glir o ran y fframwaith y mae Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn gweithio o fewn. Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod mecanweithiau atebolrwydd cadarn yn eu lle er mwyn i’r Byrddau adrodd ar eu gwaith ynghylch trefniadau amlasiantaeth ar gyfer plant ag anghenion cymhleth, gan gynnwys pontio i wasanaethau oedolion. Dylai hyn gynnwys adolygu Cynlluniau Ardal BPRhau yn rhagweithiol a monitro cynnydd yn erbyn eu huchelgeisiau trwy Adroddiadau Blynyddol a chyfarfodydd.
  2. Bydd angen i Lywodraeth Cymru gefnogi Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol gyda’u strategaethau tymor hir. Bydd mwy o angen y gefnogaeth hon yn awr nag erioed oherwydd yr amgylchiadau presennol, a dylid egluro sut bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i sicrhau gwell profiadau a chanlyniadau i blant a’u teuluoedd. Dylai hyn gynnwys newid i’r system a fydd yn helpu teuluoedd i brofi dull gweithredu ‘dim drws anghywir’ ym mhob rhanbarth, megis timau integredig, modelau hwb a phanel i ddarparu cymorth cydlynus yn brydlon, canolfannau galw heibio a chynlluniau ar gyfer darpariaeth breswyl integredig lle bo angen.
  3. Dylai Llywodraeth Cymru newid y Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth ac Asesiadau Poblogaeth i fynnu bod cyllid yn cael ei gyfuno i greu dull ‘dim drws anghywir’ ar gyfer plant a phobl ifanc.
  4. Rhaid i adolygiad cyfredol Llywodraeth Cymru o ‘lety diogel’ arwain at gamau pendant i ddatblygu darpariaeth breswyl newydd yng Nghymru ar gyfer plant ag anghenion cymhleth adeg cyflwyno’r adroddiad.
  5. Dylai Llywodraeth Cymru a’r Rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc (2) weithio gyda’u partneriaid a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i drefnu digwyddiadau dysgu a rennir pellach a fydd yn canolbwyntio’n benodol ar ddull ‘dim drws anghywir’ ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth.
  • Dylai’r digwyddiadau dysgu a rennir hyn gynnwys trafodaeth ar y rhwystrau rhwng defnydd gwasanaethau o iaith (yn arbennig yng nghyswllt iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg, ond heb ei gyfyngu i hynny) ynghylch plant ag anghenion cymhleth, er mwyn hybu’r diffiniad newydd ehangach o dan ganllawiau statudol diwygiedig Rhan 9, yn ogystal â chael eu tywys gan ddiffiniad Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol Cymru. Dylai’r digwyddiadau hefyd gynnwys trafodaethau ar sut mae gwybodaeth yn cael ei rhannu ac adnoddau’n cael eu cyfuno, ac a oes angen gwella’r system bresennol ar gyfer rhannu gwybodaeth.