Gwneud Cymru’n Genedl Dim Drws Anghywir – i ba raddau rydyn ni’n llwyddo?

Darllenwch yr adroddiad llawn – 2022 (PDF)

Darllenwch fersiwn Hawdd i’w Ddarllen gyda symbolau (PDF)

Darllenwch yr adroddiad Dim Drws Anghywir Gwreiddiol – 2020 (PDF)

Yn 2019-20 ymwelon ni â phob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (BPRh) yng Nghymru i ddarganfod sut roedd gwasanaethau’n cydweithio i gefnogi plant ag anghenion cymhleth.

Mae BPRhau yn cydlynnu cydweithio rhwng byrddau iechyd, awdurdodau lleol, a’r trydydd sector i ofalu am y bobl yn eu rhanbarthau nhw.

Fe alwon ni ar bob rhanbarth i fabwysiadu ymrwymiad ‘Dim Drws Anghywir’ fel nad oedd plant a’u teuluoedd yn cael eu hanfon yn ôl ac ymlaen rhwng gwasanaethau neu’n gweld drysau’n cau yn eu hwynebau.

Ym mis Mehefin 2020 cyhoeddon ni adroddiad o’r enw Dim Drws Anghywir – dod â gwasanaethau ynghyd i ddiwallu anghenion plant.

Rhwng mis Gorffennaf a mis Tachwedd 2021, fe ofynnon ni am ddiweddariad ysgrifenedig gan bob BPRh ar eu cynlluniau Dim Drws Anghywir mewn perthynas â’r pum argymhelliad yn yr adroddiad hwnnw, ac fe wnaethon ni gwrdd â phob BPRh yng Nghymru eto

Yn hydref 2021 buon ni’n ymweld unwaith eto, ac mae’r adroddiad dilynol hwn yn sôn am y cynnydd a wnaed

Mae ein hadroddiad yn ystyried y cynnydd yn rhanbarthau Cymru ar ofal amlasiantaeth i blant a phobl ifanc.

Beth ganfyddon ni

  • Mae gan bob BPRh gynllun ar gyfer darpariaeth plant, ac maen nhw wedi dechrau gwneud newidiadau tuag at ddull gweithredu Dim Drws Anghywir.
  • Bellach mae gan bob BPRh gr p wedi’i neilltuo ar gyfer materion plant, sy’n golygu bod plant yn adrodd i’r prif Fwrdd.
  • Mae yna rai enghreifftiau gwirioneddol galonogol o ddefnyddio dull gweithredu Dim Drws Anghywir, gan gynnwys y canlynol:
    • Mae sawl Bwrdd wedi gwella sut mae gweithwyr proffesiynol iechyd meddwl plant yn cefnogi ac yn hyfforddi gweithwyr proffesiynol eraill mewn mannau fel ysgolion a gofal cymdeithasol.
    • Mae gan rai Byrddau gynlluniau i greu ‘noddfa’ newydd neu ganolfannau galw heibio ar gyfer plant sy’n profi trallod difrifol o ran iechyd meddwl neu emosiwn.
    • Mae gan y rhan fwyaf o Fyrddau gynlluniau i greu lleoedd newydd i aros dros nos neu am rai dyddiau os bydd angen, i blant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth, neu i rai sy’n profi argyfwng iechyd meddwl. Bydd y rhain yn helpu i osgoi gorfod derbyn plant i’r ysbyty, neu eu lleoli filltiroedd lawer o’u cartref, pan nad oes angen hynny neu nad yw er eu lles pennaf. Mae rhai o’r cynlluniau hyn wedi symud ymlaen, a bydd y ddarpariaeth newydd yn cychwyn yn 2022.
    • Mewn sawl rhanbarth, mae’r timau argyfwng iechyd meddwl plant wedi estyn eu gweithrediadau. Mewn rhai ardaloedd mae hynny’n golygu y byddant yn gweithredu 24/7 sydd i’w groesawu’n fawr, yn enwedig o ystyried yr anawsterau presennol ynghylch recriwtio staff GIG.
    • Mae gan y rhan fwyaf o’r Byrddau systemau newydd, neu bydd y rheiny yn eu lle yn fuan, i gefnogi plant ag Anableddau Dysgu sy’n pontio o wasanaethau plant i rai oedolion.
    • Mae gan y rhan fwyaf o’r Byrddau gynlluniau ar gyfer llety newydd therapiwtig i bobl ifanc ag anghenion iechyd meddwl a gofal cymdeithasol cymhleth, sy’n aml yn gorfod symud yn bell oddi cartref i dderbyn gofal ar hyn o bryd. Mae eu costau cychwynnol yn cael eu hariannu’n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, a bydd rhai yn agor yn 2022.
  • Gallai rhai Byrddau ddweud wrthyn ni sut maen nhw eu hunain wedi gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc, a sut maen nhw wedi gwneud gwybodaeth am wasanaethau yn fwy hygyrch. Mae gan un Bwrdd, er enghraifft, BPRh cysgodol o bobl ifanc.
  • Rydyn ni’n falch o ddatblygiad y fframwaith NEST / NYTH newydd, a luniwyd i gefnogi BPRhau i gyflwyno ‘dull gweithredu system gyfan’ fydd yn golygu bod [lant a phobl ifanc yn cael y gefnogaeth gywir, a hynny’r tro cyntaf. Mae fframwaith NEST/NYTH yn cynnwys Dim Drws Anghywir fel un o’i brif egwyddorion. Mae’r Byrddau wedi ymgysylltu’n gadarnhaol â’r fframwaith NEST / NYTH newydd, ac mae gan bawb ohonynt gynlluniau i weithio o fewn y fframwaith hwn.

Prif rwystrau sy’n atal Cymru rhag bod yn wlad Dim Drws Anghywir

Plant  dal yn clywed eu bod  wedi dod i’r drws anghywir

Mae plant a phobl ifanc yn dal i glywed, bob dydd yng Nghymru, eu bod wedi dod i’r drws anghywir wrth iddyn nhw estyn allan am gymorth gyda’u hanghenion iechyd meddwl, emosiynol neu ymddygiadol. Rydyn ni’n gwybod hyn ar sail ein gwasanaeth gwaith achosion ein hunain, a hefyd oherwydd bod y BPRhau eu hunain yn adrodd am hynny.

Ariannu Gofal Parhaus

Rydyn ni’n dal mewn sefyllfa lle mae’r plant sydd â’r lefel uchaf o angen yn derbyn gwasanaeth nad yw’n diwallu eu hanghenion oherwydd bod awdurdodau iechyd a lleol yn methu cytuno ar y lleoliad a’r cyllid ‘Gofal Parhaus’ sy’n ofynnol. Mae eraill yn wynebu oedi sylweddol wrth gytuno ar gyllid, ac mae hynny’n cael ei drafod o’u blaenau. Mae canllawiau gan Lywodraeth Cymru sy’n dweud bod rhaid i asiantaethau gydweithio lle mae angen gofal parhaus i blant, ond mae’n nodi’n unig y gall Byrddau Iechyd Lleol (BILl) ac Awdurdodau Lleol (All) ariannu’r gofal ar y cyd, ac yn ymarferol mae hynny’n arwain at anghytuno rheolaidd, sy’n gadael plant a’u teuluoedd mewn limbo, heb y gefnogaeth yr aseswyd sydd angen. Roedd yn drawiadol bod pob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn adrodd eu bod heb ddatrys y broblem hon. Mae hynny’n gwbl annerbyniol. Yn ein barn ni, mae angen i Lywodraeth Cymru gamu i mewn ac atal hyn rhag digwydd; nid yw’r canllawiau cyfredol yn cael digon o effaith ar brofiadau plant.

Llety diogel i bobl ifanc gydag anghenion cymhleth

Mae Byrddau wedi ymrwymo i greu llety newydd diogel i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion cymhleth. Mae hyn i’w groesawu’n fawr. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, unedau asesu yw’r rhain yn bennaf, yn darparu cymorth tymor byr tra bod lleoliad pellach yn cael ei drefnu. Rydyn ni’n teimlo y gallai fod angen datblygu peth darpariaeth tymor hwy ar gyfer y bobl ifanc hynny sy’n methu cael eu cefnogi’n llwyddiannus i ddychwelyd adref neu i ofal maeth.

Amserau aros

Mae’r amserau aros ar gyfer asesiad o gyflwr niwroddatblygiadol (yn achos plant yr amheuir bod ganddynt Awtistiaeth, ADHD, a chyflyrau eraill tebyg) yn eithriadol o hir, ac yn y cyfamser gall plant a’u teuluoedd dderbyn ychydig iawn o gefnogaeth, os o gwbl. Mae rhai cynlluniau da yn cael eu datblygu ar gyfer hyn ar lefel genedlaethol, ond yn y cyfamser mae’r cynlluniau ar gyfer gwella’r gefnogaeth yn y rhanbarthau yn ddarniog.

Gwasanaeth Darniog

Pan fydd gan blant o bosib gyflwr niwroddatblygiadol yn ogystal â iechyd meddwl gwael, maen nhw’n aml yn derbyn gwasanaeth darniog iawn, er bod y cyfuniad hwn yn un cyffredin iawn.

Rôl y BPRh

Mae gan y rhanbarthau farn wahanol ynghylch rôl BPRh. Dylai fod ganddynt drosolwg o’r gwasanaethau yn eu rhanbarth a dylent greu cynlluniau ar gyfer cyflawni – gan sicrhau bod gwahanol rannau o’r rhanbarth yn dysgu o arfer gorau ardaloedd eraill, a sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu cysylltu i ymateb i anghenion cymhleth. Ymddengys bod rhai’n canolbwyntio’n fwy ar ymateb i gyfleoedd ariannu cenedlaethol nag ar drosolwg strategol, ond mae hynny’n gwella yn y rhan fwyaf o ardaloedd.

Dysgu gan eraill

Er bod digwyddiadau dysgu a rennir yn cael eu trefnu, roedd aelodau o’r BPRhau yn aml yn anymwybodol o ddatblygiadau mewn rhanbarthau eraill nac mewn ardaloedd o’u rhanbarth eu hunain, a allai eu helpu gyda’u dull gweithredu Dim Drws Anghywir eu hunain. Roedd hyn yn cynnwys cynlluniau ar gyfer llety newydd diogel, lle teimlai rhai BPRhau fod rhwystrau sylweddol, a lle roedden nhw’n awyddus i ddysgu gan eraill sut roedd trefniadau wedi cael eu cytuno yn eu rhanbarth.

Gweithredu fframwaith  NYTH yn hyderus

Nid yw pob BPRh mewn sefyllfa i gyflwyno fframwaith NEST / NYTH yn hyderus eto fel rhan o’u gweithrediadau cyfredol. Mae angen cefnogaeth barhaus arnyn nhw, a monitro priodol i sicrhau eu bod yn cyflawni. Mae angen i hynny gael ei drefnu gan Lywodraeth Cymru. Mae estyn rhaglen T4CYP hyd at fis Medi 2022 yn gam i’w groesawu yn hyn o beth.

Recriwtio

Yn amlwg mae materion systemig eraill yn dal cynnydd yn ôl, gan gynnwys y pwysau eithafol ar wasanaethau ar hyn o bryd, a’r broblem recriwtio y soniwyd llawer amdani, sy’n effeithio’n ddifrifol ar lawer o wasanaethau.

Beth rydyn ni eisiau i’r BPRhau a Llywodraeth Cymru wneud nawr

BPRhau

Camau gweithredu pendant

Troi cynlluniau yn gamau gweithredu pendant. Roedd yr holl bobl ifanc y buon ni’n gweithio gyda nhw ar y prosiect yma yn myfyrio eu bod yn clywed gormod am gynlluniau ar gyfer y dyfodol a dim digon am ddarparu gwasanaeth nawr, ar hyn o bryd. Buon nhw’n rhannu’r adborth yma â’r Dirprwy Weinidog a’i swyddogion, ac rydyn ni’n disgwyl i Lywodraeth Cymru alw BPRhau i gyfrif am y pwynt pwysig yma.

Trefniadau gofal parhaus

Rhoi blaenoriaeth i drefniadau Gofal Parhaus i blant a phobl ifanc fel mater o frys. Dylai aelodau byrddau ac uwch arweinyddion o awdurdodau lleol a byrddau iechyd gymryd rhan mewn gweithdy a drefnwyd gan y Llywodraeth, fel yr argymhellir isod, i gael hyd i ddull dibynadwy a chyflym o gyfuno cyllid rhwng eu gwasanaethau er mwyn darparu trefniadau addas a gwirioneddol amlasiantaeth ar y cyd ar gyfer plant ag anghenion cymhleth, a hynny mewn modd effeithiol ac effeithlon er lles pennaf y plentyn. Mae angen i Lywodraeth Cymru roi sylw i unrhyw rwystrau o’r canllawiau cyfredol mewn cydweithrediad a’r Byrddau.

Cynlluniau strategol clir a chanlyniadau mesuradwy

Sicrhau bod cynlluniau Dim Drws Anghywir yn cael eu cefnogi gan gynlluniau strategol clir, strwythur llywodraethu, a chanlyniadau mesuradwy sy’n cwmpasu cymorth cynnar ac ataliaeth, y ffaith nad yw’r ‘canol coll’ yn cyrraedd y trothwy ar gyfer cefnogaeth arbenigol, a’r plant a’r bobl ifanc hynny sydd â’r anghenion mwyaf cymhleth.

Ystyried enghreifftiau arfer da

Ystyried yr enghraifft arfer da o safbwynt cyfranogiad uniongyrchol â phlant a phobl ifanc a amlinellir yn yr adroddiad hwn, a’r adnoddau a gynhyrchwyd gan ein swyddfa, er mwyn trefnu ymgysylltu uniongyrchol a chynhyrchu ar y cyd â phlant a phobl ifanc i lywio’u gwaith.

Edrych ar brofiadau cyfredol i brofi cynnydd

Profi eu cynnydd yn barhaus trwy olrhain profiadau cyfredol plant a’u teuluoedd sydd angen cymorth a gwasanaethau. Rydyn ni’n argymell y dylid cyflwyno enghreifftiau sy’n achosion cyfoes o lwyddiannau a rhwystrau ym mhob cyfarfod o’r bwrdd.

Arddangos gwaith i bobl ifanc

Arddangos eu gwaith i blant a phobl ifanc mewn modd hwylus i’w ddefnyddio ar eu gwefannau. Rydyn ni’n annog pob Bwrdd i adolygu a gwella sut maen nhw’n hysbysebu’r gwaith maen nhw’n ei wneud ar-lein.

Hysbysebu’n well gynlluniau protocolau pontio

Hysbysebu’n well gynlluniau sydd ar waith ar gyfer protocolau pontio ar gyfer plant ag anableddau dysgu, gydag adnoddau hygyrch addas. Lle nad yw’r protocolau rhanbarthol hyn yn eu lle eto, dylid rhoi blaenoriaeth iddyn nhw.

Llywodraeth Cymru

Newid trefniadau ariannu

Adolygu eu hymateb a gynlluniwyd i’r Papur Gwyn ar Ailgydbwyso Gofal, yng ngoleuni’r diweddariad cynhwysfawr hwn ar gynnydd BPRhau. Dylent ystyried yn arbennig yr angen am greu BPRhau fel ‘endidau corfforaethol cyfreithiol’ (cyrff sy’n gallu derbyn arian yn uniongyrchol a phenderfynu sut i’w wario heb orfod cyfeirio at sefydliadau eraill i gymeradwyo hynny), ac i orfodi trefniadau ariannu ar gyfer BPRhau. Gallai hyn fod naill ai yn fframwaith ariannu cenedlaethol neu drwy orfodi creu cronfeydd cyllid (trwy ofyn bod partneriaid fel byrddau iechyd ac awdurdodau lleol yn talu cyfran o’r arian tuag at brosiectau ar y cyd, yn hytrach na rhoi’r opsiwn yna iddyn nhw). Heb newid trefniadau ariannu, mae’r newidiadau sy’n dal yn ofynnol, fel yr amlygwyd gan yr adroddiad hwn, yn dal yn annhebygol o gael eu cyflawni. Bydd hyn yn parhau i effeithio ar ganlyniadau a phrofiadau i blant ag anghenion cymhleth.

Cryfhau’r canllawiau statudol

Cryfhau’r canllawiau statudol o amgylch rôl y dinesydd, y gofalwr a chynrychiolwyr trydydd sector er mwyn sicrhau eu bod yn gyfranogwyr gweithredol ym mhob rhanbarth.

Trefniadau Gofal Parhaus

Arwain y ffordd o ran sicrhau bod arweinwyr gwasanaeth yn y bwrdd iechyd ac awdurdodau lleol pob rhanbarth yn cynhyrchu cytundeb ysgrifenedig cynhwysfawr ynghylch trefniadau Gofal Parhaus. Dylid cefnogi hyn trwy ddod ag aelodau’r Bwrdd ynghyd mewn gweithdy lle mae uwch arweinyddion pob gwasanaeth perthnasol sy’n ymwneud â threfniadau gofal parhaus yn bresennol, er mwyn llofnodi cytundeb ysgrifenedig sy’n ymrwymo i gyfuno cyllid rhwng gwasanaethau er mwyn cyflwyno trefniadau amlasiantaeth addas ar gyfer plant ag anghenion cymhleth, a hynny’n effeithiol ac effeithlon er lles pennaf y plentyn.

Adolygu a diwygio’r canllawiau Gofal Parhaus wedi’r gweithdai hyn, fel bod y dull gweithredu wedi’i gytuno’n genedlaethol ac yn cael ei gyflwyno’n lleol.

Cynllun manwl i gefnogi fframwaith NYTH

Darparu cynllun manwl ar gyfer sut bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi BPRhau i gyflwyno dull gweithredu Dim Drws Anghywir trwy’r fframwaith NEST / NYTH, y tu hwnt i fis Medi 2022. Rhaid i hyn gynnwys fframwaith monitro cadarn sy’n galw pob Bwrdd i gyfrif, a threfniadau ariannu tymor hwy.

Dull cydlynus ar gyfer gwasanaethau niwroddatblygiadol

Cefnogi a chyflwyno’r dull gweithredu cydlynus ar gyfer gwasanaethau niwroddatblygiadol, sy’n cydnabod holl sbectrwm niwroamrywiaeth, fel y’i datblygwyd gan T4CYP.

Canllawiau Pontio

Monitro’n gadarn weithrediad y Canllawiau Pontio a Throsglwyddo newydd i fyrddau iechyd.

Pontio i wasanaethau oedolion gydag Anableddau Dysgu

Sicrhau bod pontio i wasanaethau oedolion gydag Anableddau Dysgu yn cael ei fonitro, a bod BPRhau yn adrodd i Lywodraeth Cymru yn rheolaidd ar yr agwedd benodol hon, fel rhan o weithredu NEST / NYTH.

Digwyddiadau rhannu BPRHau

Parhau â digwyddiadau dysgu a rennir rheolaidd ar gyfer BPRhau, gan gynnwys ffocws ar enghreifftiau o arfer da rhwng rhanbarthau; yn ogystal â mynd ati i annog uwchraddio arfer da oddi mewn i ranbarthau.