Bwlio

Ein hadroddiad ac adnoddau

Yn 2017 ysgrifennon ni adroddiad ar brofiadau plant a phobl ifanc o fwlio yng Nghymru, o’r enw Stori Sam.

Cafodd y profiadau yma dylanwad ar ganllaw newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer ysgolion i ddelio gyda bwlio.

Defnyddion ni’r adroddiad i alw am ddyletswydd newydd ar ysgolion i recordio pob digwyddiad o fwlio; cyflwynwyd y dyletswydd yma yn y canllaw newydd.

Llun o ferch ifanc trist

Darllenwch yr adroddiad

Rydyn ni hefyd wedi creu adnoddau ar gyfer ysgolion i’w defnyddio yn ystod wythnos gwrthfwlio:

Ysgolion Cynradd

Cynllun Gwers Meithrin/Derbynfa

Cynllun Gwers Blwyddyn 1/2

Cynllun Gwers Blwyddyn 3/4

Cynllun Gwers Blwyddyn 5/6

Ysgolion Uwchradd

Cynllun Gwers Ysgolion Uwchradd

Canllaw Llywodraeth Cymru

Mae canllaw y Llywodraeth ar fwlio ar ei gwefan. Mae’n cynnwys gwybodaeth i:

  • rieni a gofalwyr
  • plant a phobl ifanc
  • ysgolion ac awdurdodau lleol