Profiadau pobl ifanc 15-18 oed

Darllenwch yr adroddiad

Ym mis Mawrth 2020, buodd Cymru o dan gyfnod clo oherwydd y Coronafeirws.

Roedden ni eisiau gwybod sut roedd y cyfnod clo yn effeithio ar blant a phobl ifanc.

Felly gwnaethon ni holiadur i blant a phobl ifanc o’r enw Coronafeirws a Fi.

Fe wnaeth pobl eraill ein helpu i wneud yr holiadur hefyd ac i ddweud wrth blant a phobl ifanc amdano:

  • Llywodraeth Cymru
  • Senedd Ieuenctid Cymru
  • Plant yng Nghymru

Pwy wnaeth yr holiadur?

Gwnaeth dros 23,000 o blant a phobl ifanc rhwng 3-18 yr holiadur ym mis Mai 2020.

Roedd 4,417 o’r rhain yn bobl ifanc 15-18 oed.

Gofynwyd yr un cwestiynau i’r holl blant a phobl ifanc a gymerodd rhan yn yr holiadur.

Beth ddywedodd pobl ifanc 15-18 oed?

Teimladau am y coronafeirws

Dywedodd 28% eu bod nhw ddim yn pryderu am y Coronafeirws ar ddiwrnod gwneud yr holiadur.

Dywedodd 46% eu bod nhw’n teimlo’r un fath â’r wythnos blaenorol, a dywedodd 16% eu bod yn teimlo’n fwy pryderus na’r wythnos flaenorol.

Roedd rhai pobl ifanc yn pryderu am effaith y feirws ar eraill, fel aelodau hŷn o’u teulu. Ac roedd llawer yn pryderu am ansicrwydd y dyfodol.

Cyfrifoldebau ychwanegol

Roedd rhai pobl ifanc wedi derbyn cyfrifoldebau ychwanegol yn ystod y cyfyngiadau clo, fel gofalu am aelodau o’r teulu.

Roedd rhai yn gofalu am siblingiaid iau oherwydd bod eu rhieni’n gweithio.

Dangosodd hyn i ni fod gan bobl ifanc lawer i feddwl amdano weithiau, o ran cydbwyso’u cyfrifoldebau, fel gofalu, cefnogi eraill a dysgu.

Sut mae’r Coronafeirws wedi effeithio ar fywydau pobl ifanc?

Dywedodd 71% mai methu treulio amser gyda ffrindiau, gyda methu ymweld ag aelodau o’r teulu yn dilyn (53%) a’r ysgol neu’r coleg yn cau (50%) oedd yn cael yr effaith mwyaf.

Hapus, iach, diogel

Roedd 74% yn teimlo’n ddiogel y rhan fwyaf o’r amser. Dywedodd 41% eu bod yn hapus rhan fwyaf o’r amser.

Ond dywedodd 45% eu bod nhw wedi bod yn pryderu rhan o’r amser ac roedd 46% yn teimlo’n drist rhan o’r amser.

Dywedodd 19% eu bod yn pryderu’r rhan fwyaf o’r amser, a dywedodd 21% eu bod nhw’n teimlo’n drist y rhan fwyaf o’r amser.

Dywedodd 14% eu bod nhw ddim yn hapus yn aml iawn.

Dywedodd y mwyafrif o’r bobl ifanc bydden nhw’n cael help ar-lein neu ar y cyfryngau cymdeithasol (53%), gan athrawon neu staff eraill yn yr ysgol/y coleg/y brifysgol (51%) neu gan eu meddyg (51%).

Beth nesa i bobl ifanc o ran dysgu a gwaith?

Doedd 21% ddim yn teimlo’n hyderus o gwbl yn eu dysgu, doedd 26% ddim yn hyderus, roedd 21% yn hyderus, ac roedd 7% yn hyderus iawn.

Roedd 72% yn pryderu am sut gallai hyn effeithio ar eu canlyniadau mewn arholiadau, ac roedd 52% yn pryderu am golli tir gyda’u dysgu.

Dywedodd 51% eu bod nhw ddim yn teimlo cymhelliad i wneud gwaith ysgol gartre.

Sut roedd pobl ifanc yn yr ysgol yn teimlo?

Roedd llawer o bobl ifanc yn deall pam roedd ysgolion wedi cau dros dro, ond teimlai llawer ymdeimlad o rwystredigaeth a cholli rheolaeth gyda’u dysgu.

Roedd rhai pobl ifanc yn mwynhau’r cyfle i ddysgu o’u cartref.

Dywedodd 24% eu bod nhw ddim yn deall y gwaith oedd wedi cael ei anfon atyn nhw.

Roedd 35% yn pryderu am gychwyn blwyddyn newydd neu cwrs newydd ym mis Medi.

Pan ofynnon ni i’r bobl ifanc oedd yna unrhyw beth roedd angen help arnyn nhw gyda fe, ymatebodd 24% y bydden nhw’n hoffi cael mwy o gefnogaeth i fynd ar-lein i wneud gwaith ysgol.

Sut roedd pobl ifanc yn yr ysgol yn teimlo am ganslo arholiadau?

Cafodd yr holiadur yma ei gynnal rai misoedd cyn y canlyniadau arholiad dadleuol a ryddhawyd ym mis Awst, ond roedd llawer o bobl ifanc eisoes yn ansicr neu’n bryderus am y canlyniadau ar ôl i’r arholiadau gael eu canslo.

Dywedodd 51% bod nhw’n teimlo’n ansicr, roedd 17% yn teimlo’n bryderus ac roedd 16% yn hapus.

Roedd rhai pobl ifanc yn teimlo bod llai o bwysau arnyn nhw i adolygu a sefyll arholiadau, ond roedd llawer hefyd yn teimlo eu bod wedi colli rheolaeth ar eu graddau terfynol ac yn cael trafferth cynnal cymhelliad pan oedd cymaint o ansicrwydd ynghylch eu harholiadau.

Sut roedd pobl ifanc oedd yn derbyn addysg gartre yn teimlo?

Dywedodd chwech (21%) y bydden nhw’n hoffi mwy o help i fynd ar-lein i wneud eu gwaith. Soniodd pobl ifanc wrthyn ni am farn gymysg ynghylch y sefyllfa o ran eu dysgu ac effaith y Coronafeirws ar eu bywydau. Roedd rhai yn pryderu gallai’r Coronafeirws effeithio ar ganlyniadau arholiadau, ac yn pryderu am golli tir.