Coronafeirws a Fi – Canlyniadau

Rhannodd dros 23,700 o blant a phobl ifanc eu barn trwy’r holiadur Coronafeirws a Fi.

Diolch o galon i bawb a gymerodd rhan ac i bawb a rhannodd yr holiadur gyda phlant a phobl ifanc ym mhob cwr o Gymru.

Yma, rydyn ni wedi cyhoeddi’r prif canfyddiadau.

Darllenwch yr adroddiad

Lawrlwythwch yr adroddiad Coronafeirws a Fi

Lawrlwythwch fersiwn byrrach gyda symbolau i helpu chi ddarllen

Beth sy’n digwydd nawr?

Mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio’r canlyniadau yn barod dros yr wythnosau diwethaf i’w helpu gyda’i phenderfyniadau. A bydden nhw’n parhau i wneud.

Ein nôd ni yw sicrhau bod oedolion yn gwrando ar farn plant a bod y safbwyntiau hynny yn dylanwadu ar benderfyniadau; byddwn ni’n sicrhau bod y Llywodraeth a gwasanaethau lleol yn parhau i dalu sylw at ganlyniadau’r holiadur hwn.

Crynodeb o’r canfyddiadau allweddol

Ydy plant yn pryderu?

Dywedodd 37% o blant a phobl ifanc eu bod nhw ddim yn pryderu am y Coronafeirws ar ddiwrnod cwblhau’r arolwg. Teimlai nifer tebyg (38%) yr un lefel o bryder â’r wythnos flaenorol, tra bod niferoedd llai yn pryderu mwy (12%) neu lai (14%).

Beth yw eu pryderon?

Ymhlith eu pryderon mae pa mor hir bydd y sefyllfa’n parhau, ac ofn y byddan nhw neu eu hanwyliaid yn dal y feirws.

Mae’r sylwadau gan blant oedd ddim yn pryderu neu oedd yn pryderu llai yn awgrymu eu bod nhw’n teimlo eu bod nhw’n cael eu cadw’n ddiogel, bod nifer llai o farwolaethau bob dydd, bod llai o effaith ar blant, neu eu bod nhw’n osgoi gwylio gormod o newyddion.

Sut mae plant yn teimlo?

Mae’r mwyafrif (58%) o blant a phobl ifanc yn dweud eu bod nhw wedi teimlo’n hapus y rhan fwyaf o’r amser yn ystod yr argyfwng, ac mae mwyafrif mawr (84%) yn dweud eu bod yn teimlo’n ddiogel y rhan fwyaf o’r amser.

Soniodd pobl ifanc oed uwchradd am fwy o deimladau negyddol na phlant iau, gydag 16% ohonyn nhw’n teimlo’n drist ‘y rhan fwyaf o’r amser’.

At ei gilydd 2% sy’n dweud mai ‘ddim yn aml iawn’ maen nhw wedi teimlo’n ddiogel.

Beth sydd wedi effeithio fwyaf arnyn nhw?

Y tri phrif ymateb gan bobl ifanc (12-18) ynghylch pa reolau aros gartre sydd wedi cael yr effaith fwyaf ar sut maen nhw’n teimlo yw ‘methu treulio amser gyda ffrindiau’ (72%), ‘peidio â gallu ymweld ag aelodau o’r teulu’ (59%) a’r ‘ysgol neu’r coleg yn cau’ (42%).

Oes yna unrhyw fanteision?

Mae llawer o blant a phobl ifanc wedi sôn am agweddau cadarnhaol ar eu profiad o’r argyfwng Coronafeirws.

Mae llawer wedi cael pleser yn treulio mwy o amser gyda’u teulu, yn dysgu sgiliau newydd ac yn mwynhau’r awyr iach yn yr ardd ac yn eu hymarfer corff dyddiol.

I rai, mae’r cyfnod hwn wedi bod yn seibiant hefyd o bwysau cymdeithasol a iechyd blaenorol, fel anawsterau iechyd meddwl a bwlio.

Ydy plant yn gwybod ble mae cael help ar gyfer iechyd meddwl a llesiant?

Mae’r mwyafrif yn dweud eu bod yn gwybod ble mae cael help, ond dim ond 39% o’r bobl ifanc 12-18 fyddai’n teimlo’n hyderus yn troi at gwnsela ysgol ar hyn o bryd.

Pa mor hyderus mae plant yn teimlo am ddysgu?

Dewisodd 51% o’r cyfanswm ddweud eu bod yn teimlo’n hyderus neu’n hyderus iawn, tra bod 25% o’r cyfanswm wedi dweud eu bod yn brin o hyder, a 10% o’r grŵp yma’n dweud eu bod ‘ddim yn hyderus o gwbl’. Dewisodd 24% o’r cyfanswm yr opsiwn niwtral.

Ond mae pobl ifanc 12-18 oed yn sôn am bryderon: dim ond 11% o’r ymatebwyr yn y grŵp oedran yma oedd yn dweud eu bod nhw ddim yn pryderu am eu haddysg, a’r pryder mwyaf y soniwyd amdano ynghylch dysgu oedd eu bod yn pryderu am golli tir (54%).

Ydy plant mewn cysylltiad â’u hysgolion?

Mae mwyafrif llethol yr ymatebwyr yn sôn am gadw mewn cysylltiad â’u lleoliad addysg, gydag 1-2% yn unig o’r ymatebwyr ar draws y gwahanol arolygon yn dweud bod dim cyswllt.

Beth yw’r rhwystrau i ddysgu gartref?

Mae’r themâu sy’n dod i’r amlwg o’r sampl o 2000 o sylwadau yn dangos y byddai llawer o blant yn hoffi mwy o gyswllt â’r ysgol a chefnogaeth oddi yno, gyda darpariaeth ychwanegol arlein.

Mae hefyd heriau penodol yn ymwneud â mynediad at ddyfeisiau electronig a phwysau yn amgylchedd y cartref, a heriau eraill a godwyd gan blant ag anghenion dysgu ychwanegol.

Beth mae disgyblion Blwyddyn 6 eisiau?

Mae mwyafrif llethol plant blwyddyn 6 eisiau ffarwelio â’u hysgol gynradd (76%) ac ymweld â’u hysgol uwchradd cyn i’r ysgol gychwyn (75%).

Sut mae pobl ifanc yn teimlo am arholiadau sydd wedi’u canslo?

Dim ond 17% o bobl ifanc sy’n teimlo’n hapus bod arholiadau wedi cael eu canslo.

Roedd pobl ifanc yn fwy tebygol o deimlo’n ansicr (51%) neu’n bryderus (18%).  Mae’r bobl ifanc hefyd yn sôn am deimlo’n grac (6%) ac yn drist (5%).

Ydy pob plentyn yn gallu defnyddio Cymraeg?

Mae’r mwyafrif o blant mewn addysg cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg yn dal i ddefnyddio Cymraeg yn ystod y cyfnod yma, ond dyw rhai plant sydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg ddim yn cael cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg (8% o’r rhai 7-11 oed; 15% o’r rhai 12-18 oed).

Nid yw dros chwarter y plant mewn addysg cyfrwng Saesneg sydd fel arfer yn dysgu Cymraeg yn cael cyfle o gwbl i ddefnyddio’r Gymraeg (31% o’r rhai 7-11 oed; 26% o’r rhai 12-18 oed).

Ydy plant yn dal i fedru chwarae?

Mae tua hanner y plant yn sôn am chwarae mwy nag arfer (53%) ac yn disgrifio ystod eang o chwarae ar-lein ac oddi ar-lein, gan gynnwys chwarae yn yr awyr agored, chwarae dychmygol, chwarae gyda theganau neu gêmau, chwaraeon a chwarae creadigol.