Coronafeirws a fi – Canlyniadau ein holiadur Ionawr 2021

Fis Ionawr gofynnon ni i blant a phobl ifanc Cymru i rannu eu barn a phrofiadau am y cyfnod clo Coronafeirws diweddaraf, trwy holiadur.

Cymerodd bron 20,000 rhan, rhwng 3-18 oed.

Darllenwch yr adroddiad

Darllenwch y fersiwn i bobl ifanc

Darllenwch yr adroddiad gyda symbolau i ar gyfer plant sydd angen help ychwanegol

Prif ganfyddiadau

Rhwystredigaethau a dicter

Mynegwyd teimladau negyddol cryf gan lawer o blant a phobl ifanc; mynegon nhw eu rhwystredigaeth, a’u dicter ar adegau, am effaith y pandemig ar eu bywydau. Soniodd plant rhwng 3 a 7 oed am weld eisiau ffrindiau, aelodau teulu a phrofiadau. O ganol yr arddegau ymlaen, roedd arwyddion o ofidiau ychwanegol, wedi’u gwaethygu o bosib gan bryderon am arholiadau a’u dyfodol. Adroddodd 30% o’r bobl ifanc 17 a 18 oed a gymerodd ran yn yr arolwg eu bod yn bryderus y ‘rhan fwyaf o’r amser’.

Unigrwydd

Mae cyfraddau unigrwydd yn uchel, a methu â gweld ffrindiau sy’n cael yr effaith fwyaf ar fywydau plant, wedi’i ddilyn gan fethu â gweld aelodau eraill o’r teulu ac effaith cau ysgolion a cholegau. Adroddodd 14% o’r plant rhwng 7 ac 11 oed eu bod yn teimlo’n unig y ‘rhan fwyaf o’r amser’, ac mae teimladau o unigrwydd yn cynyddu gydag oedran, gyda 40% o’r bobl ifanc 17 oed yn adrodd eu bod yn teimlo’n unig y rhan fwyaf o’r amser.

Addysg

Mae dros hanner y bobl ifanc rhwng 12 a 18 oed yn mwynhau dysgu ar eu cyflymder eu hunain o gartref, ond mae llawer yn poeni am gwympo tu ôl gyda’r dysgu – gwelir lefelau hyder a chymhelliant o ran addysg yn gostwng gydag oedran. Mae mwyafrif helaeth y bobl ifanc rhwng 15 a 18 oed yn poeni am gwympo tu ôl ac am eu cymwysterau, ac adroddodd 69% ohonynt am gymhelliant isel i wneud gwaith ysgol.

Anghydraddoldebau

Mae plant sy’n aml yn wynebu mwy o rwystrau rhag cael mynediad at eu hawliau, hyd yn oed pan nad oes pandemig byd-eang, hefyd wedi wynebu mwy o drafferthion ar gyfartaledd na’u cyfoedion.

Mae plant a phobl ifanc anabl yn fwy tebygol o boeni am y coronafeirws, yn fwy tebygol o deimlo’n drist, ac yn fwy tebygol o deimlo’n anniogel.

Mae plant a phobl ifanc Duon, Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig eraill yn fwy tebygol o deimlo’n unig ac yn llai tebygol o ddweud eu bod nhw’n teimlo’n ddiogel na’u cyfoedion.

Pethau cadarnhaol o ganlyniad i’r pandemig

Er gwaetha’r pryderon y mae plant a phobl ifanc yn adrodd amdanynt, mae llawer hefyd yn sôn am brofiadau cadarnhaol, fel y gwnaethon nhw ym mis Mai 2020, gan gynnwys mwynhau treulio amser gartref a chael cefnogaeth dda gan ysgolion a gweithwyr ieuenctid.