Coronafeirws a Fi Profiadau plant o gefndir Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol

Darllenwch yr adroddiad

Darllenwch fersiwn hygyrch gyda symbolau

Ym mis Mawrth 2020 cafodd cyfyngiadau symud eu cyflwyno yng Nghymru oherwydd y Coronafeirws.

Roedden ni eisiau gwybod sut roedd y cyfnod clo yma yn effeithio ar yr holl blant a phobl ifanc ar draws Cymru.

Felly fe lunion ni arolwg ar gyfer plant a phobl ifanc o’r enw Coronafeirws a Fi.

Fe wnaeth pobl eraill ein helpu i baratoi’r arolwg hefyd, a dweud wrth blant a phobl ifanc amdano fe:

  • Llywodraeth Cymru
  • Senedd Ieuenctid Cymru
  • Plant yng Nghymru

Pwy wnaeth yr arolwg?

Fe wnaeth dros 23,000 o blant a phobl ifanc 3-18 oed yr arolwg ym mis Mai 2020.

Roedd 1,496 o’r plant a’r bobl ifanc a wnaeth yr arolwg yn dod o gefndir Du, Asiaidd neu Ethnig Lleiafrifol (BAME).

Fe ofynnon ni’r un cwestiynau i’r holl blant a phobl ifanc a wnaeth yr arolwg.

Plant BAME

Dywedodd llawer o blant a phobl ifanc o gefndir BAME eu bod nhw wedi cael profiadau negyddol yn y cyfnod clo.

Roedden nhw’n fwy tebygol o ddweud hyn na phlant a phobl ifanc sydd ddim o gefndir BAME.

Beth ddwedodd plant BAME 7-11 oed

Help ychwanegol

O gymharu â phlant gwyn Cymreig neu Brydeinig, roedden nhw’n fwy tebygol o ddweud bod angen rhagor o wybodaeth a help arnyn nhw ar gyfer pethau fel:

  • gwaith ysgol ar-lein
  • siarad â ffrindiau a theulu ar-lein
  • teimlo’n ddiogel gartre

Bwyd

Mwy tebygol o ddweud eu bod nhw’n pryderu a fyddai gan eu teulu ddigon o fwyd

Chwarae

Mwy tebygol o ddweud eu bod nhw’n chwarae llai

Ymarfer Corff

Llai tebygol o ddweud eu bod nhw’n ymarfer tu allan

Llyfrgelloedd

Mwy tebygol o ddweud bod llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol yn cau yn effeithio ar eu dysgu.

Gwybodaeth

Mwy tebygol o ddweud eu bod nhw eisiau rhagor o wybodaeth am y Coronafeirws

Cefnogaeth

Llai tebygol o ddweud eu bod nhw’n gwybod sut i gael cefnogaeth i deimlo’n hapus ac yn iach

Teimlo’n hapus

Llai tebygol o ddweud eu bod nhw’n teimlo’n hapus ‘y rhan fwyaf o’r amser’, neu’n ddiogel ‘y rhan fwyaf o’r amser’

Help gyda Chymraeg

Mwy tebygol o ddweud eu bod nhw eisiau mwy o gefnogaeth gyda’u Cymraeg os oedden nhw’n mynd i ysgolion Saesneg

Beth ddwedodd plant BAME 12-18 oed

Bwyd iach ac ymarfer corff

O gymharu â phlant gwyn Cymreig neu Brydeinig, roedd plant BAME yn:

  • fwy tebygol o ddweud eu bod nhw eisiau help i fwyta’n iach a chadw’n actif
  • llai tebygol o ddweud eu bod nhw’n gwneud ymarfer corff tu allan

Dysgu

Mwy tebygol o ddweud eu bod nhw’n pryderu am golli tir gyda’u dysgu, a sut gallai hynny effeithio ar eu canlyniadau mewn arholiadau

Llyfrgelloedd

Mwy tebygol o ddweud bod llyfrgelloedd yn cau wedi effeithio ar eu dysgu

Bwyd

Mwy tebygol o ddweud eu bod nhw’n pryderu am eu teulu’n cael digon o fwyd

Rhagor o wybodaeth

Mwy tebygol o ddweud eu bod nhw eisiau rhagor o wybodaeth am y rheolau ynghylch cadw’n ddiogel

Teimlo’n ddiogel

Llai tebygol o ddweud eu bod nhw’n teimlo’n ddiogel ‘y rhan fwyaf o’r amser’

Defnyddio Cymraeg gartre

Mwy tebygol o ddweud eu bod nhw ddim yn cael cyfleoedd i ddefnyddio Cymraeg (o’r rhai oedd yn mynd i ysgolion Cymraeg).

Beth fydd yn digwydd nesa

Byddwn ni’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc BAME i ddeall eu pryderon yn well, er mwyn i ni fedru dweud wrth y Llywodraeth ac eraill beth mae angen iddyn nhw newid.