Canlyniadau Arholiad 2020

Y newyddion diweddaraf

Ar 18 Awst dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, y bydd graddau disgyblion Safon Uwch, Safon UG, TGAU, Tystysgrif Her Sgiliau a Bagloriaeth Cymru yng Nghymru yn cael eu seilio yn llawn ar asesiadau athrawon.

Darllenwch datganiad llawn y Gweinidog Addysg

Ein hymateb

Yn ymateb i benderfyniad y Gweinidog, dywedodd Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru:

“Dyma’r penderfyniad cywir. A dyma dystiolaeth gadarn fod ein pobl ifanc yn ddinasyddion gweithgar. Diolch i bob un ohonoch am siarad fyny dros eich hun a’ch cyfoedion. Beth am wneud yr wythnos yma yn amser i ddathlu llwyddiannau a chefnogi pobl ifanc i gyrraedd eu llawn potensial.”

Apelio

Mae’r canllaw yma (PDF) gan Gymwysterau Cymru yn esbonio beth i’w wneud os oes gennych chi gwestiwn neu pryder am eich canlyniadau.

Camau Nesaf, Cymorth a Chefnogaeth

Os ydych chi’n hapus – Camau nesaf ar gyfer dysgwyr

Os ydych chi’n hapus gyda’ch gradd ac yn meddwl am y camau nesaf, mae yna sawl opsiwn fedrwch chi gymryd. Mae Cymwysterau Cymru wedi nodi nhw yma.

Dechrau dy Stori

Mae cyngor ac arweiniad am ddim ar gael I helpu chi penderfynnu ar eich camau nesaf ar ol derbyn eich canlyniadau.

Bydd Cymru’n Gweithio a Gyrfa Cymru yn cynnig cyngor diduedd yn rhad ac am ddim i’ch helpu gyda’ch camau nesaf ac ar wneud penderfyniad gwybodus.

Am fwy o wybodaeth, ffonia 0800 028 4844 i siarad â chynghorydd neu cer i https://cymrungweithio.llyw.cymru/dechrau-dy-stori.

Galli di hefyd ddilyn Cymru’n Gweithio a Gyrfa Cymru ar Facebook neu ar Twitter yn @CymrunGweithio a @GyrfaCymru.

Derbyn cymorth a chefnogaeth

Os ydych chi’n teimlo’n isel neu’n bryderus am eich canlyniadau, fedrwch chi siarad gyda Meic ar 080880 23456 pob diwrnod rhwng 0800 a chanol nos.

Cer i wefan Meic

Ffoniwch ni

Os hoffech chi fwy o wybodaeth neu chyngor fedrwch chi alw ein gwasanaeth Ymchwiliadau a Chyngor.

Straen canlyniadau arholiad – Young Minds

Mae Young Minds wedi creu adnodd defnyddiol ar gyfer delio gyda straen derbyn eich canlyniadau arholiad.

Rydyn nhw hefyd wedi credu adnodd ar gyfer rhieni.

The Student Room

Falle byddech chi hefyd am gadw mewn cysylltiad gyda myfyrwyr arall trwy The Student Room, cymuneb fwyaf ar gyfer myfyrwyr yn y DU.