Cynlluniau Ailgylchu Gwisg Ysgol

Mae’r ysgolion a’r grwpiau cymunedol sydd wedi ymuno gyda’n cynlluniau hawliau yn gwneud tair Tasg Hawliau pob blwyddyn.

Yn yr Hydref, byddwn ni’n gofyn i bobl ifanc i sefydlu prosiectau ailgylchu gwisg ysgol.

Rydyn ni eisiau helpu teuluoedd i arbed arian trwy brynu llai o wisg ysgol pob blwyddyn, ac i godi ymwybyddiaeth o sut mae ailgylchu dillad yn helpu’r amgylchedd.

Rydyn ni wedi creu cynlluniau gwers i helpu disgyblion greu siopau eu hunain.

Cymryd Rhan

Os rydych chi eisiau cymryd rhan, cofrestrwch i un o’n cynlluniau isod.

Os rydych chi’n blentyn neu’n berson ifanc, dangoswch y dudalen hon i’ch athro neu arweinydd eich grwp cymunedol.

Cofrestrwch i’n cynllun i Ysgolion Cynradd (Athrawon)

Cofrestrwch i’n cynllun i Ysgolion Uwchradd (Athrawon)

Cofrestrwch i’n cynllun i grwpiau Cymunedol (Arweinwyr grwpiau cymunedol)