- Ystod cyflog £35,757 – £43,758
- Amser llawn 35 awr yr wythnos
- Parhaol
- Mae ein cartref cyfleus, fydd yn eich ysbrydoli, ym Mhort Talbot, gyda chysylltiadau trafnidiaeth rhagorol, sy’n cynnwys bod yn agos at orsaf drenau’r brif lein. Os nad ydych am fod yn y swyddfa drwy’r wythnos, rydyn ni’n cynnig opsiynau gweithio hyblyg ardderchog sy’n cynnwys gweithio hybrid, gweithio o bell a chontractau rhan amser.
- Dyddiad Cau – 16 Mai
Gwybodaeth am Gomisiynydd Plant Cymru
Dyma ein cenhadaeth: Rydyn ni’n gwrando ar blant a phobl ifanc yng Nghymru ac yn codi llais ar eu rhan, fel bod hawliau plant yn cael eu diogelu, ac rydyn ni’n cefnogi, yn herio ac yn dylanwadu ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru er mwyn cael effaith gadarnhaol ar eu bywydau.
Mae’r Comisiynydd yn chwarae rhan allweddol ym mywyd dinesig Cymru ac mae mewn sefyllfa freintiedig trwy fedru siarad yn uniongyrchol â llunwyr penderfyniadau, llywodraethau ac allfeydd y cyfryngau cenedlaethol. Rydyn ni am sicrhau ein bod yn defnyddio’r sefyllfa honno yn y modd mwyaf effeithiol posibl.
Mae ein dogfen ‘Llond Gwlad o Bwrpas’ yn rhoi cipolwg i chi ar sut brofiad yw gweithio i’r Comisiynydd.
Beth byddwch chi’n ei wneud?
Dadansoddi a dylanwadu ar fentrau polisi allweddol gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a chyrff cyhoeddus eraill. Byddwch yn monitro eu heffaith ar lesiant plant, pobl ifanc a theuluoedd ar lefel leol a chenedlaethol, gan roi sylw i bersbectif plant a phobl ifanc
Byddwch hefyd yn gyfrifol am feysydd gwaith penodol sy’n ymwneud â themâu polisi, gan ymateb i ymgyngoriadau’r llywodraeth a hybu hawliau plant yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae’r swydd wag bresennol yn cynnwys polisi iechyd meddwl a gofal cymdeithasol
Pa sgiliau a phrofiad bydd arnoch chi eu hangen ar gyfer y rôl hon?
Rydyn ni’n chwilio am rywun fydd yn ennyn hyder ystod eang o randdeiliaid, o blant a phobl ifanc i lunwyr penderfyniadau ar y lefel uchaf.
Bydden ni’n hoffi bod gennych chi ddealltwriaeth fanwl o faterion polisi ac ymarfer sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc ac effaith swyddogaethau cyrff cyhoeddus, gwirfoddol ac elusennol ar eu hawliau a’u lles. Bydd angen i chi ddangos eich bod yn gallu coladu a dehongli data a defnyddio eich sgiliau dylanwadu cryf i weithio gyda rhanddeiliaid i gyflawni newid ar gyfer plant a phobl ifanc.
Bydd gennych chi lefel ddatblygedig o lythrennedd a sgiliau cyfathrebu ardderchog, sgiliau ymchwil a dadansoddi, a dealltwriaeth o strategaeth llywodraeth leol a chenedlaethol mewn perthynas â CCUHP.
Ydy’r swydd hon yn addas i chi?
Mae ymchwil wedi dangos i ni fod rhai pobl yn amharod i gyflwyno cais os na fedran nhw roi tic ym mhob blwch yn y disgrifiad swydd. Felly, os ydych chi’n meddwl gallech chi wneud y swydd hon, ond dydych chi ddim o reidrwydd yn bodloni pob pwynt yn y disgrifiad swydd, rhowch alwad i ni er mwyn i ni gael trafod y cyfle gyda chi.
Rydym wedi ymrwymo i ehangu ein safbwyntiau fel tîm a darparu modelau rôl cryf i blant o bob ethnigrwydd a chefndir. Ymunwch â ni a dathlwch ddiwylliant ein gweithle lle mae gwahaniaeth yn werthfawr ac rydyn ni’n derbyn pawb am bwy ydyn nhw.
Byddwn ni’n gwarantu cyfweliad i bobl sy’n bodloni gofynion hanfodol y rôl ac sydd â phrofiad bywyd sy’n ein helpu i ddeall persbectif pobl â nodweddion gwarchodedig sydd heb gynrychiolaeth yn ein Tîm ar hyn o bryd.
Os hoffech i ni warantu cyfweliad i chi, nodwch hynny ar y ffurflen gais, os gwelwch yn dda.
Mae fersiwn print bras, braille neu sain o’r hysbyseb yma ar gael ar gais.
Dyddiadau cau a dogfennau
Lawrlwythwch ffurflen monitro cydraddoldeb ac amrywiaeth
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau: 16 Mai 2025
Cynhelir cyfweliadau ar gyfer y swydd hon ar: 16 Mehefin 2025
Os hoffech chi gael sgwrs anffurfiol am y cyfle hwn, ffoniwch 01792 765600 a byddwn ni’n trefnu i chi siarad â’r Comisiynydd.
Mae Comisiynydd Plant Cymru yn gyflogwr cyfle cyfartal sydd wedi ymrwymo i drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg, ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynwyd yn Saesneg.