Adroddiad Blynyddol 2018/19

Darllenwch ein Hadroddiad Blynyddol 2018/19

Lawrlwythwch inffograffeg gydag ystadegau diddorol am ein gwaith eleni

Rydyn ni wedi gweithio’n galed eto eleni i hyrwyddo ac amddiffyn hawliau plant yng Nghymru.

Ein gwaith eleni – Y rhifau

Fe wnaethon ni….

  • Ymateb i 29 ymgynghoriad gan y Cynulliad, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig
  • Ymgysylltu â 9857 o blant a phobl ifanc ledled Cymru mewn digwyddiadau, gweithdai a chyfarfodydd
  • Hyfforddi oddeutu 700 o blant a phobl ifanc i fod yn Lysgenhadon yn eu hysgolion a’u cymunedau
  • Fe wnaeth y Comisiynydd yn bersonol gwrdd â rhyw 100 grŵp o blant a phobl ifanc
  • Cyhoeddi 6 adroddiad ar bynciau o anableddau dysgu i dlodi plant
  • Bu pobl yn edrych ar ein hadnoddau addysg ar Hwb 11,771 o weithiau
  • Ymgynghori â mwy na 10,000 o blant a phobl ifanc i lywio’n cynllun newydd tair blynedd
  • Gweithio gydag o leiaf 54 gweithgor a sefydliad ar amrywiaeth o faterion hawliau plant
  • Cynnal yr arolwg hawliau addysg cyntaf erioed, gan sicrhau 391 o ymatebion gan athrawon a 6392 o ymatebion gan blant a phobl ifanc.
  • Rheoli 671 o achosion trwy ein gwasanaeth Ymchwiliadau a Chyngor annibynnol
  • Sicrhau o leiaf 640 enghraifft o sylw i’r sefydliad mewn darllediadau a phrint, fel bod dros 131 miliwn o gyfleoedd i ddarllen neu glywed am ein gwaith

Mae ein hargymhellion i Lywodraeth Cymru yn cynnwys:

  • Rhoi pob person ifanc gydag anghenion dysgu ychwanegol trafnidiaeth diogel ac addas i le bynnag maen nhw’n dysgu
  • Sicrhau bod ysgolion yn recordio pob digwyddiad o fwlio maen nhw’n gwybod amdanynt, a defnyddio’r wybodaeth maen nhw’n eu casglu i gynllunio, monitro a gwerthuso y ffyrdd maen nhw’n mynd i’r afael â bwlio
  • Cyhoeddi Cynllun Gweithredu ar dlodi plant i ddangos y camau cadarn y bydden nhw’n eu cymryd er mwyn gwella bywydau y plant mwyaf tlawd yng Nghymru
  • I gyhoeddi ar frys sut bydden nhw’n parhau i wella gofal iechyd meddwl ar gyfer pobl ifanc ar ôl i’r rhaflen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc ddod i ben

Gallwch ddarllen crynodeb o’r argymhellion o dudalen 82 ymlaen.