Hawl y Mis
Efallai y bydd llawer ohonoch yn gyfarwydd â’n dull hawl y mis ac wedi gweld ein calendr hawliau fel ffordd i ni rannu hawliau plant gyda chi a’ch athrawon.
Fe hoffwn ni rannu rhai o’n syniadau ar gyfer gweithgareddau a fydd o gymorth i chi ddysgu ac i archwilio eich hawliau. Yn cychwyn o fis Mehefin 2020, ar ddechrau bob mis byddwn ni’n darparu fideo byr ar eich cyfer ac yna gallwch rannu a dangos y fideos yma gyda’ch athrawon. Gobeithio bydd hyn yn eich ysbrydoli!
Yr hawl ar gyfer mis Mai a Mehefin yw Erthygl 27 sef yr hawl i gael cartref, bwyd a dillad addas.
Mae pedwar aelod o’n Tim Cyfranogiad wedi gwneud fideos ar gyfer grwpiau gwahanol oedran….
- O dan 7 mlwydd oed
- 7 i 11 mlwydd oed
- 12 i 18 oed
- Hygyrch
Os hoffech weld y fideos yma neu unrhyw un o’n fideos blaenorol, yna ewch i’n Tudalen Hawl y Mis:
Fe fyddwn ni’n darparu syniadau’n fisol ac yn croesawu unrhyw adborth. Gallwch gysylltu gyda ni drwy ddanfon ebost atom post@complantcymru.org.uk
Gwneud Gwahaniaeth – Canllaw i helpu pobl ifanc creu newid
Mae Gwneud Gwahaniaeth: Canllaw i helpu pobl ifanc creu newid yma i helpu pobl ifanc i godi llais am y pethau sy’n bwysig iddyn nhw.
Seiberfwlio
Rydyn ni wedi creu adnoddau i’ch helpu chi i daclo seiberfwlio yn eich ysgol:
Perthnasau iach (adnodd ysgolion uwchradd)
Mae Agenda yn helpu pobl ifanc i ddysgu am berthnasau iach a pam maen nhw mor bwysig.
Ewch i’r wefan Agenda i lawrlwytho’r adnodd. Mae’n llawn gweithgareddau gallech chi rhedeg yn eich ysgol chi.
Os ydych chi’n ddisgybl ysgol gynradd, dywedwch wrth eich athro bod fersiwn ar gael i ysgolion cynradd.
Cwis Perthnasau Iach a Diogel (Adnoddau Ysgol Uwchradd)
Cynlluniwyd y cwis yma er mwyn eich dysgu chi beth sy’n gwneud perthynas iach ac afiach, a beth dylai chi wneud os ydych chi’n teimlo eich bod chi’n cael eich trin yn wael.
Cymrewch gip ar ein poster am fwy o wybodaeth.
Cardiau Hawliau Plant
Gall y cardiau A4 yma helpu chi i ddysgu mwy am eich hawliau
Poster hawliau plant
Mae’r poster hwn yn esbonio pob hawl sydd gennych chi
Pecyn lluniau Hawliau Plant
Lluniau hyfryd, wedi’u harlunio gan arlunydd proffesiynol i’ch helpu i ddysgu mwy am eich hawliau.
Cyflwyniad Comisiynydd Plant Cymru
Cyflwyniad PowerPoint sy’n esbonio mwy am ein gwaith
Herio Adroddiadau Negyddol yn y gymuned LHDT
Mae’r adnodd ymarferol hwn yn rhoi cyngor ar herio adroddiadau annheg a dinistriol yn y cyfryngau ac yn cynnig camau clir i’w cymryd i gwyno i’r pobl cywir
Herio adroddiadau negyddol yn y cyfryngau o Sipsiwn a Theithwyr
Mae’r adnodd ymarferol hwn yn rhoi cyngor ar herio adroddiadau annheg a dinistriol yn y cyfryngau ac yn cynnig camau clir i’w cymryd i gwyno i’r cyrff perthnasol.
Gweithion ni gyda Sipsiwn a Theithwyr i ddysgu pa gwybodaeth roedden nhw eisiau gwybod i’w helpu i adnabod adroddiadau negyddol, a sut i gwyno.